Nodiadau’r cyfarfod – 22 Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd 03/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 22 Tachwedd. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Cynhaliodd y Bwrdd ei drafodaeth gyntaf ar y materion sy’n dod o dan ran un o’i adolygiad, sy’n canolbwyntio ar benodau’r Penderfyniad sy’n trafod gwariant ar lety preswyl, costau teithio a chostau swyddfa’r Aelodau. Bydd y Bwrdd yn trafod y materion hyn eto yn ei gyfarfod nesaf ym mis Ionawr. Fel y nodwyd ar wefan y Bwrdd ac yn ei lythyr atoch, rhagwelir y bydd y Bwrdd yn ymgynghori ar unrhyw newidiadau arfaethedig i’r penodau hyn o’r Penderfyniad yn ystod tymor y Gwanwyn.

Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad

Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer prisiad y terfyn uchaf ar gostau Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd i fonitro’r sefyllfa ac ysgrifennu at Aelodau maes o law gyda rhagor o wybodaeth unwaith y bydd y prisiad ffurfiol wedi’i gadarnhau.

Materion eraill

Cyfarfu’r Bwrdd ag Aelodau a staff cymorth i drafod y newidiadau arfaethedig i’r trefniadau ariannu i’r Aelodau gyflogi aelodau o’r teulu fel rhan o’i adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau. Hoffai’r Bwrdd ddiolch i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori hyd yn hyn, gan atgoffa pawb mai dyddiad cau’r ymgynghoriad yw dydd Iau 13 Rhagfyr.

Yn sgil y gwaith a wnaed fel rhan o adolygiad y Bwrdd o gymorth staffio i’r Aelodau, mae Penderfyniad diwygiedig, sy’n cynnwys yr holl newidiadau sydd wedi dod i rym ers 1 Hydref 2018, bellach wedi ei gyhoeddi.

Mae’r Bwrdd hefyd am gydnabod gwasanaeth John Chick yng Nghomisiwn y Cynulliad yn ystod y degawd diwethaf. Mae’r Bwrdd yn ddiolchgar iawn iddo am ei gyngor dros y blynyddoedd, ac rydym yn gwybod bod yr Aelodau a’r staff fel ei gilydd yn gwerthfawrogi ei arweinyddiaeth o’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau. Dymunwn yn dda iddo at y dyfodol.

Caiff y llythyr hwn ei gyhoeddi ar ein gwefan hefyd, yn ôl ein harfer.

Os hoffech drafod unrhyw fater â mi, neu ag un o’m cyd-aelodau o’r Bwrdd, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy’r ysgrifenyddiaeth.