Nodiadau'r Cyfarfod - 8 Gorffennaf 2021

Cyhoeddwyd 29/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/08/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r nodyn hwn yn rhoi crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Bwrdd a wnaed yn y cyfarfod ffurfiol a gynhaliwyd ddydd Iau 8 Gorffennaf 2021. Mae diweddariadau yn dilyn cyfarfodydd blaenorol ar gael ar wefan y Bwrdd.

Diweddariad ynghylch Covid-19

Trafododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y pandemig COVID-19 a’i effaith barhaus ar Aelodau, eu swyddfeydd a’u gwaith yn y Senedd.

Cronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn sgil COVID-19

Er bod y pandemig ymhell o fod ar ben, mae llywodraethau ledled y DU yn llacio cyfyngiadau i geisio dod â rhywfaint o normalrwydd yn ôl i’n bywydau beunyddiol. O ganlyniad, cydnabyddir y bydd yr Aelodau o bosibl am gymryd camau i agor, neu ailagor, eu swyddfeydd - fel gweithle ac fel lleoliad i gwrdd ag etholwyr. I hwyluso’r broses hon, hoffai'r Bwrdd dynnu sylw'r Aelodau at y Gronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn sgil COVID19, sydd wedi bod ar gael ers y llynedd. Sefydlwyd y Gronfa i ddarparu cyllid i brynu offer sy'n angenrheidiol i leihau'r risg o haint gan COVID-19 i unigolion sy'n gweithio yn eu swyddfeydd etholaeth neu ranbarthol. Gall offer o'r fath gynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i) hylif diheintio dwylo, masgiau wyneb a sgriniau.

I hawlio arian o'r gronfa, mae angen gwneud Asesiad Risg i nodi'r mesurau sy’n rhaid eu cymryd a chost y mesurau hyn. Wrth gwrs, bydd egwyddorion arferol y Penderfyniad yn dal i fod yn berthnasol i’r nwyddau neu'r gwasanaethau angenrheidiol a nodwyd, gan gynnwys gwerth am arian a rhesymoldeb. Mae canllawiau ar sut i gynnal asesiad o’r fath wedi’u darparu gan Gomisiwn y Senedd yn ei ddogfen, “Cynllunio ar gyfer defnyddio swyddfeydd yn ddiogel”.

Os yw Asesiad Risg gan Aelod yn nodi bod yn rhaid prynu nwyddau neu wasanaethau sy'n werth mwy na chyfanswm o £500, gall hawliadau o'r fath fod yn destun gwaith craffu a dilysu pellach, cyn iddynt gael eu derbyn. Mae'r broses wirio hon yn gyson â darpariaethau eraill y Penderfyniad ac yn sicrhau bod hawliadau o'r fath yn cyd-fynd ag egwyddorion y Bwrdd (fel y’u nodir ym Mhennod 1 y Penderfyniad) i sicrhau’r defnydd cywir o adnoddau.

Nid yw'r gronfa hon yn berthnasol i swyddfeydd ar Ystâd y Senedd, gan gynnwys Tŷ Hywel, gan fod cyfrifoldeb am y gweithleoedd hynny wedi’i rannu rhwng yr Aelodau a Chomisiwn y Senedd.

Nid wnaed unrhyw hawliadau o’r gronfa ers mis Chwefror eleni. O ystyried y camau diweddar i lacio'r cyfyngiadau a'r tebygolrwydd y bydd rhai Aelodau bellach am agor neu bailagor eu swyddfeydd, mae’r Bwrdd yn eich annog i wneud cais am unrhyw gyllid sydd ei angen arnoch i’ch helpu i agor eich swyddfa yn ddiogel.

Newidiadau i gynlluniau swyddfeydd

Bu'r Bwrdd hefyd yn trafod newidiadau strwythurol ehangach, a mwy arwyddocaol, i gynlluniau’r swyddfeydd, gan ofyn a fyddai'r rhain yn dod o fewn cwmpas y Gronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn sgil COVID-19. Gwerthfawrogir y gallai rhai Aelodau wynebu problemau penodol wrth sicrhau bod eu swyddfeydd yn “ddiogel o ran COVID-19”; er enghraifft, o safbwynt maint y swyddfa, cynllun yr ystafell neu sicrhau llif awyr digonol i greu amgylchedd gwaith diogel.

Nododd y Bwrdd ei bod yn debygol y bydd cyfyngiadau ar allu Aelodau i wneud y newidiadau hyn oherwydd eu bod yn lesddeiliaid. Bydd cael caniatâd i wneud unrhyw newidiadau yn dibynnu ar delerau penodol y brydles, o gofio mai'r landlord sy'n gyfrifol am newidiadau o'r fath fel rheol. At hynny, nododd y Bwrdd, os gwneir unrhyw newidiadau, y gallai fod angen dadwneud y rhain ar ddiwedd cyfnod y brydles er mwyn dychwelyd y swyddfa i'w chyflwr gwreiddiol. Fel y mae, ni fyddai'r cyllidebau ar gyfer dirwyn i ben sydd ar gael i Aelodau sydd ddim yn dychwelyd ar ôl etholiad (yn unol â Phennod 9 y Penderfyniad) yn cynnwys gwaith o'r fath.

Bu’r Bwrdd yn trafod a ddylid caniatáu i Aelodau hawlio am fesurau o'r fath, ac a fyddai hyn yn cynnig gwerth am arian. Mae'r Bwrdd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o'r lefel rybudd, yn ogystal â’r rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig, ers ei gyfarfod ar 7 ac 8 Gorffennaf 2021. Y neges o hyd yw y dylai pobl barhau i weithio gartref lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mae llwybr clir tuag at ailagor pob adeilad, tra’n sicrhau bod “mesurau rhesymol” yn cael eu cymryd i reoli'r risg yn sgil COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylid cyflwyno mesurau o'r fath ar sail canlyniadau asesiad risg penodol, gan gynnwys cadw pellter corfforol.

Yn unol â dull Llywodraeth Cymru o gymryd “mesurau rhesymol”, mae'r Bwrdd o'r farn y bydd angen i Asesiadau Risg yr Aelodau ystyried amryw opsiynau i gynnig hyblygrwydd wrth ymateb i gyfyngiadau strwythurol eu swyddfeydd. Er enghraifft, gallai hyn olygu bod yn rhaid i staff weithio gartref neu mewn shifftiau yn y swyddfa i ymdrin ag unrhyw risgiau. Byddai unrhyw ddull o'r fath yn ddibynnol ar y niferoedd a ganiateir o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r asesiad risg gan bob Aelod.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r Bwrdd yn rhagweld y bydd Aelod yn gallu gwneud asesiad risg, heb fod angen cyngor arbenigol ynghylch iechyd a diogelwch. Mae'n annhebygol y bydd cyngor arbenigol ynghylch iechyd a diogelwch yn angenrheidiol i fwyafrif yr Aelodau, ond os yw Aelodau o'r farn bod angen cyngor o’r fath arnynt, maent yn rhydd i gomisiynu gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd a diogelwch i wneud y gwaith hwn. Gellir talu am y gwasanaethau hyn allan o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr.

Adolygiad o gefnogaeth COVID-19 yn y dyfodol

Yn olaf, fel yr amlinellwyd yn niweddariad mis Mai, bydd y Bwrdd yn adolygu'r gefnogaeth a ddarperir i Aelodau mewn perthynas â COVID-19 (yn unol ag adran 2.5 o'r Penderfyniad) yn ei gyfarfod ar 30 Medi 2021.

Fel rhan o'r adolygiad hwn, mae aelodau'r Bwrdd yn awyddus i wella eu dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu Aelodau a’u staff wrth iddynt barhau i weithio yn ystod y pandemig. I'r perwyl hwnnw, byddai'r Bwrdd yn ddiolchgar pe gallai'r Aelodau rannu amlinelliad o'r materion y maent yn eu hwynebu yn eu gwaith. Gallai materion o'r fath fod yn gysylltiedig â dychwelyd i swyddfeydd yn ddiogel; cefnogi’r broses o symud yn barhaol at gymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref; neu’r gallu i ymgysylltu ag etholwyr yn ddiogel.

Os yw'r Aelodau'n dymuno cyflwyno tystiolaeth fel rhan o adolygiad y Bwrdd, gofynnir iddynt roi amlinelliad o'r materion perthnasol, sut y gellir lliniaru unrhyw faterion ac amcangyfrif o gost cymryd y camau hyn. Ni ddylai’r cyflwyniadau fod yn hwy na dwy ochr
A4, a byddai'r Bwrdd yn ddiolchgar pe gellir eu hanfon at yr ysgrifenyddiaeth erbyn dydd Gwener 3 Medi 2021 fan bellaf.

Yn dilyn yr adolygiad ym mis Medi, bydd y Bwrdd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am unrhyw newidiadau i'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt wrth ymateb i'r pandemig COVID-19.

Yn y cyfamser, bydd y mesurau presennol o dan adran 2.5 o'r Penderfyniad yn aros ar waith hyd nes ein bod wedi cynnal yr adolygiad hwn, a than ddiwedd mis Medi 2021 fan gynharaf. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:

  • Lwfans gweithio gartref: lwfans o hyd at £26 y mis sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol i helpu staff i dalu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gweithio gartref. Mae’r gyfradd hon yn unol â chanllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
  • Asesiadau cyfarpar sgrin arddangos (DSE) ar-lein: cwrs ar-lein i ddysgu Aelodau a staff cymorth sut i gynnal asesiad DSE a deall pa addasiadau sydd eu hangen i weithio’n ddiogel. Gall yr Aelodau hawlio arian o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr i dalu am gostau’r cyfarpar y mae ei angen ar gyfer addasiadau;
  • Cronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn sgil COVID-19: cyllid i helpu’r Aelodau i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â bodloni gofynion newydd iechyd a diogelwch a sicrhau bod eu swyddfeydd etholaeth/rhanbarthol yn ddiogel o ran COVID-19.

Ymgysylltu â’r Aelodau a’u staff

Fel y nodwyd yn niweddariad mis Mai, mae’r Bwrdd yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r Aelodau a’u staff cymorth, naill ai drwy’r grwpiau cynrychiadol neu drwy gyfrwng cyfarfodydd i drafod pryderon penodol neu unrhyw faterion y bydd yn ymgynghori yn eu cylch. Gall y cyfarfodydd hyn helpu’r Bwrdd i feithrin dealltwriaeth well o’r anawsterau sy’n wynebu’r Aelodau a’u staff cymorth. Mae’r cyfarfodydd hefyd yn gyfle i chi dynnu sylw’r Bwrdd at faterion penodol.

I'r perwyl hwn, mae'r Bwrdd yn ddiolchgar i'r Aelodau hynny a ddaeth i’r sesiwn galw heibio ddydd Mercher 7 Gorffennaf. Roedd y Bwrdd yn gwerthfawrogi'r holl adborth a roddwyd ganddynt. Hefyd, o ystyried pa mor werthfawr yw’r cyfarfodydd hyn, mae'r Bwrdd wedi cytuno i geisio cynnal sesiynau galw heibio o'r fath yn fwy rheolaidd. Felly, bydd y Bwrdd yn anelu at drefnu sesiwn galw heibio unwaith y tymor o hyn ymlaen.

Bydd y Bwrdd hefyd yn cyfarfod â'r grwpiau cynrychioladol cyn ei gyfarfod ar 30 Medi, felly rhowch wybod i’ch cynrychiolydd os oes unrhyw faterion yr hoffech i’r Bwrdd eu trafod.

Taliadau i Gadeiryddion y Pwyllgorau

Yn dilyn y broses o sefydlu pwyllgorau’r Chweched Senedd, cyn ethol y Cadeiryddion ddiwedd mis Mehefin, trafododd y Bwrdd gyfradd y cyflog ychwanegol ar gyfer deiliad swyddi sy'n daladwy i Gadeiryddion y Pwyllgorau yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'r Penderfyniad yn darparu ar gyfer dwy gyfradd, sef cyfradd uwch o £13,741 a chyfradd is o £9,154.

O gofio cylch gwaith a chyfrifoldebau Cadeiryddion y Pwyllgorau, a phwysigrwydd rôl holl Bwyllgorau'r Senedd wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a chyflawni swyddogaethau'r Senedd, mae’r Bwrdd wedi penderfynu y bydd gan bob Cadeirydd a etholwyd ar 29 Mehefin yr hawl i dderbyn y gyfradd uwch. Mae hyn yn golygu mai'r cyflog ychwanegol ar gyfer Cadeiryddion y Pwyllgorau a benodwyd ar 29 Mehefin fydd £13,741 y flwyddyn, yn amodol ar fynegeio blynyddol yn unol â'r Penderfyniad. Bydd y cyflog ychwanegol hwn yn daladwy o 29 Mehefin.

Hefyd, cytunodd y Bwrdd i gadw'r gyfradd is pe bai ei hangen yn y dyfodol.

Newid rheolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Fel y byddwch yn gwybod, mae'r Bwrdd wedi penderfynu y dylai gymryd camau i unioni'r gwahaniaethu o fewn Rheolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau. Mae hyn yn dilyn achos lle heriwyd rhai o ddarpariaethau’r cynlluniau pensiwn ar gyfer Barnwyr a Diffoddwyr Tân ar y sail bod aelodau iau yn cael eu trin yn llai ffafriol ar sail eu hoedran. Dyfarnwyd bod y darpariaethau hyn yn wahaniaethol. Mae darpariaethau tebyg yng Nghynllun Pensiwn Aelodau Senedd Cymru ac maent yn effeithio ar Aelodau a oedd:

  • mewn gwasanaeth gweithredol ar 1 Ebrill 2012;
  • o dan 55 oed ar 1 Ebrill 2012; ac
  • mewn gwasanaeth gweithredol ar 6 Mai 2016.

Bydd y Bwrdd yn ysgrifennu at yr Aelodau hynny y mae’r mater hwn yn effeithio arnynt ac yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y datrysiad arfaethedig. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ddiweddarach y mis hwn.

Gwefan newydd y Bwrdd

Mae'r Bwrdd yn falch o gyhoeddi y bydd yn lansio ei wefan newydd ddydd Llun 2 Awst 2021. Bydd gwefan y Senedd yn gartref i’r wefan newydd, a bydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch mewn perthynas â gwaith y Bwrdd. Byddai'r Bwrdd yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych ar y wefan ar ei newydd wedd.

Profedigaeth

Roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth Carys Evans. Fel ei chydweithwyr ar Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, hoffem anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei theulu a'i chydweithwyr yn y Senedd.

Roeddem yn hynod ffodus o gael cyfle i ddod i nabod Carys a gweithio'n gyda hi yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Fel y byddwch o bosibl yn gwybod, roedd Carys yn glerc yn ystod tymor cyntaf Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd bryd hynny. Gosododd y safon uchaf ar gyfer y clercod a ddilynodd wedi hynny.

Yn fwy diweddar, gwnaethom elwa ar gefnogaeth a phresenoldeb Carys yng nghyfarfodydd y Bwrdd, yn ei rôl fel Pennaeth y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau. Defnyddiodd Carys ei deallusrwydd aruthrol i weithio gydag Aelodau o'r Senedd a'r Bwrdd i ddod o hyd i ddatrysiadau, gan sicrhau bod yr Aelodau’n cael y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt i'w galluogi i wneud eu gwaith ar ran pobl Cymru. Byddwn ni, fel llawer o bobl eraill, yn gweld ei heisiau yn fawr, ac anfonwn ein cydymdeimlad twymgalon at ei theulu, ei ffrindiau a’i chydweithwyr ehangach ar yr adeg hon.