Nodyn o'r cyfarfod - 10 Mawrth 2022

Cyhoeddwyd 28/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2022   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ddydd Iau 10 Mawrth. Ffocws y cyfarfod oedd trafod yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad a rhaglen waith strategol y Bwrdd.

Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd, ynghyd â chrynodebau o gyfarfodydd blaenorol.

1. Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad

Trafododd y Bwrdd yr holl ymatebion a ddaeth i law ynghylch ei gynigion ar gyfer yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad, gan nodi lefel uchel yr ymgysylltu a gafwyd gan Aelodau, staff cymorth a grwpiau yn ystod yr ymgynghoriad.

Roedd y Bwrdd yn cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod eithriadol, a bod digwyddiadau diweddar a’r amodau economaidd presennol wedi mynd yn drech na nifer o’r cynigion yn yr ymgynghoriad – cynigion y penderfynwyd arnynt ym mis Tachwedd y llynedd. Mae’r Bwrdd yn cydnabod bod angen i’r Penderfyniad barhau i fod yn ymatebol i’r amgylchiadau newidiol hyn. Trafododd y dystiolaeth a’r ymatebion a ddaeth i law, a chytunodd ar newidiadau i’r Penderfyniad.

Bydd y Penderfyniad yn cael ei osod gerbron y Senedd erbyn 1 Ebrill 2022, ynghyd ag adroddiad atodol a fydd yn cynnwys y rhesymeg dros y penderfyniadau a wnaed a’r dystiolaeth ategol a oedd yn sail i’r penderfyniadau hynny.

2. Rhaglen waith strategol y Bwrdd

Trafododd y Bwrdd ei flaenraglen waith strategol am weddill ei gyfnod o wasanaeth, a chytunodd y byddai angen iddo ymgymryd yn raddol â dwy ffrwd waith gyfochrog.

Bydd y ffrwd waith gyntaf yn canolbwyntio ar wneud newidiadau i'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd mewn ymateb i anghenion yr Aelodau. Bydd hyn yn cynnwys yr holl fusnes arferol a’r holl ymrwymiadau presennol, gan gynnwys adolygu goblygiadau’r Cytundeb Cydweithio yn nhymor yr hydref 2022. Yn ogystal, nododd y Bwrdd ddau faes blaenoriaeth ychwanegol ar gyfer cynnal adolygiad thematig: ffyrdd newydd o weithio ac adolygu'r lwfans staff cymorth, gan gynnwys natur y rôl a’r strwythurau cyflog a graddio.

Bydd yr ail ffrwd waith a wneir yn raddol yn canolbwyntio ar baratoi’r Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd. Wrth inni gael mwy o eglurder ynghylch y penderfyniadau ar Ddiwygio’r Senedd, bydd y Bwrdd yn pwyso a mesur y materion dan sylw ac yn penderfynu ar raddfa’r newid sydd ei angen a’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer cynnal adolygiad thematig. Cyn hynny, bydd y Bwrdd yn ceisio gwneud gwaith ymchwil paratoadol.

Mae’r Bwrdd hefyd yn dymuno archwilio rhai materion trawsbynciol penodol: symleiddio a hyblygrwydd, yn ogystal â datgarboneiddio.

Mae'r Bwrdd yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r broses o weithio ar y cyd â Chomisiwn y Senedd er mwyn archwilio'r berthynas rhwng y defnydd a wneir gan Aelodau o lwfansau'r Penderfyniad a'r gwasanaethau a ddarperir i Aelodau gan y Comisiwn. Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnal adolygiad canol tymor o effeithiolrwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a bydd yn adolygu'r ffordd orau o ymgysylltu ag Aelodau a'u staff er mwyn deall eu hanghenion.

Ein cyfarfod nesaf

Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 26 Mai 2022. Byddwn yn trafod ein dull o adolygu ffyrdd newydd o weithio, ymhlith materion eraill.