Nodiadau’r cyfarfod – 5 Gorffennaf 2018

Cyhoeddwyd 18/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 5 Gorffennaf. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Trafododd y Bwrdd bapur cwmpasu ar gyfer ei adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad a chytunodd ar ba feysydd o’r Penderfyniad y mae angen sylw arbennig arnynt yn ystod ei adolygiad. Caiff goblygiadau rhaglen ddiwygio’r Cynulliad gan y Comisiwn ar y Penderfyniad eu trafod gan y Bwrdd pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.

Effaith newid Arweinydd ar staff cymorth grŵp

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd am y tribiwnlys cyflogaeth presennol.

Trafod yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2017-18

Trafododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2017-18 a chytunodd i gyhoeddi’r adroddiad maes o law.

Llywodraethiant y Bwrdd o Gynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafododd y Bwrdd lywodraethiant y cynllun pensiwn ar gyfer staff cymorth a chytunodd y dylid cael corff dynodedig a fyddai’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran y cynllun. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r corff yn cynnwys y Pennaeth Pensiynau a chynrychiolydd o’r Bwrdd a’r Comisiwn. Cytunodd y Bwrdd y dylai’r corff hwn gyfarfod yn flynyddol.

Adolygiad i nodi’r rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Nododd y Bwrdd yr adroddiad y trefnodd iddo gael ei gomisiynu gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sef Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd ddydd Iau 5 Gorffennaf. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion a godwyd yn yr adroddiad yn ystod gweddill ei gyfnod.

Polisi Urddas a Pharch

Nododd y Bwrdd yr adroddiad canlyniadau ar ôl Arolwg Urddas a Pharch diweddar y Comisiwn. Cytunodd y Bwrdd i drafod a oes angen iddo wneud newidiadau i’r polisïau presennol y mae’n gyfrifol amdanynt yn sgîl y Polisi newydd yn ei gyfarfod ym mis Hydref. Nododd y Bwrdd y byddai canlyniad Ymchwiliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad hefyd yn hysbys erbyn hyn.

Materion eraill

Cytunodd y Bwrdd i dreialu ffurflen gais newydd i’r Aelodau a hoffai wneud cais am dreuliau eithriadol o dan adran 2.4 o’r Penderfyniad.

Hoffai’r Bwrdd ddiolch i bob Aelod a oedd yn bresennol yn y sesiwn galw heibio i’r Aelodau yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf. Croesawodd y Bwrdd yr adborth cadarnhaol a gafwyd ynglŷn â’r hyblygrwydd ychwanegol a gyflwynwyd ganddo’n ddiweddar i’r Penderfyniad a chytunodd i drafod y materion eraill a godwyd yn ei flaenraglen waith.