Nodiadau’r cyfarfod – 21 Tachwedd 201

Cyhoeddwyd 16/12/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Mae adolygiad y Bwrdd yn mynd rhagddo’n dda wrth inni anelu at gyflawni ein hamcan o gyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad ym mis Mai 2020, sef blwyddyn cyn etholiad nesaf y Cynulliad.

Mae’r Bwrdd wedi trafod yr ymatebion i’w ymgynghoriadau ar ran 2 a rhan 3 o’r adolygiad ac mae’n ddiolchgar i bawb a gyflwynodd dystiolaeth. Bydd y Bwrdd yn ysgrifennu atoch eto yn amlinellu ei benderfyniadau ar ei gynigion.

Bydd y Bwrdd yn ystyried cynigion terfynol yr Adolygiad yn ei gyfarfod nesaf cyn lansio ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft yn ei gyfanrwydd yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2020-21

Trafododd y Bwrdd nifer o faterion yn ymwneud â’i Benderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Dyma isod y cynigion y mae’r Bwrdd am ymgynghori yn eu cylch:

Lwfans Gwariant ar Lety Preswyl

Trafododd y Bwrdd y lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, gan ymdrin â nifer o ffactorau yn ymwneud ag ef, gan gynnwys gwariant Aelodau ar lety, costau’r farchnad rentu leol yng Nghaerdydd, a mesurau chwyddiant.

Ystyriodd y Bwrdd briodoldeb y gyfradd gyfredol ar gyfer lwfans yr ardal allanol, sef £9,540 y flwyddyn. Fel y mae wedi gwneud mewn blynyddoedd blaenorol, cymharodd y Bwrdd y costau cyfartalog ar gyfer rhentu eiddo yn ardal Bae Caerdydd yn ogystal â gwariant cyfartalog yr Aelodau sy’n gymwys ar gyfer lwfans yr ardal allanol. Yng ngoleuni’r cynnydd bach mewn costau rhentu, cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu lwfans yr ardal allanol yn unol â chyfradd y CPI o fis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Byddai gwneud hyn yn cynyddu’r lwfans o £795 y mis i £810 y mis. Byddai hyn yn rhoi cyfanswm o £9,710 y flwyddyn.

Hefyd, trafododd y Bwrdd a ddylid newid y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr. Penderfynodd y Bwrdd fod y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr ill dau yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Y cynnig: Mae’r Bwrdd yn cynnig cynyddu’r lwfans Gwariant Llety Preswyl ar gyfer Aelodau’r ardal allanol 1.7 y cant yn unol â’r gyfradd mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) ar gyfer Medi 2019 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 ac i gadw’r gyfradd gyfredol ar gyfer y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2020-21

Trafododd y Bwrdd gyfradd y lwfans costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2019-20). Ystyriodd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys faint y mae Aelodau unigol yn ei wario ar gostau swyddfa, yn ogystal â mesurau chwyddiant.

Roedd y Bwrdd o’r farn bod y lwfans cyfredol yn ddigonol, ynghyd â’r gallu i drosglwyddo arian o gyllidebau eraill. Yn hyn o beth, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, penderfynodd y Bwrdd gadw’r lwfans o £18,260 (lle mae’r Aelod yn cynnal swyddfa etholaeth neu ranbarth) a’r lwfans o £4,912 (lle mae’r Aelod yn ymgymryd â dyletswyddau o’r cyfleusterau swyddfa yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd yn unig).

Newidiadau blynyddol i gyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth

Fel y gwyddoch, mae cyflogau’r Aelodau (a deiliaid swyddi ychwanegol) a’u staff cymorth yn cael eu haddasu’n awtomatig bob mis Ebrill yn unol â’r newid yn enillion canolrif gros yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru. Nododd y Bwrdd mai’r newid eleni yw 4.4 y cant, felly dyma’r swm a ddefnyddir i addasu cyflogau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd manylion am y cyflogau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y Penderfyniad ar gyfer 2020-21.

Newid blynyddol i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol

Yn flaenorol, addaswyd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol bob blwyddyn yn ôl yr un mynegai ag a ddefnyddir ar gyfer cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y lwfans i dalu cyflogau staff cymorth grŵp yn unig; fe’i defnyddir hefyd i dalu costau staffio eraill, megis teithio, offer swyddfa a deunyddiau. Nod y Bwrdd yw rheoli cyfanswm cost gyffredinol y lwfans hwn ac, o’r herwydd, mae’n cynnig defnyddio dull arall i addasu cyfanswm y lwfans ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Cynnig y Bwrdd yw y dylai cyfanswm yr hyn sy’n cael ei wario ar gyflogau (sef tua 80.2 y cant o gyfanswm y lwfans yn 2018-19) gynyddu 4.4 y cant, sef cyfradd mynegai ASHE, ac y dylai gweddill y lwfans gael ei addasu yn ôl cyfradd y CPI ar gyfer mis Medi 2019, sef 1.7 y cant.  Mae’r Bwrdd o’r farn y byddai’r newid hwn yn un teg a fyddai’n galluogi Grwpiau i dalu costau’r cynnydd yng nghyflogau staff cymorth, heb gynyddu’r swm cyffredinol yn ddiangen. Mae’r Bwrdd yn credu bod y cynnig hwn yn nes at y ffordd y mae Pleidiau Gwleidyddol ac Aelodau Annibynnol yn defnyddio’r lwfans mewn gwirionedd ac y byddai’r codiadau yn y lwfansau, fel y’u dosbarthwyd, yn rhoi gwell gwerth am arian i’r trethdalwr.

Byddai cynnig y Bwrdd yn golygu bod cyfanswm y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn cynyddu 3.86 y cant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Dyma gyfanswm y newid canrannol o gymhwyso’r dull a amlinellir yn y paragraff blaenorol i’r Lwfans fel cyfanswm. Byddai hyn, yn ei dro, yn golygu bod y lwfans yn codi o £961,890 yn 2019-20 i £999,070 yn 2020-21.

Y cynnig: Mae’r Bwrdd yn cynnig cynyddu’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol 3.86 y cant i £999,070 ar gyfer 2020-21.

Contractau cyfnod penodol

Yn ystod trafodaethau’r Bwrdd ar ran 2 o’i adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Ystyriodd y Bwrdd sylw a wnaed mewn perthynas â chontractau cyfnod penodol. Cynnig y Bwrdd yn yr ymgynghoriad hwnnw oedd y dylid dileu unrhyw gyfyngiadau ar allu’r Aelodau i recriwtio ar gontractau cyfnod penodol. Yn yr ymateb, gofynnwyd am i ystyriaeth o hyblygrwydd o’r fath gael ei hehangu ar gyfer gweddill y Pumed Cynulliad hefyd. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n werth gwneud hynny. Felly, mae’r Bwrdd yn cynnig na ddylid cyfyngu ar allu’r Aelodau i recriwtio ar gontractau cyfnod penodol ac y dylai’r contractau hynny sy’n para’n hwy na chwe mis fod yn destun proses recriwtio agored a theg. Hefyd, bydd terfyn o 18 mis ar gontractau o’r fath. Os yw’r Bwrdd yn cytuno i hyn ar ôl ymgynghori yn ei gylch, bydd yn dod i rym o Ebrill 2020, pan gyhoeddir y Penderfyniad nesaf.

Y cynnig: Mae’r Bwrdd yn cynnig na ddylid cyfyngu ar allu’r Aelodau i recriwtio ar gontractau cyfnod penodol ac y dylai’r contractau hynny sy’n para’n hwy na chwe mis fod yn destun proses recriwtio agored a theg. Ni ddylai’r contractau hyn bara yn hwy na 18 mis.

Newid enw

Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â newid enw’r Cynulliad a’r effaith ar gyllidebau a gwariant Aelodau. Nododd y Bwrdd Femorandwm Esboniadol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy’n nodi:

Trefnir y bydd enw’r Cynulliad yn newid yn gyfreithiol ar 6 Mai 2020. Mae hyn 12 mis union cyn dyddiad arfaethedig etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2021. Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai’r Bwrdd Taliadau yn dweud wrth yr Aelodau am beidio â gwneud hawliadau arwyddion sy’n ymwneud â newid enw cyn etholiad 2021.”

Trafododd y Bwrdd y rhagdybiaeth hon a chytunwyd ei bod yn rhesymol i’r Aelodau beidio â cheisio hawlio unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â newid enw’r sefydliad yn ôl cyn etholiad nesaf y Cynulliad, a gynhelir ym mis Mai 2021. Mae hyn yn cynnwys costau ar gyfer eitemau fel arwyddion, baneri, parthau gwe a gwefannau. Mae’r Bwrdd o’r farn bod hwn yn ddull gweithredu darbodus a chymesur a’i fod hefyd yn gost-effeithiol i’r trethdalwr oherwydd y posibilrwydd y bydd nifer o’r Aelodau yn newid yn yr etholiad.

 

Yn dilyn etholiad 2021, bydd gan Aelodau newydd lwfans o hyd at £5,000 i sefydlu swyddfa ac ni fydd angen cyllid penodol i gynnwys yr enw newydd. Bydd Aelodau sy’n dychwelyd ar ôl etholiad 2021 hefyd yn gallu gwneud newidiadau o’r fath. Bydd y Bwrdd Taliadau nesaf yn penderfynu ar sut y caiff Aelodau sy’n dychwelyd eu had-dalu am unrhyw gostau perthnasol ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei gweithredu.

 

Y cynnig: Mae’r Bwrdd yn cynnig na ddylai Aelodau geisio hawlio unrhyw gostau swyddfa sy’n gysylltiedig â newid enw’r sefydliad cyn etholiad nesaf y Cynulliad, a gynhelir ym mis Mai 2021.

Cofiwch anfon ymatebion i’r cynigion uchod atom erbyn 7 Chwefror 2020 i lywio trafodaethau’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf.

Materion eraill

Adolygiad 12 mis o hyblygrwydd y lwfansau

Mae’n flwyddyn ers i’r Bwrdd wneud newidiadau i’r ffordd y gallai’r Aelodau ddefnyddio’r lwfansau staffio. Cyflwynwyd y newidiadau hyn fel rhan o’r adolygiad o gymorth staffio. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys dileu’r cap 111 awr ar gyflogi staff a gyflogir yn barhaol, cyllidebu costau cyflogau ar sail costau gwirioneddol a newidiadau i’r opsiynau i drosglwyddo cyllid sydd ar gael i’r Aelodau. Y rhesymu y tu ôl i gyflwyno’r newidiadau hyn oedd cynnig mwy o hyblygrwydd i Aelodau heb gynyddu’r gost i drethdalwyr. Ar adeg eu cyflwyno, cytunodd y Bwrdd i fonitro eu heffaith ymhen chwe mis a 12 mis.

Ystyriodd y Bwrdd sut yr oedd yr Aelodau wedi defnyddio’r darpariaethau newydd a chytunwyd bod y newidiadau o fudd i’r Aelodau a’u bod yn cael yr effaith a fwriadwyd. Cytunodd y Bwrdd i gynnal adolygiad arall o’r gwariant hwn ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol er mwyn bod yn sicr bod y newidiadau yn parhau i gael yr effaith a ddymunir.

Yn ogystal, nododd y Bwrdd y byddai cywiriad eglurhaol yn cael ei wneud i’r Penderfyniad mewn perthynas â’r darpariaethau trosglwyddo, a hynny i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd ar y mater hwn ym mis Mawrth 2018. O’r herwydd, cytunodd y Bwrdd i newid y testun ym mharagraff 6.8.1 o’r Penderfyniad fel ei fod bellach yn darllen fel a ganlyn:

“Gall aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o’u Lwfans Costau Swyddfa i’w Lwfans Staffio pan fo cronfeydd dros ben yn bodoli.  Gall aelodau hefyd drosglwyddo hyd at yr un swm o’u Lwfans Staffio i’w Lwfans Costau Swyddfa pan fo cronfeydd dros ben yn bodoli.”

Cyhoeddir fersiwn ddiwygiedig o’r Penderfyniad yn fuan.

Gwasanaethau a ddarperir gan Gomisiwn y Cynulliad

Ystyriodd y Bwrdd wybodaeth a ddarparwyd iddo gan Gomisiwn y Cynulliad mewn perthynas â chyflenwadau swyddfa ac Yswiriant Atebolrwydd Arferion Cyflogaeth ar gyfer Aelodau a ariennir yn ganolog gan y Comisiwn. Mae’r Comisiwn wedi gwahodd y Bwrdd i ystyried a ddylai rhai o’r rhain gael eu hariannu trwy’r Penderfyniad. Cytunodd y Bwrdd i ofyn i’r Comisiwn am ragor o wybodaeth am y mater hwn cyn penderfynu sut y mae am fwrw ymlaen.