Nodiadau'r cyfarfod - 30 Medi 2021

Cyhoeddwyd 09/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/12/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Bydd yn
cael ei gyhoeddi ar wefan y Bwrdd ynghyd â chrynodebau o gyfarfodydd blaenorol.

1. Ymgysylltu â’r Aelodau a staff cymorth

Fel Bwrdd, rydym wedi ymrwymo i raglen ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd a’ch staff
cymorth.

Fel rhan o hyn, mae dau Grŵp Cynrychiolwyr ar waith: un yn cynrychioli Aelodau a’r llall
yn cynrychioli eich staff cymorth. Mae manylion am aelodaeth y Grwpiau ar gyfer y
Chweched Senedd i’w gweld yn yr Atodiad i’r llythyr hwn. Mae cyfarfodydd y Grŵp
Cynrychiolwyr yn rhoi cyfle i ddod â materion o bwys i’n sylw, er mwyn ein galluogi i ddeall
yn well y materion rydych chi a’ch staff yn eu hwynebu. Maent hefyd yn rhoi cyfle i ni roi’r
wybodaeth ddiweddaraf i chi a’ch staff–a gofyn am eich mewnbwn–ar ein gwaith. Cyfarfu
aelodau’r bwrdd â’r Grwpiau Cynrychiolwyr ddydd Mercher 29 Medi. Rydym yn ddiolchgar
am y cyfraniadau pwysig a wnaed, a gafodd eu bwydo i’n cyfarfod ffurfiol ar 30 Medi ac a
fydd yn llywio ein rhaglen waith yn y dyfodol.

Yn unol â’n hymrwymiad blaenorol i drefnu sesiynau galw heibio bob tymor ar gyfer
Aelodau, byddwn yn gwneud trefniadau i’n sesiynau galw heibio nesaf gael eu cynnal ar
24 Tachwedd 2021, 14:00 – 16:30. Yn amodol ar ganllawiau iechyd cyhoeddus ac asesiadau
risg perthnasol, ein bwriad yw cynnal y cyfarfodydd hyn yn y Senedd – edrychwn ymlaen at
gyfarfod â chi bryd hynny.

Yn ystod y Senedd hon rydym hefyd yn trefnu rhaglen tymor hwy o gyfarfodydd ac
ymweliadau â’r canlynol:

  • cyn-Aelodau, i gasglu eu hadborth ar effeithiolrwydd y gefnogaeth a ddarperir gan
    y Penderfyniad yn ystod eu cyfnod yn y swydd, a’r cyfnod yn union yn dilyn yr
    etholiad;
  • Aelodau a staff sydd newydd eu hethol ac sydd wedi’u dychwelyd, i edrych ar yr
    eich myfyrdodau ynghylch eich profiadau hyd yma a’ch barn ar i ba raddau y mae’r
    gefnogaeth a ddarperir yn eich galluogi i gyflawni’ch dyletswyddau yn effeithiol
    wrth ddarparu gwerth am arian i’r trethdalwr.

2. Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd

Gwnaethom ystyried ystod o faterion yn ymwneud â Chynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd
yn ein cyfarfod ar 30 Medi:

2.1 Unioni McCloud a Sargeant

Yn ystod haf 2021, gwnaethom ymgynghori1 ar gynigion i wneud newidiadau i Reolau
Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd (“y Cynllun”). Gwnaed y cynigion hyn yn sgil effaith
dyfarniad McCloud a Sargeant y Goruchaf Lys, a ddyfarnodd fod rhai darpariaethau cynllun
pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, a oedd yn trin aelodau iau yn llai ffafriol ar sail oedran, yn
achos o wahaniaethu.

Daeth ein hymgynghoriad i ben ar 6 Medi 2021 ac ni chyflwynwyd unrhyw
wrthwynebiadau i’n cynigion. Gwnaethom ystyried yr holl ymatebion a’n cynigion yn ein
cyfarfod ar 30 Medi 2021 a chytunwyd i:

  • gynnig dewis ar unwaith i aelodau o’r Cynllun yr effeithir arnynt a ydynt am
    ddychwelyd i’r adran Cyflog Terfynol neu aros yn yr adran Enillion Gyrfa Cyfartalog
    wedi’u Hailbrisio (CARE) ar gyfer cyfnod yr anghydraddoldeb; a
  • chynnig cyfraniad o hyd at £150 tuag at gost cyngor ariannol annibynnol ar y mater
    hwn.

Fel Bwrdd, mae’n ofynnol i ni gael cymeradwyaeth Trysorlys EM i ddiwygio’r Rheolau’r
Cynllun cyn y gellir mabwysiadu’r cynigion. Rydym mewn cysylltiad â Thrysorlys EM ar hyn
o bryd. Unwaith y byddwn yn cael cymeradwyaeth gan Drysorlys EM, bydd aelodau o’r
Cynllun yr effeithir arnynt yn cael llythyr gan Bennaeth Pensiynau’r Senedd, yn cadarnhau
beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw. Bydd y llythyr hwn yn gofyn i’r aelod o’r Cynllun yr
effeithir arno ystyried y wybodaeth a ddarparwyd a nodi a yw’n dymuno dychwelyd i adran Cyflog Terfynol y Cynllun neu aros yn yr adran CARE am y cyfnod pan oedd yr
anghydraddoldeb yn bodoli.

2.2 Enwebu partner

Mae Rheolau’r Cynllun yn nodi ar hyn o bryd, pan fo aelod yn ddi-briod, os yw’n cyd-fyw â
phartner ac am i’w bartner fod yn gymwys i gael pensiwn dibynnydd os bydd yr aelod yn
marw, mae angen i’r aelod fod wedi enwebu ei bartner yn ysgrifenedig o leiaf chwe mis
cyn marwolaeth yr aelod.

Mae llawer o gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus y DU yn cynnwys, neu wedi
cynnwys, gofyniad am ffurflen enwebu. Fodd bynnag, o ganlyniad i ddyfarniad y Goruchaf
Lys (Brewster), mae cyngor cyfreithiol wedi cadarnhau bod hyn yn achos o wahaniaethu,
gan nad yw’n ofynnol i aelodau priod y Cynllun enwebu priod er mwyn i bensiwn priod fod
yn daladwy.

Yng ngoleuni’r uchod, yn ein cyfarfod ar 30 Medi, cytunwyd y dylid diwygio Rheolau’r
Cynllun i ddileu’r gofyniad am ffurflen enwebu sydd wedi’i gynnwys yn y diffiniad o “partner”.

2.3 Materion eraill y cynllun pensiwn

Yn ystod ein cyfarfod ar 30 Medi gwnaethom hefyd:

  • gytuno ar y rhagdybiaethau demograffig ar gyfer y prisiad y terfyn uchaf ar gostau2
    Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd;
  • nodi newid i Gylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiwn (i egluro’r broses ar gyfer cael
    enwebiadau ar gyfer Ymddiriedolwyr a Enwebwyd gan Aelodau); ac
  • ystyried ein hymateb i fwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil Pensiynau’r
    Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol i fynd i’r afael â’r gofyniad i Weinidogion
    Trysorlys EM gymeradwyo unrhyw newidiadau a wneir gan y Bwrdd i gynllun
    pensiwn yr Aelodau.

3. Strategaeth

Yn ein diweddariad diwethaf, adroddwyd bod y rhan fwyaf o’n trafodaethau ym mis
Gorffennaf yn canolbwyntio ar ddatblygu ein nodau strategol ar gyfer gweddill ein cyfnod
yn y swydd. Yn ein cyfarfod ym mis Medi, gwnaethom adolygu ein canfyddiadau, ac rydym yn bwriadu cytuno a chyhoeddi ein strategaeth derfynol yn dilyn ein cyfarfod nesaf ym mis
Tachwedd. Byddwn yn gwahodd adborth gan Aelodau ar gynnwys y strategaeth.

4. Adolygiad o gymorth COVID-19

Yn ein llythyr diweddaru diwethaf, fe’ch hysbyswyd o’n bwriad i adolygu’r darpariaethau yr
oeddem wedi’u rhoi ar waith mewn perthynas â chymorth COVID-19 i chi a’ch staff. Fe’ch
gwahoddwyd i chi rannu unrhyw faterion gyda ni erbyn dechrau mis Medi 2021 er mwyn
llywio ein hadolygiad.

Yn sgil ansicrwydd parhaus ynghylch effaith y pandemig, ac oherwydd adborth gennych
chi a’ch staff bod llawer ohonoch yn dal i ystyried sut mae COVID-19 yn effeithio ar eich
ffyrdd o weithio, rydym wedi cytuno i barhau â’r darpariaethau presennol ar gyfer y Lwfans
Gweithio Cartref; Cronfa Dychwelyd i Swyddfeydd COVID-19; ac asesiadau ar gyfer
Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE).

Lwfans Gweithio Gartref: Mae’r Bwrdd wedi neilltuo cronfa i alluogi pob Aelod i dalu
lwfans di-dreth i’w staff o hyd at £6 yr wythnos (neu £26 y mis ar gyfer cyflogeion a delir
yn fisol) i dalu costau ychwanegol gweithio gartref heb orfod poeni am bennu’r costau
gwirioneddol yr eir iddynt. Mae’r lwfans yn cael ei leihau pro rata ar gyfer staff sy’n
gweithio’n rhan amser neu os yw staff yn absennol (e.e. ar wyliau neu absenoldeb
salwch).

Cronfa Dychwelyd i Swyddfeydd Covid-19: Mae’r Gronfa hon ar gael i ddarparu cyllid
i brynu offer sy’n angenrheidiol i leihau’r risg o haint gan COVID-19 i unigolion sy’n
bresennol yn eich etholaeth neu’ch swyddfa ranbarthol, yn seiliedig ar asesiad risg a
gynhaliwyd gennych chi. Gall offer o’r fath gynnwys, er enghraifft, offer diheintio,
masgiau wyneb a sgriniau amddiffynnol. Os bydd costau a hawlir yn fwy na chyfanswm o
£500, gall yr hawliadau hyn fod yn destun proses craffu a dilysu bellach cyn y gellir eu
derbyn, er mwyn sicrhau defnydd priodol o adnoddau.

Asesiadau ar gyfer Cyfarpar Sgrin Arddangos (DSE): Mae teclyn ar-lein ar gael er
mwyn eich galluogi chi a’ch staff i gynnal asesiad gartref, gyda chostau yn ymwneud ag
addasiadau yn cael eu talu o’r Lwfans Costau Swyddfa (darpariaeth Iechyd a Diogelwch)
yn y lle cyntaf.

Bydd y darpariaethau hyn yn aros ar waith wrth i ni gynnal yr hyn y credwn sy’n
angenrheidiol ac adolygiadau amserol o’r cymorth ar gyfer gweithio hyblyg/gartref, ac ar
gyfer gofynion iechyd a diogelwch cysylltiedig. Fel Bwrdd, rydym yn ymwybodol bod y
pandemig wedi taflu goleuni ar ddulliau cyflogwyr o ran y materion hyn. Rydym hefyd yn
cydnabod y cymhlethdodau a all godi, yn enwedig o ran ystyriaethau iechyd a diogelwch mewn cyd-destun covid ac nad yw’n ymwneud â covid, a phan ystyrir telerau prydlesi swyddfa. Ein nod cyffredinol yw gweithio tuag at drefniadau symlach ar gyfer cefnogi
Aelodau yn y meysydd hyn, gan sicrhau ar yr un pryd bod egwyddorion pwysig gwerth am
arian a rhesymoldeb yn cael eu cynnal

Rydym yn bwriadu cychwyn ystyried yr adolygiadau hyn yn ein cyfarfod ym mis Ionawr
2022. Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein camau nesaf,
yn enwedig sut y gallwch chi rannu eich barn ar y materion hyn gyda ni. Yn y cyfamser,
fe’ch gwahoddir chi a’ch staff i gyflwyno unrhyw faterion pellach yn ymwneud â chymorth
COVID-19 i ni erbyn 1 Tachwedd 2021 i lywio ein hystyriaeth barhaus o’r materion hyn.

5. Cyfarfod nesaf y Bwrdd

Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar 25 Tachwedd 2021 a byddwn yn ystyried:

  • Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad – cynigion ar gyfer ymgynghori [fel rhan o’r
    trafodaethau hyn byddwn yn ystyried, ymhlith pethau eraill, y materion y tynnir ein
    sylw atynt trwy ohebiaeth a chyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr. Dylid codi unrhyw
    faterion y mae’r Aelodau yn dymuno i’r Bwrdd eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf erbyn 1 Tachwedd 2021.]
  • Gofynion gorfodol y Bwrdd – polisïau cyflogaeth
  • Darpariaethau diogelwch – diweddaru ac adolygu
  • Strategaeth y Bwrdd ar gyfer 2021-2026 – ystyried y drafft terfynol.

Wrth gloi, hoffwn nodi ddiolch ar ran y Bwrdd i Lleu Williams, cyn-Glerc y Bwrdd, am ei
gyfraniad i’n gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddymuno’n dda iddo yn ei rôl
newydd fel Clerc Pwyllgor.