Nodiadau’r cyfarfod – 4 Gorffennaf 2019

Cyhoeddwyd 24/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 4 Gorffennaf 2019. Rhoddir crynodeb isod o’r trafodaethau a gafwyd a’r penderfyniadau a wnaed.

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Mae’r Bwrdd wrthi’n cynnal adolygiad o’r Penderfyniad cyn y Cynulliad nesaf ac fe dreuliwyd y rhan fwyaf o gyfarfod mis Gorffennaf yn trafod y gwahanol faterion sy’n codi o’r adolygiad fel yr amlinellir isod:

Rhan Un

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyntaf yn sgil yr adolygiad, a oedd yn canolbwyntio ar ddarpariaethau Teithio, Costau Swyddfa a Gwariant Llety Preswyl yr Aelodau. Mae crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd yn dilyn yr ymgynghoriad hwn i’w gweld yn ei lythyr ynghylch y penderfyniad.

Rhan Dau

Trafododd y Bwrdd hefyd y darpariaethau o dan ran dau o’i adolygiad sy’n canolbwyntio ar y lwfansau cymorth staffio a geir yn y Penderfyniad. Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi ymgynghoriad ar ei gynigion yn deillio o’r rhan hon o’r adolygiad yn fuan cyn toriad yr hafMae’r ymgynghoriad hwn wedi’i gyhoeddi ac rydym yn edrych ymlaen at glywed eich barn.

Yn ogystal â’r materion sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad, trafododd y Bwrdd hefyd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ac a oedd angen ei newid o gwbl. Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Rhan Tri

Aeth y Bwrdd ati hefyd i ystyried ymhellach y materion sy’n rhan o drydedd ran yr adolygiad ar y penodau yn y Penderfyniad sy’n trafod taliadau Aelodau a chefnogaeth i Aelodau sy’n gadael eu swyddi. Bydd y Bwrdd yn edrych ar y materion hyn eto yn ei gyfarfod nesaf ym mis Medi. Fel y nodwyd ar wefan y Bwrdd, mae’r Bwrdd yn disgwyl cyhoeddi ymgynghoriad ar y materion a godir yn y rhan hon o’r adolygiad yn nhymor yr hydref.

Adolygiad o Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau
Mae’r Bwrdd wedi trafod yn y gorffennol a oedd angen adolygu Rheolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion o ran gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer y rheini sy’n 75 oed a hŷn. Yn dilyn trafodaeth bellach, mae’r Bwrdd wedi cytuno i gynnig rhai newidiadau i Reolau’r Cynllun. Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod y Cynllun yn cydymffurfio â gofynion gwahaniaethu ar sail oedran yn ogystal â darparu mwy o hyblygrwydd i Aelodau sy’n dioddef o salwch difrifol. Mae’r cynigion eisoes wedi’u cyhoeddi a gellir dod o hyd iddynt yma.

Yr Adroddiad blynyddol

Trafododd y Bwrdd ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2018-19 a chytunodd y dylid ei osod gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf.

Materion eraill

Rhoddwyd diweddariad i’r Bwrdd ar newid cyfansoddiadol yn y Cynulliad. Trafododd y Bwrdd y gweithgaredd diweddaraf o ran y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) a bydd yn parhau i fonitro datblygiadau ar hynt y Bil a ph’un a oes unrhyw effaith ar y meysydd o fewn ei gylch gwaith. Nododd y Bwrdd hefyd benderfyniad Comisiwn y Cynulliad i beidio â deddfu ar gyfer sefydliad mwy o faint mewn pryd ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Hoffai’r Bwrdd hefyd gofnodi ei ddiolch i Rebecca Hardwicke am ei holl waith wrth gefnogi’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn ddiolchgar iawn i Rebecca am ei chefnogaeth i’r Bwrdd, yr Aelodau a’u staff, ac mae’n dymuno’n dda iddi yn ei gyrfa newydd.