Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 17 Ionawr. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.
Roedd y Bwrdd yn drist o glywed am farwolaeth Steffan Lewis. Rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwys at deulu, ffrindiau a chydweithwyr Steffan.
Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law i’w drydydd ymgynghoriad yn deillio o’i adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau. Mae’r Bwrdd yn ddiolchgar i’r holl bobl a rannodd eu safbwyntiau â’r Bwrdd ar ei gyfres derfynol o gynigion. Ar ôl ystyried yr ymatebion a ddaeth i law yn ofalus, amlinellir isod benderfyniad terfynol y Bwrdd ar bob un o’r cynigion.
Cael gwared â’r arian sydd ar gael i gyflogi aelodau’r teulu
Mae’r Bwrdd yn cydnabod mai i gynyddu tryloywder a thegwch yn y broses recriwtio i benodi staff cymorth sy’n aelodau’r teulu oedd nod cyflwyno’r gweithdrefnau sydd ar waith ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae caniatáu cyflogi aelodau’r teulu gan Aelodau y telir amdanynt gan lwfansau a ariennir gan y cyhoedd yn golygu bod y Cynulliad yn anghyson â’r trefniadau presennol yn Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Erbyn hyn, mae’r Bwrdd o’r farn, fel mater o egwyddor gyffredinol, nad yw’r lwfansau presennol yn diwallu’r angen i sicrhau uniondeb, tryloywder a gwrthrychedd wrth ymdrin â’r holl staff cymorth a gyflogir gan Aelodau’r Cynulliad yn yr un ffordd, nac y gall y cyhoedd fod yn hyderus bod hyn yn wir. Felly, nid yw’r lwfansau’n llwyr wireddu uchelgais clir y Bwrdd i gynnal hyder y cyhoedd ac enw da’r Cynulliad.
Hefyd, mae’r Bwrdd o’r farn ei bod yn anoddach cynnal adolygiadau perfformiad, gan ymdrin â materion ymddygiad a chwynion ac, yn bwysicaf oll, unrhyw drafodaeth ar faterion urddas a pharch, mewn modd syml a thryloyw pan fo hyn yn cynnwys perthnasau teuluol.
Mae mynd i’r afael â’r materion uchod yn flaenoriaeth i’r Bwrdd. Wrth wneud hynny, rhaid i’r Bwrdd ystyried ei amcanion, fel yr amlinellir yn y ddeddfwriaeth, i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar yr Aelodau i’w galluogi i arfer eu swyddogaethau a hefyd i wneud Penderfyniad sy’n sicrhau y caiff arian y cyhoedd ei wario ag ‘uniondeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder’.
Ar ôl ystyried yn ofalus â meddwl agored yr ymatebion a ddaeth i law i’w drydydd ymgynghoriad, ochr yn ochr ag amcanion statudol y Bwrdd, mae’r Bwrdd wedi cytuno i ddiwygio ei gynigion gwreiddiol ar gyfer y trefniadau cyllido ynghylch cyflogi aelodau’r teulu[1]. Felly, bydd y Bwrdd yn rhoi cynllun ar waith sydd, yn ei farn ef, wedi’i ddylunio orau i gyflawni ei amcanion ar gyfer y dyfodol heb anfantais anghymesur i’r rhai a gyflogir gan yr Aelodau ar hyn o bryd.
I’r perwyl hwn, mae’r Bwrdd wedi diwygio ei ddau gynnig fel bod cyllid ar gyfer aelodau’r teulu sydd eisoes wedi’u cyflogi cyn 1 Ebrill 2019 yn parhau tan ddiddymu’r Chweched Cynulliad (sy’n debygol o fod yn 2026). Bydd hyn yn darparu cyfnod pontio hwy i aelodau’r teulu sydd wedi’u cyflogi gan yr Aelodau ar hyn o bryd. Mae’r Bwrdd o’r farn bod ymestyn y dyddiad hwn, o 2021 fel y cynigiwyd yn wreiddiol, yn fodd cymesur o fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a fynegwyd ynghylch effaith y cynigion gwreiddiol ar ddewisiadau gyrfa’r rhai yr effeithir arnynt.
Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, trafododd y Bwrdd hefyd y cyfnod pontio mewn deddfwrfeydd eraill. Bydd y Bwrdd yn rhoi cyfnod pontio ar waith sy’n adlewyrchu’r hyn a ddarparwyd i aelodau’r teulu sy’n gweithio i Aelodau o Senedd yr Alban.
Hefyd, mae’r Bwrdd wedi cytuno na fydd dim cyllid ar gael i aelodau teulu newydd a gyflogir gan yr Aelodau o 1 Ebrill 2019, sef y dyddiad pan ddaw’r Penderfyniad nesaf (ar gyfer 2019-20) i rym.
Mae penderfyniad y Bwrdd, fel yr amlinellir, yn golygu’r canlynol:
- O 1 Ebrill 2019, ni fydd dim arian ar gael i gyflogi aelodau’r teulu nad oeddent eisoes wedi’u cyflogi cyn y dyddiad hwn (felly nid yw’r dyddiad y cyfeiriwyd ato yn yr ymgynghoriad, sef 24 Hydref 2018, yn berthnasol mwyach).
- Bydd amddiffyniad trosiannol[2] i’r rhai a oedd wedi’u cyflogi cyn 1 Ebrill 2019. Bydd y diogelwch trosiannol yn dod i ben ar ddyddiad diddymu’r Chweched Cynulliad (y disgwylir iddo fod yn 2026);
- Mae’r amddiffyniad trosiannol yn talu staff i aros yn eu swydd bresennol ac ar eu horiau gwaith presennol yn unig. Mewn geiriau eraill, ni fydd dim cyllid ar gyfer y gost ychwanegol o gynyddu oriau gwaith na dyrchafu’r unigolion sydd â diogelwch trosiannol;
- Bydd gan gyflogai sy’n dod yn aelod o deulu Aelod yr un diogelwch trosiannol tan ddiddymu’r Chweched Cynulliad, ni waeth pryd mae’n dod (neu y daeth) yn aelod o deulu ei gyflogwr.
- I’r rheini sy’n dod yn aelod o deulu Aelod ar ôl diddymu’r Chweched Cynulliad, caiff y cyllid ei dynnu’n ôl ar y diwrnod y byddant yn dod yn aelod o deulu Aelod. Efallai y bydd ganddynt hawl i becyn adsefydlu yn dibynnu ar delerau’r Penderfyniad ar yr adeg honno.
Ar ôl ystyried trefniadau deddfwrfeydd eraill yn y Deyrnas Unedig, mae’r Bwrdd wedi cytuno hefyd i gyflwyno rhagor o ddarpariaethau a fydd, ym marn y pwyllgor, yn gwella tryloywder ac atebolrwydd Aelodau sy’n cyflogi aelodau’r teulu. Fel y cyfryw, bydd y Bwrdd yn cyhoeddi’r canlynol:
- enw, swydd, perthynas a band cyflog pob aelod o’r teulu[3];
- y taliadau goramser wythnosol cyfartalog a wneir i aelodau’r teulu yn ystod y flwyddyn ariannol (o fis Ebrill 2019 gyda’r bwriad i ddechrau eu cyhoeddi’n flynyddol o 2020).
Wrth weithredu’r newidiadau hyn, trafododd y Bwrdd ei ymrwymiad blaenorol i sicrhau nad yw’n bosibl adnabod staff cymorth unigol drwy gyhoeddi’n flynyddol gyfanswm gwariant Aelod ar staff. Fel y cyfryw, caiff rhagor o fesurau diogelu eu rhoi ar waith a fydd yn sicrhau na ellir adnabod rhai nad ydynt yn aelodau’r teulu drwy gyhoeddi’r wybodaeth hon.
Byddai’r Bwrdd yn annog yr Aelodau i gyflwyno arfarniadau annibynnol ar gyfer aelodau o staff sydd hefyd yn aelodau’r teulu.
Mae’r Bwrdd o’r farn y bydd gweithredu’r newidiadau uchod yn gwella’r tryloywder sy’n ymwneud â chyflogi aelodau’r teulu ac yn mynd i’r afael â’r prif bryderon a gafwyd mewn ymateb i’w ymgynghoriad gwreiddiol.
Drwy gydol ei drafodaeth o’r materion hyn, cafodd y Bwrdd gyngor cyfreithiol annibynnol gan Helen Mountfield QC.
Efallai yr hoffech nodi mai dim ond i’r staff cymorth sy’n gweithio i aelod o’r teulu y mae’r penderfyniadau uchod yn gymwys ac nad ydynt yn cyfyngu ar staff rhag gweithio i Aelod nad yw’n perthyn iddynt.
Hoffai’r Bwrdd atgoffa’r aelodau o staff y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt o’r sianeli cymorth amrywiol sydd ar gael iddynt, megis y Rhaglen Cymorth i Weithwyr. Hefyd, mae’r Bwrdd wedi cytuno i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad i ofyn i wasanaethau a chymorth all-leoli barhau i fod ar gael pan fo’r amser yn dod. Dylai unrhyw un y mae angen cymorth ychwanegol arno wrth fynd ar drywydd y sianeli hyn gysylltu â’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau.
Addasu cyflogau’r staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion
Roedd yr holl ymatebion a ddaeth i law yn gyffredinol yn cefnogi cynnig y Bwrdd i addasu cyflogau’r staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn enillion gros canolrifol yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru rhwng mis Mawrth un flwyddyn a mis Mawrth y flwyddyn flaenorol. O’r herwydd, cytunodd y Bwrdd i weithredu’r newid hwn ar unwaith, a fydd yn cysoni’r broses â’r addasiad awtomatig yng nghyflogau Aelodau’r Cynulliad. O 1 Ebrill 2019, cynyddir cyflogau Aelodau a staff cymorth 1.2 y cant. Bydd manylion am y cyflogau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y Penderfyniad ar gyfer 2019-20.
Nododd y Bwrdd yr awgrymiadau a wnaed mewn perthynas ag ystyried mecanweithiau eraill ar gyfer addasu cyflogau staff cymorth. Fodd bynnag, mae’r Bwrdd o’r farn bod y mecanwaith y mae’n ei ddefnyddio ar gyfer staff cymorth ac Aelodau yn briodol o hyd. Os bydd y Bwrdd o’r farn nad yw ffigur yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yn briodol, caiff benderfynu ymgynghori ar ddefnyddio mecanwaith mynegeio gwahanol yn ystod unrhyw flwyddyn benodol.
Cyflwyno diwrnodau braint i’r staff cymorth
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i’w gynnig i gyflwyno diwrnodau braint i’r staff cymorth. Roedd yr holl ymatebwyr o blaid cynnig y Bwrdd, ond nododd rhai o’r ymatebwyr y dylai’r Aelodau fod yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad sy’n effeithio ar eu swyddfa. Fel y cyfryw, cytunodd y Bwrdd i ddiwygio contractau’r staff cymorth i gyflwyno’r ddarpariaeth hon o 1 Ebrill 2019 gan nodi mai’r Aelod sy’n eu cyflogi, neu Blaid Wleidyddol y staff cymorth sy’n gweithio mewn swyddfeydd grŵp, fydd yn gyfrifol am benderfynu pryd y caniateir cymryd y diwrnodau braint hyn.
Cyflwyno polisi absenoldeb tosturiol newydd i’r staff cymorth
Roedd yr holl bobl a ymatebodd i’r cynnig hwn yn croesawu awgrym y Bwrdd y dylid cyflwyno polisi absenoldeb tosturiol i’r staff cymorth. Ar ran y Bwrdd, bydd yr ysgrifenyddiaeth yn gweithio gyda Grwpiau Cynrychioliadol yr Aelodau a’r staff cymorth i ddatblygu’r polisi newydd hwn. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y broses hon yn cael ei chadarnhau maes o law.
Nododd y Bwrdd fod nifer o ymatebion yn cwestiynu’r sail resymegol dros bolisïau’r Comisiwn sy’n adlewyrchu’r rhai a oedd yn cael eu cynnig gan y Bwrdd yn ei ymgynghoriad. Nid oes gan y Bwrdd wybodaeth o’r fath, felly dylid cyfeirio’r ymholiadau hyn at wasanaeth perthnasol y Comisiwn.
Adolygiad o’r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno
Hefyd, trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd i’w gynigion i ddiwygio’r Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno. Cytunodd y Bwrdd i adolygu’r Gweithdrefnau hyn ar ôl i Gomisiwn y Cynulliad fabwysiadu ei Bolisi Urddas a Pharch newydd.
Nododd y Bwrdd fod yr holl ymatebion, yn gyffredinol, yn cefnogi ei gynigion. Yn sgil yr ymatebion a gafwyd, cytunodd y Bwrdd i weithredu’r newidiadau arfaethedig i’r gweithdrefnau disgyblu a chwyno er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r Polisi Urddas a Pharch. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys cyflwyno swyddogion cwynion sy’n annibynnol ar y Cynulliad a’r hawl i fynd â rhywun i’r cyfarfodydd a gynhelir yn unol â’r gweithdrefnau hyn. Bydd y Bwrdd yn gweithio gyda’r Comisiynydd Safonau a’r Grwpiau Cynrychioliadol i sicrhau bod y gweithdrefnau’n glir ac yn ateb y gofyn.
Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad
Cynhaliodd y Bwrdd ei ail drafodaeth ar y materion sy’n dod o dan ran un o’i adolygiad, sy’n canolbwyntio ar benodau’r Penderfyniad sy’n trafod gwariant llety preswyl, costau teithio a chostau swyddfa’r Aelodau. Bydd y Bwrdd yn dychwelyd i’r materion a godwyd yn ei gyfarfod nesaf. Fel yr amlinellwyd ar wefan y Bwrdd, mae’r Bwrdd yn disgwyl cyhoeddi ymgynghoriad ar y materion a godir yn y rhan hon o’r adolygiad yn ystod tymor y gwanwyn.
Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2019-20
Cafodd manylion am gynigion ymgynghori’r Bwrdd, yn sgil ei adolygiad blynyddol o’r
Penderfyniad, eu cyhoeddi yn llythyr y Bwrdd, dyddiedig 22 Ionawr 2019. Cofiwch anfon ymatebion i’r cynigion uchod atom erbyn 12 Mawrth 2019 i lywio trafodaethau’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf.
Materion eraill
Hoffai’r Bwrdd ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o werthuso rôl yr Uwch-gynghorydd hyd yn hyn. Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn sicrhau bod yr Aelodau a’r staff cymorth yn cael eu hysbysu’n llawn o gyfleoedd eraill i gymryd rhan yn y broses hon. Bydd y Bwrdd yn trafod yr adroddiad gan Capital People, y sefydliad sy’n cynnal y gwerthusiad ar ran y Bwrdd, mewn cyfarfod yn y dyfodol, a bydd yn defnyddio’r wybodaeth hon i lywio ei adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
[1] Fel y’u diffiniwyd yn Rheol Sefydlog 3 – Cofnodi Cyflogaeth Aelodau’r Teulu gyda Chymorth Arian y Comisiwn.
[2] Ystyr “Diogelwch Trosiannol” yw y bydd y cyllid yn parhau i gael ei roi i gyflogi’r unigolion hynny tan ddiddymu’r Chweched Cynulliad.
[3] Mae Cofrestr Buddiannau’r Aelodau eisoes yn nodi enw, swydd a pherthynas unrhyw aelod o’r teulu sydd mewn cyflogaeth.