Nodiadau’r cyfarfod – 27 Chwefror 2020

Cyhoeddwyd 16/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 27 Chwefror 2020. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Mae ymgynghoriad y Bwrdd ar agor o hyd a’r dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 24 Mawrth 2020. Byddai’r Bwrdd yn annog yr holl Aelodau, staff cymorth a grwpiau gwleidyddol i rannu unrhyw farn sydd ganddynt ar Benderfyniad drafft y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd y bydd yn cyhoeddi ei Benderfyniad terfynol ar gyfer y Chweched Cynulliad erbyn diwedd mis Mai 2020.

Cyfarfu’r Bwrdd hefyd â’r Grwpiau Cynrychioli’r Aelodau a’r staff cymorth cyn ei gyfarfod ffurfiol, a roddodd gyfle i drafod eu safbwyntiau cychwynnol ynghylch y Penderfyniad drafft.

Penderfyniadau ymgynghori: Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad a’r newid enw

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i’w ymgynghoriad diweddar ar newidiadau blynyddol i’r Penderfyniad ar gyfer 2020-21. Mae hyn yn cynnwys ei gynnig ynghylch ad-dalu costau sy’n gysylltiedig â newid enw’r sefydliad. Fel bob amser, mae’r Bwrdd yn ddiolchgar i’r rhai a ymatebodd i’w ymgynghoriad. Mae amlinelliad o benderfyniad y Bwrdd ynghylch pob mater wedi’i nodi isod.

Cyhoeddir fersiwn wedi’i diweddaru o’r Penderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf maes o law.

Gwariant ar lety preswyl ar gyfer 2020-21

Cafodd y Bwrdd un ymateb ynglŷn â’r mater hwn a oedd yn croesawu’r cynnig. Felly, penderfynodd y Bwrdd gynyddu’r lwfans gwariant ar lety preswyl ar gyfer Aelodau ardal allanol 1.7 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd hyn yn cynyddu’r lwfans i £9,720 y flwyddyn (sef £810 fesul mis calendr).

Newid blynyddol i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol

Cafodd y Bwrdd un ymateb a oedd yn cytuno â’r cynnig. Cytunodd y Bwrdd i gynyddu’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 3.86 y cant a fydd yn golygu cynnydd o £999,070 i’r lwfans ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Contractau cyfnod penodol

Cafodd y Bwrdd ddau ymateb i gynnig y Bwrdd i gael gwared ar gyfyngiadau ar allu’r Aelodau i recriwtio ar gyfer contractau cyfnod penodol drwy ddiwygio’r Polisi Recriwtio. Byddai recriwtio o’r fath yn destun cyfyngiad o 18 mis yn lle’r cyfyngiad chwe mis presennol. Croesawodd y ddau ymateb gynnig y Bwrdd.

Cytunodd y Bwrdd y byddai’r penderfyniad yn dod i rym o’r flwyddyn ariannol nesaf.

Fel yr amlinellwyd yn y cynnig gwreiddiol, bydd y Bwrdd nawr yn diwygio’r Polisi Recriwtio i adlewyrchu’r penderfyniad hwn. Bydd y Polisi Recriwtio yn parhau i nodi y bydd pob penodiad sy’n hwy na chwe mis yn destun proses recriwtio agored a theg.

Cytunodd y Bwrdd hefyd i fewnosod testun i’r Penderfyniad y flwyddyn nesaf o dan yr adran “Cymorth dros dro” ym mhennod saith i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd ar y cynnig hwn. O’r herwydd, ychwanegir y geiriad a ganlyn at ddiwedd paragraff 7.5.1:

“Rhaid i unrhyw gontractau sy’n hwy na chwe mis fod yn destun proses recriwtio agored a theg fel yr amlinellir yn y Polisi Recriwtio. Ni chaiff contractau cyfnod penodol fod yn hwy na 18 mis.”

Mae’r Bwrdd o’r farn, gyda’i gilydd, y bydd y camau hyn yn helpu i roi eglurder i’r Aelodau a staff cymorth ynghylch newidiadau’r Bwrdd.

Mae penderfyniad y Bwrdd ar y mater hwn yn berthnasol i staff cymorth sy’n gweithio i Aelodau a phleidiau gwleidyddol a bydd geiriad tebyg yn cael ei ychwanegu at bennod 8, er mwyn egluro hyn.

Costau’r newid enw

Cynigiodd y Bwrdd, am resymau gwerth am arian, ei bod yn rhesymol na ddylai Aelodau allu hawlio costau diweddaru eitemau yn ôl o ganlyniad i’r newid enw, fel arwyddion swyddfa, cyn etholiad nesaf y Cynulliad (a ddisgwylir ym Mai 2021). Cafodd y Bwrdd un ymateb nad oedd yn cytuno â chynnig y Bwrdd. Nododd yr ymatebydd, o ystyried newid enw’r sefydliad a’r disgrifiadau cysylltiedig (teitlau Aelodau, er enghraifft), bod yn rhaid darparu adnoddau priodol ar gyfer y newidiadau hyn o’r dyddiad y maent yn dod i rym.

Wrth ystyried y mater yn erbyn ei egwyddor arweiniol o sicrhau y dylai cymorth ariannol gynrychioli gwerth am arian i’r trethdalwr, penderfynodd y Bwrdd beidio â chaniatáu i Aelodau hawlio costau diweddaru eitemau sy’n gysylltiedig â’r newid enw yn ôl cyn yr etholiad nesaf. Mae’r Bwrdd yn cadw at ei farn flaenorol fod hwn yn ddull priodol oherwydd y trosiant posibl yn nifer yr Aelodau mewn etholiad a hyd oes fer arwyddion newydd.

Adnewyddu’r llawlyfr staff cymorth a chontractau

Cafodd y Bwrdd ei hysbysu o gynnig i adolygu’r llawlyfr staff cymorth gan y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau. Mae’r Bwrdd yn deall mai’r nod yw ei gwneud yn symlach ac yn gliriach i gynorthwyo Aelodau i fabwysiadu llawlyfr cyflogaeth cynhwysfawr i’w staff, yn ogystal â chefnogi arfer cyflogaeth da.

Fel rhan o’r drafodaeth hon, ystyriodd y Bwrdd rôl y contract staff cymorth a sut mae’n rhyng-gysylltu â’r llawlyfr staff. Mae’r Bwrdd o’r farn, yn dilyn yr adolygiad o’r llawlyfr, y byddai’n briodol adnewyddu’r contract presennol sydd wedi esblygu dros amser. Byddai hyn yn sicrhau ei fod yn unol â’r llawlyfr staff a’i fod yn addas ar gyfer y Chweched Senedd.

Amcan yr ymarfer hwn yw cyflwyno hawliau a chyfrifoldebau’r gweithwyr mewn ffordd gliriach a mwy cydlynol, heb leihau unrhyw hawliau presennol sydd gan staff cymorth.

Bydd y tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychioli’r Aelodau a’r staff cymorth i drafod hyn ymhellach dros yr wythnosau nesaf.

Cyflog Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Trafododd y Bwrdd gais gan y Llywydd i ystyried diwygio cyfradd cyflog Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Mae hyn yng ngoleuni cyfrifoldebau cynyddol y Pwyllgor sydd bellach yn cynnal adolygiad o’r Cod Ymddygiad, ac yn ystyried rôl y Comisiynydd Safonau. Mae hyn ar ben at ei waith i ystyried unrhyw adroddiadau a gyflwynir gan y Comisiynydd Dros Dro o dan Reol Sefydlog 22.2.

Cytunodd y Bwrdd y dylid talu’r Cadeirydd ar y gyfradd cyflog lefel uwch i gadeiryddion pwyllgorau. Cytunodd y Bwrdd y byddai’r gyfradd hon yn gymwys o 1 Mawrth 2020 tan ddiwedd y Pumed Cynulliad.

Dyfeisiau diogelwch ar gyfer staff cymorth

Trafododd y Bwrdd y trefniadau diogelwch sydd ar waith ar gyfer staff cymorth. Tynnwyd y mater hwn i sylw’r Bwrdd oherwydd yr ansicrwydd parhaus sy’n gysylltiedig â’r bygythiad diogelwch sy’n bodoli i’r Aelodau a’u staff cymorth.

Trafododd y Bwrdd pa adnodd ychwanegol y gallai ei roi ar waith i liniaru unrhyw risg diogelwch posibl yn y ffordd orau i gynorthwyo staff wrth iddynt wneud eu gwaith, gan sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr hefyd. Cytunodd y Bwrdd i dalu am un ddyfais ddiogelwch personol ychwanegol ar gyfer swyddfa pob Aelod (yn ychwanegol at y dyfeisiau a ddarperir i’r Aelodau eu hunain). Bydd y dyfeisiau hyn yn cael eu cyflwyno gan dîm Diogelwch Comisiwn y Cynulliad yn y dyfodol agos a bydd hyfforddiant ar gael ynghylch sut i’w defnyddio.

Fel bob amser, bydd y Bwrdd yn cadw materion o’r fath o dan adolygiad cyfnodol i wneud yn siŵr ei fod yn gwneud popeth yn ei allu i sicrhau diogelwch yr Aelodau a’u staff cymorth. Fodd bynnag, fel yr amlinellwyd yn ei lythyr diweddaru diwethaf atoch, hoffai’r Bwrdd atgoffa’r Aelodau fod ganddynt hefyd ddyletswydd ofal, fel cyflogwr, i’w staff cymorth drwy sicrhau eu bod yn ddiogel bob amser wrth ymgymryd â’u swyddi. Pe bai angen unrhyw adolygiadau pellach o ddiogelwch y tu hwnt i’r hyn a ddarperir eisoes, byddai’r Bwrdd yn annog yr Aelodau i siarad â thîm Diogelwch Comisiwn y Cynulliad, a all roi cyngor ar sut i gadw’n ddiogel bob amser.

Materion eraill

Gweithgareddau’r Senedd yn y gogledd ddwyrain

Rhoddwyd diweddariad i’r Bwrdd ar y cyhoeddiad y bydd y Cynulliad yn cynnal wythnos o fusnes yng ngogledd ddwyrain Cymru am wythnos ym mis Mehefin 2020.

Nododd y Bwrdd fod y Penderfyniad yn darparu ad-daliad i staff cymorth sy’n teithio rhwng “Caerdydd” ac etholaeth/rhanbarth yr Aelod. Mae’r Bwrdd wedi cytuno, ar gyfer yr wythnos honno, y gellir trin y lleoliad a ddewiswyd yng ngogledd ddwyrain Cymru fel “Caerdydd” at ddibenion adrannau 5.21 a 5.22 o’r Penderfyniad. O ganlyniad, caiff y nifer cyfyngedig o deithiau dwyffordd gan staff cymorth a nodir yn yr adrannau hyn eu gwneud rhwng etholaeth/rhanbarth yr Aelod a’r lleoliad yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd

Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnal adolygiad diwedd tymor o effeithiolrwydd ei waith. Bydd yr adolygiad yn trafod effeithiolrwydd perfformiad y Bwrdd dros ei dymor; sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn unol â Mesur 2010, a sut mae wedi cyflawni yn erbyn ei strategaeth. Disgwylir y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn mis Mai er mwyn llywio adroddiad etifeddiaeth y Bwrdd, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd ei gyfnod.

Os hoffech drafod unrhyw fater â mi, neu un o aelodau eraill y Bwrdd, mae croeso ichi gysylltu â mi drwy’r ysgrifenyddiaeth.

Caiff y llythyr hwn ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd, yn ôl ein harfer.

Cofion gorau,

Y Fonesig Dawn Primarolo

Cadeirydd y Bwrdd Taliadau

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.