Nodiadau'r Cyfarfod - 27 Mai 2021

Cyhoeddwyd 27/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/08/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r nodyn yma yn rhoi crynodeb o'r trafodaethau o gyfarfod y Bwrdd ar Ddydd Iau 27 Mai 2021.

Ymgysylltu â’r Aelodau a’u staff

Bydd y Bwrdd yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r Aelodau a staff cymorth, naill ai drwy’r grwpiau cynrychiadol neu drwy gyfrwng cyfarfodydd i drafod pryderon penodol neu unrhyw faterion y bydd yn ymgynghori yn eu cylch. Gall y cyfarfodydd hyn helpu’r Bwrdd i feithrin dealltwriaeth well o’r anawsterau sy’n wynebu’r Aelodau a’u staff cymorth. Mae’r cyfarfodydd hefyd yn gyfle i chi dynnu sylw’r Bwrdd at faterion penodol. Gallai hyn gynnwys materion sy'n effeithio ar eich gwaith neu syniadau posibl ynghylch sut y gellid gwella'r lwfansau sydd ar gael ichi.

Ar ddechrau tymor newydd, mae'r Bwrdd yn awyddus i’r cyfleoedd hyn i ymgysylltu barhau. Gan hynny, bydd y Bwrdd hefyd yn cwrdd bob tymor â'r grwpiau sy’n cynrychioli’r Aelodau a’r staff cymorth. Bydd y Bwrdd yn cysylltu â’r grwpiau plaid a’r Aelodau unigol i gadarnhau aelodau’r ddau grŵp cynrychiadol.

Ailddechreuodd y Bwrdd ei raglen ymgysylltu â swyddfeydd etholaeth/rhanbarthol yn ystod misoedd olaf y Pumed Senedd. Mae'r Bwrdd yn dymuno i’r rhain barhau naill ai fel cyfarfodydd rhithwir neu gyfarfodydd personol (gan ddibynnu ar y rheoliadau Covid-19 perthnasol a fydd ar waith ar y pryd). Bydd y Bwrdd yn cysylltu â swyddfeydd i ofyn a hoffent gwrdd. Fodd bynnag, os bydd eich swyddfa'n dymuno cwrdd cyn hynny, rhowch wybod i'r ysgrifenyddiaeth a fydd yn gwneud y trefniadau angenrheidiol. Y gobaith yw y bydd y cyfarfodydd hyn yn ffurfio amserlen ymgysylltu reolaidd rhwng y Bwrdd a swyddfeydd yr Aelodau.

Mae'r Bwrdd hefyd yn ystyried sut y gall gynnal ei sesiwn 'galw heibio' blynyddol gydag Aelodau. Caiff y rhain eu cynnal fel arfer ym mis Gorffennaf yn y Senedd, yn ystod y Cyfarfodydd Llawn. Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion am y modd y gallwch gymryd rhan yn nes at yr amser.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniadau etholiadau’r Senedd

Cynhaliodd y Bwrdd drafodaeth hefyd ar ganlyniadau etholiad diwethaf y Senedd. Cafodd wybodaeth am ganlyniad yr etholiad a’r prif swyddogion a benodwyd. Ystyriodd hefyd y wybodaeth gyfyngedig sydd ar gael am faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth sy'n codi o'r etholiad. Mae hyn yn bwysig i’r Bwrdd wrth iddo ystyried yr hyn y gall ei wneud, o fewn ei gylch gwaith, i leihau’r rhwystrau posibl a allai atal rhai rhag sefyll mewn etholiad.

Trafododd y Bwrdd hefyd pryd y byddai angen iddo benderfynu ynghylch tâl cadeiryddion pwyllgorau. Mae'r Penderfyniad yn cynnwys dwy gyfradd ar gyfer tâl cadeiryddion pwyllgorau; cyfradd uwch ac is. Dim ond ar ôl i'r Bwrdd bennu pa gyfradd y dylid ei thalu i bob cadeirydd y gellir talu’r cyfraddau ychwanegol. Mae penderfyniad y Bwrdd wedi’i seilio ar nifer o ffactorau. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldebau’r cadeirydd pwyllgor penodol, ond nid dim ond hynny. Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater hwn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod cadeiryddion pwyllgorau'n cael eu talu'n brydlon am eu cyfrifoldebau ychwanegol.

Cymorth Covid-19 i swyddfeydd yr Aelodau

Trafododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am bandemig Covid-19 a’i effaith ar Aelodau, eu swyddfeydd a gwaith y Senedd.

Ers dechrau’r pandemig y gwanwyn diwethaf, mae’r Bwrdd wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i gynorthwyo’r Aelodau a’u staff. Gwneir mesurau o’r fath o dan adran 2.5 o’r Penderfyniad ac maent yn cynnwys:

  • Lwfans gweithio gartref: lwfans o hyd at £26 y mis sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol i helpu staff i dalu’r costau ychwanegol cysylltiedig â gweithio gartref. Mae’r gyfradd hon yn unol â chanllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
  • Asesiadau DSE ar-lein: cwrs ar-lein i ddysgu Aelodau a staff cymorth sut i gynnal asesiad DSE a deall pa addasiadau sydd eu hangen i weithio’n ddiogel. Gall yr Aelodau hawlio arian o’r Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr i dalu am gostau’r cyfarpar y mae ei angen ar gyfer addasiadau;
  • Cronfa Dychwelyd i Swyddfeydd Covid-19: cyllid i helpu’r Aelodau i dalu am y costau sydd ynghlwm wrth fodloni gofynion newydd iechyd a diogelwch a sicrhau bod eu swyddfeydd etholaeth / rhanbarthol yn ddiogel o ran Covid.

Gall Cymorth Busnes i’r Aelodau roi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau am y cymorth uchod sydd ar gael. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae arferion gwaith staff wedi newid ac mae rhai yn parhau i weithio gartref ac eraill yn dychwelyd i'r swyddfa. Yn naturiol, mae angen ystyried pa mor barhaol fydd trefniadau gweithio o'r fath yn y dyfodol. Yn ogystal, mae ansicrwydd parhaus ynghylch y cyfyngiadau a roddir ar waith am resymau iechyd cyhoeddus, a sut y bydd y rhain yn newid yn y dyfodol.

O ystyried hyn oll, mae’r Bwrdd yn bwriadu adolygu’r darpariaethau hyn dros yr haf. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn dilyn cyfarfod nesaf y Bwrdd ym mis Gorffennaf. Yn y cyfamser, bydd y cymorth sydd ar gael eisoes yn parhau.

Newid rheolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau

Yn ei gyfarfod ym mis Ionawr, trafododd y Bwrdd effaith achosion McCloud a Sargeant ar Gynllun Pensiwn y Senedd. Roedd yr achosion hyn yn ymwneud â herio’r darpariaethau trosiannol mewn dau gynllun pensiwn ar y sail bod aelodau iau yn cael eu trin yn llai ffafriol ar sail oedran. Mae darpariaethau tebyg yng Nghynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd ac maent yn effeithio ar Aelodau a oedd yn aelodau gweithredol o’r Cynllun ar 1 Ebrill 2012 ac a oedd yn parhau mewn gwasanaeth gweithredol tan 6 Mai 2016. Ym mis Ionawr, penderfynodd y Bwrdd drafod y mater eto unwaith y bydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn wedi trafod y mater.

Yn ei gyfarfod ym mis Mai, trafododd y Bwrdd sylwadau Bwrdd Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn ynghyd â chyngor cyfreithiol. Ar ôl ystyried y cyngor hwn, penderfynodd y Bwrdd y dylai ddod o hyd i ffordd o ddileu gwahaniaethu o reolau’r Cynllun Pensiwn.

Bydd yr ateb sy'n cael ei gynnig yn ceisio dileu'r anghydraddoldeb sy'n bodoli gan ymyrryd cyn lleied â phosibl â gweddill y Cynllun. Bydd y Bwrdd yn ysgrifennu at yr Aelodau hynny y mae’r mater hwn yn effeithio arnynt ac yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ynghylch y cynnig. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ddiweddarach y mis hwn.

Dyfeisiau diogelwch personol

Mae diogelwch yr Aelodau a’u staff cymorth yn bwysig iawn i’r Bwrdd. Ers 2016, mae’r cymorth ar gyfer diogelwch wedi cynyddu cryn dipyn. Rôl y Bwrdd yn y cyswllt hwn yw darparu’r cyllid ar gyfer mesurau diogelwch priodol. Bydd yn gwneud hyn drwy amlinellu’r cyllid sydd ar gael mewn gwahanol adrannau o'r Penderfyniad gan gynnwys ad-dalu costau diogelwch ychwanegol os dyna yw cyngor Tîm Diogelwch Comisiwn y Senedd (gweler adran 6.6 o'r Penderfyniad).

Yn ei gyfarfod, nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf gan Gomisiwn y Senedd ynghylch rhoi dyfeisiau diogelwch i’r Aelodau. Mae'r Bwrdd yn eich annog i ddefnyddio'r dyfeisiau hyn er mwyn gwella’ch diogelwch personol. Bydd y Bwrdd yn cael rhagor o wybodaeth am faterion diogelwch yn ddiweddarach eleni.

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw bryderon am eich diogelwch chi neu’ch staff cymorth, cysylltwch â Thîm Diogelwch Comisiwn y Senedd i ofyn am gyngor a chymorth.

Gwefan newydd y Bwrdd

Mae’r Bwrdd wedi bod yn adolygu tudalennu drafft ei wefan newydd. Bydd y wefan newydd yn cael ei lletya ar wefan y Senedd a bydd yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch mewn perthynas â gwaith y Bwrdd. Caiff y wefan newydd ei chyhoeddi cyn toriad yr haf.

Strategaeth a blaenraglen waith

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu ei strategaeth, cynhaliodd y Bwrdd sesiwn cynllunio senarios i ystyried goblygiadau ei waith os na fydd y Senedd yn cael ei diwygio. Roedd hyn yn dilyn sesiwn debyg a gynhaliwyd ym mis Ionawr pan ystyried yr hyn y byddai’n rhaid i’r
Bwrdd ei wneud pe bai deddfwriaeth i greu Senedd fwy yn cael ei phasio yn ystod y tymor hwn. Bydd canlyniadau'r trafodaethau hyn yn llywio’r gwaith o ddatblygu strategaeth y Bwrdd ar gyfer 2021-26, a fydd yn mynd rhagddo ym mis Gorffennaf, ac a gaiff ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni.

Ymadawiad aelod o’r Bwrdd

Yn olaf, hoffwn eich hysbysu y bydd Ronnie Alexander yn gadael y Bwrdd y mis hwn, a hynny ar ôl pedair blynedd o wasanaeth. Mae hyn yn dilyn ei benderfyniad i dderbyn penodiad arall. Yn bersonol, rwyf wedi gwerthfawrogi ei gyfraniad i'r Bwrdd yn aruthrol ers
imi ddod yn Gadeirydd y llynedd. Rwy’n siŵr y byddwch yn ymuno â’m cyd-aelodau ar y Bwrdd i ddiolch i Ronnie am ei gyfraniad ac i ddymuno'n dda iddo yn y dyfodol.