Nodiadau’r cyfarfod – 19 Medi 2019

Cyhoeddwyd 30/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 19 Medi 2019. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Mae adolygiad y Bwrdd o’r Penderfyniad cyn y Cynulliad nesaf yn mynd rhagddo, a threuliwyd y rhan fwyaf o’r cyfarfod fis Medi yn trafod y gwahanol faterion sy’n codi o’r adolygiad, fel yr amlinellir isod:

Rhan Dau

Mae’r rhan hon o’r adolygiad yn canolbwyntio ar y gefnogaeth i Aelodau’r Cynulliad a chefnogaeth i Bleidiau Gwleidyddol. Cafodd yr ymgynghoriad ei gyhoeddi yn dilyn cyfarfod mis Gorffennaf, ac edrychwn ymlaen at glywed eich barn. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 11 Hydref 2019

Ystyriodd y Bwrdd ddiweddariadau ynghylch y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol a Chyflogi Staff Grwpiau Gwleidyddol er mwyn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau. Mae’r Bwrdd o’r farn bod y trefniadau cyfredol lle mae staff Grŵp Gwleidyddol yn cael eu cyflogi gan Arweinwyr Grŵp yn briodol, ac nid yw’r Bwrdd yn cynnig dim newidiadau ar hyn o bryd.

Ystyriodd y Bwrdd hefyd a oedd y model cyllido cyfredol ar gyfer Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn parhau i gyflawni ei amcanion – a osodwyd gan y Bwrdd blaenorol. Yng ngoleuni’r potensial i ddiwygio’r Cynulliad ymhellach yn nhymor nesaf y Cynulliad, roedd y Bwrdd o’r farn y byddai’n fwy priodol gwneud unrhyw newidiadau sylweddol sydd eu hangen i’r model ar yr adeg honno.

Rhan Tri

Ystyriodd y Bwrdd ymhellach y darpariaethau sy’n dod o dan Ran Tri o’i adolygiad o’r Penderfyniad, gan ganolbwyntio ar gyflogau Aelodau, deiliaid swyddi, y rhai sy’n gadael eu swydd a chymorth ychwanegol. Cytunodd y Bwrdd i lansio ymgynghoriad ar y cynigion sy’n deillio o’r rhan hon o’i adolygiad cyn hir, gan nodi y byddai’r ymgynghoriad yn dod i ben ddechrau mis Tachwedd. Nododd y Bwrdd fod Comisiwn y Cynulliad yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ail-leoli ar gyfer Aelodau sy’n gadael eu swydd a’u Staff Cymorth. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at y Comisiwn i ofyn iddo ystyried ehangu cwmpas y gwasanaethau ail-leoli ar gyfer yr Aelodau hynny sy’n penderfynu gadael eu swydd a pheidio â sefyll etholiad.

Materion eraill

Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Rhoddwyd diweddariad i’r Bwrdd ar newid cyfansoddiadol yn y Cynulliad. Trafododd y Bwrdd y gweithgaredd diweddaraf mewn perthynas â’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a bydd yn parhau i fonitro datblygiadau’r Bil. Maes o law, bydd yn ystyried materion sy’n codi o’r Bil sy’n dod o fewn ei gylch gwaith.

Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

Nododd y Bwrdd fod y Cynulliad wedi penderfynu sefydlu Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, ac y byddai’n gwneud penderfyniadau ar faint ac aelodaeth y Pwyllgor maes o law. Ar y sail y bydd gwaith y Pwyllgor o bosibl yn gymhleth ac o natur wleidyddol sensitif, cytunodd y Bwrdd y dylid talu Cadeirydd y Pwyllgor newydd ar y gyfradd uwch.

Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau

Ystyriodd y Bwrdd y trefniadau ar gyfer penodi Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Pensiynau o fis Mai 2020.

Ymgysylltu ag Aelodau a staff cymorth

Cynhaliodd y Bwrdd ddigwyddiad llwyddiannus i’r Aelodau alw heibio ddydd Mercher 18 Medi, a daeth rhyw ddwsin o Aelodau a staff cymorth i drafod materion a gwmpesir gan y Penderfyniad. Mae’r Bwrdd bob amser yn awyddus i glywed eich barn, a hoffwn ddiolch i’r Aelodau a’r staff cymorth am eu cyfranogiad a’u hymgysylltiad â ni. Bydd cyfarfodydd grŵp cynrychiolwyr yn cael eu cynnal cyn cyfarfod y Bwrdd ym mis Tachwedd, a bydd y manylion yn cael eu hanfon yn fuan.