Nodiadaw’r Cyfarfod -10 Rhagfyr 2020

Cyhoeddwyd 05/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munud

Cyfarfu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar 10 Rhagfyr 2020. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau. 

Covid-19 

Adolygodd y Bwrdd y defnydd o’r lwfansau ychwanegol a roddwyd i’r Aelodau yn ystod pandemig Covid-19. Mae’r Bwrdd yn fodlon bod y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd yn parhau i fod yn ddigonol i fodloni’r trefniadau gweithio presennol. Fel y nodwyd eisoes, mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu ym mhob cyfarfod i sicrhau bod y cymorth sydd ar gael yn parhau i ddiwallu anghenion yr Aelodau a’u staff cymorth. Fel bob amser, mae’r Bwrdd yn barod i gefnogi’r Aelodau yn y cyfnod eithriadol ac ansicr hwn. 

Nododd y Bwrdd hefyd y cynnig gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth frys i ganiatáu gohirio etholiad y Senedd, pe bai hynny’n ofynnol. Cytunwyd i drafod ymhellach effaith hyn ar waith y Bwrdd a’r Penderfyniad ar Gyflog a Lwfansau’r Aelodau pan fydd y ddeddfwriaeth wedi’i chyflwyno. 

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, 2021-22 

Cwblhaodd y Bwrdd ei gynigion ar gyfer yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr 2020. Mae manylion llawn am gynigion y Bwrdd wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori. 

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 11 Chwefror 2021, a bydd y Bwrdd yn trafod yr ymatebion a geir yn ei gyfarfod ar 4 Mawrth 2021.  

Bydd y Bwrdd hefyd yn cyfarfod â’r Grwpiau Cynrychioli’r Aelodau a’r staff cymorth cyn dyddiad cau’r ymgynghoriad. 

Contract staff cymorth 

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad gan y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau am yr ymgynghoriad ar ddiweddaru’r contract staff cymorth a’r llawlyfr staff. Mae’r contract drafft bellach wedi’i ddosbarthu i ymgynghori yn ei gylch, a byddai’r Bwrdd yn eich annog i rannu eich safbwyntiau â’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.  

Blaenraglen waith a strategaeth 

Trafododd y Bwrdd ei strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu fel rhan o’i gynllun gwaith yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd i drafod ymhellach sut y bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar ôl cwblhau ei strategaeth yn hwyrach eleni. 

Fel y nodwyd yn ein llythyr blaenorol, bydd y Bwrdd, rhwng nawr a’r haf, yn trafod y dull strategol o ymdrin â’i waith yn ystod y Chweched Senedd, gan ystyried ffactorau allanol megis effaith Brexit, Covid-19 ac unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol posibl. Er mwyn hwyluso’r gwaith hwn, mae’r Bwrdd wedi cytuno i wneud rhywfaint o waith cynllunio senarios ar faterion o’r fath, y bydd yn ei wneud rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021. 

Yn olaf, mae’r Bwrdd wedi dechrau trefnu cyfres o ymweliadau “rhithwir” â swyddfeydd etholaethol / rhanbarthol i gwrdd ag Aelodau a staff cymorth. Bydd ymweliadau o’r fath yn rhoi cyfle i’r Bwrdd ddeall yn well sut mae Aelodau a staff yn gweithio yn yr amgylchiadau gwirioneddol eithriadol hyn, ac i archwilio anghenion y dyfodol wrth inni nesáu at y tymor seneddol nesaf. Bydd yr ymweliadau hyn yn dechrau yng ngogledd Cymru ac yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Bwriad y Bwrdd yw ymweld â chymaint o swyddfeydd â phosibl cyn y diddymiad.  

Fel bob amser, os hoffech drafod unrhyw fater â mi, cysylltwch ag ysgrifenyddiaeth y Bwrdd drwy anfon neges i taliadau@senedd.cymru i wneud trefniadau. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddymuno blwyddyn newydd iach a hapus i chi oll. 

Pob dymuniad da, a chadwch yn ddiogel,