Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 23 Tachwedd 2017. Ceir crynodeb isod o’i drafodaeth a’i benderfyniadau, a diweddariad byr ar ei raglen waith.
Trefniadau ar gyfer rhoi gwybod am ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
Trafododd y Bwrdd y datblygiadau diweddaraf o ran y gwaith sy’n cael ei wneud ar y trefniadau ar gyfer rhoi gwybod am ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Croesawodd y Bwrdd y datganiad diweddar a gyhoeddwyd gan y Llywydd, arweinwyr grwpiau’r pleidiau a Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a chytuno ag ef. Bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos gyda Chomisiwn y Cynulliad a’r Pwyllgor i ddatblygu Polisi Parch ac Urddas sy’n egluro’r ymddygiad a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â sicrhau bod yr holl gymorth a gweithdrefnau y mae’r Bwrdd yn eu goruchwylio yn cyd-fynd yn ffurfiol â’r polisi newydd hwn. Mae’r Bwrdd hefyd yn ymrwymedig i adolygu ymhellach y polisïau a’r gweithdrefnau sydd ar waith ar gyfer Staff Cymorth a gweithio gyda’r aelodau staff hyn i sicrhau bod y darpariaethau sydd ar waith yn gadarn, yn hygyrch ac yn addas at y diben.
Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau
Trafododd y Bwrdd gamau nesaf ei adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau. Cytunodd y Bwrdd y bydd yn dechrau casglu tystiolaeth trwy arolwg a gaiff ei gyhoeddi i’r holl Aelodau a Staff Cymorth ym mis Rhagfyr, yn ogystal â chynnal cyfweliadau ansoddol â sampl o Aelodau a Staff Cymorth yn y flwyddyn newydd. Mae’r Bwrdd yn bwriadu cyflwyno cyfres o argymhellion i ymgynghori â rhanddeiliaid yn ystod haf 2018. Cyhoeddir ei adroddiad terfynol yn ddiweddarach yn 2018. Bydd y Bwrdd yn rhoi diweddariadau rheolaidd i’r Aelodau a’r Staff Cymorth wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.
Materion eraill
Nododd y Bwrdd effaith ad-drefnu Cabinet Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ar y symiau a ddyrennir i grwpiau o dan y lwfansau plaid wleidyddol y darperir ar eu cyfer yn y Penderfyniad.