Cyfarfu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar 28 Ionawr 2021. Mae crynodeb o’r trafodaethau a’r penderfyniadau wedi’i nodi isod.
Covid-19
Adolygodd y Bwrdd effaith barhaus Covid-19 ar yr Aelodau a’u swyddfeydd. Mae ychydig dros flwyddyn wedi mynd heibio ers y profion positif cyntaf a gofnodwyd ar gyfer Covid-19 yn y DU, a bydd ei effaith yn cael ei theimlo’n fwy nag erioed o’r blaen. Yn ystod y cyfnod hwn o’r cyfyngiadau symud, hoffai’r Bwrdd ailadrodd ei ymrwymiad i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i chi a’ch staff cymorth. Mae’r ymrwymiad hwn yn cynnwys bod mor hyblyg ag sy’n ofynnol gyda lwfansau a ddarperir i chi yn ystod y cyfnod hwn.
Fel y gwyddoch, mae’r Bwrdd eisoes wedi rhoi cyfres o fesurau ar waith i helpu gydag effaith parhau i weithio gartref, ac os bydd angen, mae’r Bwrdd yn barod i gyflwyno mesurau cymorth pellach. Os oes gennych unrhyw faterion sydd angen eu hystyried, gallwch naill ai gysylltu â’r Bwrdd drwy’r ysgrifenyddiaeth neu godi’r mater yn uniongyrchol â’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.
Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
Yn dilyn cyflwyno Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) gan Lywodraeth Cymru, bu’r Bwrdd yn ystyried y goblygiadau posibl i’r Penderfyniad a allai godi o ganlyniad i fyrhau cyfnod y diddymiad a gohirio Etholiadau’r Senedd. Mae’r Bwrdd yn ymwybodol, er bod ymrwymiad o hyd i gynnal yr etholiadau ar 6 Mai 2021, bod y Bil yn darparu ar gyfer sefyllfa lle gallai fod angen gohirio’r etholiadau o ganlyniad i bandemig Covid-19, a bod hyn, felly, yn arwain at ansicrwydd i’r Aelodau a’u staff o ran pa mor hir fydd tymor y Pumed Senedd.
Er y bydd angen i rai penderfyniadau aros am ganlyniad hynt y Bil, er mwyn rhoi sicrwydd cynnar ynghylch rhai materion, cytunodd y Bwrdd ar rai penderfyniadau dros dro yn ei gyfarfod.
Mae’r penderfyniad cyntaf yn ymwneud â dirwyn swyddfeydd i ben. Mae’r Penderfyniad yn darparu mai’r cyfnod hwyaf ar gyfer dirwyn i ben yw tri mis (adran 9.1 o’r Penderfyniad). Fel arfer, disgwylir i’r Aelodau hynny sy’n rhoi’r gorau i’w sedd ddirwyn eu materion i ben ddim hwyrach na chwe wythnos ar ôl dechrau’r diddymiad (7 Ebrill 2021 ar hyn o bryd). Mae hyn yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd yr Aelodau hynny’n gallu rhoi rhybudd diswyddo i’w staff ac i landlordiaid am gytundebau rhentu ac ati ymhell cyn y diddymiad. O ystyried darpariaeth y Bil i fyrhau hyd y diddymiad o bedair wythnos i un wythnos (byddai’r Senedd yn cael ei diddymu ar 29 Ebrill), a’r posibilrwydd y bydd tymor Aelod yn ei swydd yn cael ei ymestyn pe bai angen gohirio’r etholiad ar fyr rybudd, mae’r Bwrdd yn cydnabod yr anawsterau y gallai hyn eu hachosi i’r Aelodau hynny o ran pryd y dylent ddechrau dirwyn eu swyddfeydd i ben a rhoi rhybudd ynghylch rhwymedigaethau sy’n fwy na chwe wythnos.
Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch dyddiad yr etholiad, ac yn amodol ar basio’r Bil, mae’r Bwrdd wedi cytuno y gallai fod angen mwy o hyblygrwydd nag arfer ar yr Aelodau hynny sy’n rhoi’r gorau i’w sedd o ran hyd eu cyfnod dirwyn i ben. Felly, os bydd angen, gall yr Aelodau hynny sy’n rhoi’r gorau i’w sedd ddechrau eu cyfnod dirwyn i ben chwe wythnos ar ddechrau’r diddymiad byrrach, yn hytrach na’r dyddiad presennol ar gyfer diddymu (29 Ebrill yn hytrach na 7 Ebrill). Er eglurder, mae croeso hefyd i’r Aelodau hynny sy’n dymuno parhau i ddirwyn i ben o 7 Ebrill wneud hynny.
Fel bob amser, mae’r Bwrdd yn annog yr Aelodau hynny i gynllunio ymlaen llaw gyda’r nod o ddirwyn i ben cyn gynted â phosibl ar ôl y diddymiad, er mwyn lleihau’r effaith ar bwrs y wlad. Os bydd angen mwy o amser na’r chwe wythnos a ragwelir ar yr Aelodau sy’n rhoi’r gorau i’w sedd ar gyfer rhai ymrwymiadau oherwydd y cynigion yn y Bil, dylent drafod hyn gyda’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau a’i gytuno fel rhan o’r cynllun dirwyn i ben ysgrifenedig. Os yw’r etholiad yn cael ei ohirio y tu hwnt i fis Mai, bydd y Bwrdd yn adolygu effaith y ddarpariaeth hon ar yr adeg honno.
Mae’r ail benderfyniad yn ymwneud â’r ddarpariaeth staffio ar sail tymor penodol. Ar hyn o bryd, mae’r Polisi Recriwtio yn caniatáu i’r Aelodau benodi staff ar sail penodiad tymor penodol o hyd at 18 mis. Yn dilyn hyn, mae’r contract naill ai’n cael ei derfynu neu, os bydd y gofyniad am y swydd yn parhau, byddai angen i’r Aelod greu swydd barhaol a gaiff ei recriwtio drwy gystadleuaeth agored a theg. O ystyried y posibilrwydd y gallai rhai contractau ddod i ben ar adeg y diddymiad, os bydd yr etholiad yn cael ei ohirio, efallai na fydd Aelodau’n gallu ymestyn y contract i gwmpasu tymor estynedig y Pumed Senedd. Mae’r Bwrdd o’r farn y byddai’n rhesymol i’r Aelodau allu penderfynu ymestyn contractau unrhyw staff tymor penodol yn ystod y cyfnod gohirio. Felly, os bydd yr etholiad yn cael ei ohirio, mae’r Bwrdd wedi cytuno i ymestyn dros dro y terfyn ar hyd contractau staffio tymor penodol yn y Pumed Senedd o 18 i 22 mis, lle bo angen.
Bydd y Bwrdd yn dod yn ôl at oblygiadau’r Bil ym mis Mawrth os caiff ei basio gan y Senedd. Yn y cyfamser, bydd yn ystyried unrhyw benderfyniadau a wneir gan Gomisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Busnes a allai effeithio ar y darpariaethau cymorth sydd ar gael i’r Aelodau.
Dyfarniad McCloud a Chynllun Pensiwn yr Aelodau
Trafododd y Bwrdd effaith achosion McCloud a Sargeant ar Gynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd. Roedd yr achosion hyn yn ymwneud â her i’r darpariaethau trosiannol a geir mewn dau gynllun pensiwn ar y sail bod aelodau iau yn cael eu trin yn llai ffafriol ar sail oedran.
Cytunodd y Bwrdd i ailedrych ar y mater hwn unwaith y bydd Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn yr Aelodau wedi ystyried pa newidiadau y gallai fod yn ofynnol yn sgil y ddau achos.
Os bydd angen unrhyw newidiadau, bydd y Bwrdd yn ymgynghori ag aelodau’r Cynllun maes o law.
Diogelwch yr Aelodau yn y Chweched Senedd
Fel y gwyddoch, mae’r Bwrdd yn darparu cyllid ar gyfer diogelwch yr Aelodau pan fyddant i ffwrdd o ystâd y Senedd, er enghraifft pan fyddant yn eu cartrefi a’u swyddfeydd etholaethol. Amlinellir darpariaethau o’r fath yn y Penderfyniad. I’r perwyl hwn, trafododd y Bwrdd y fframwaith cyffredinol ar gyfer diogelwch yr Aelodau yn ogystal â throsolwg o’r materion y mae’r Bwrdd yn gyfrifol am ddarparu adnoddau ar eu cyfer nawr ac yn y Chweched Senedd. Cytunodd y Bwrdd i barhau â’r darpariaethau presennol ac y dylent fod yn destun ystyriaethau gwerth am arian, yn unol ag egwyddorion arweiniol y Bwrdd.
Blaenraglen waith a strategaeth
Fel rhan o gynllunio strategol y Bwrdd, cynhaliodd sesiwn cynllunio senarios i nodi’r goblygiadau i’w waith os bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i gynyddu capasiti’r Senedd. Yn y cyfarfod nesaf, bydd y Bwrdd yn cynnal ymarfer tebyg i drafod y goblygiadau posibl pe bai’r Senedd yn aros yr un maint yn y dyfodol. Bydd canlyniadau’r ddwy sesiwn hyn yn llywio datblygiad strategaeth y Bwrdd ar gyfer ei dymor yn y swydd yn ddiweddarach eleni.
Ymgynghoriad ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
Yn olaf, hoffai’r Bwrdd hefyd eich atgoffa bod yr ymgynghoriad ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd ar agor o hyd. Os hoffech gyflwyno ymateb, gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon eich sylwadau erbyn 11 Chwefror 2021 fan bellaf. Bydd y Bwrdd yn trafod yr ymatebion i hyn, a’r ymgynghoriad ar y contract staff cymorth, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.
Fel bob amser, os hoffech drafod unrhyw fater â mi, cysylltwch ag ysgrifenyddiaeth y Bwrdd drwy anfon neges i taliadau@senedd.cymru i wneud trefniadau.