Nodiadau’r cyfarfod – 16 Ionawr 2020

Cyhoeddwyd 07/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 16 Ionawr 2020. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.   

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad  

Mae adolygiad y Bwrdd bellach yn agosáu at ei gamau terfynol wrth inni geisio cyflawni ein hamcan o gyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad ym mis Mai 2020.  

Trafododd y Bwrdd ddrafft terfynol y Penderfyniad llawn yn y cyfarfod hwn, gyhoeddwyd i ymgynghori yn ei gylch ar 5 Chwefror 2020. 

Newid arfaethedig yng Ngweithdrefn Ddisgyblu a Chwyno staff cymorth 

Efallai eich bod yn cofio i’r Bwrdd ddiwygio Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno staff cymorth y llynedd. Prif ddiben y newidiadau hynny oedd sicrhau eu bod yn gydnaws â pholisi Urddas a Pharch Comisiwn y Cynulliad. Un o’r newidiadau a wnaed gan y Bwrdd oedd cyflwyno darpariaeth ymchwilydd annibynnol i gynnal ymchwiliadau, lle bo hynny’n briodol.   

Mae’r gweithdrefnau’n caniatáu apeliadau yn unol â’r cod ACAS.  Fodd bynnag, roedd y Bwrdd o’r farn y dylid caniatáu apeliadau mewn amgylchiadau lle’r oedd sail resymol dros apelio. Roedd y Bwrdd o’r farn mai’r amgylchiadau hynny yw (i) os bydd proses wedi methu, (ii) os bydd tystiolaeth newydd wedi dod i’r amlwg, neu (iii) os bydd tystiolaeth o ragfarn ormodol ar ran yr ymchwilydd. Mae’r Bwrdd o’r farn nad yw ei fwriad wrth adolygu’r gweithdrefnau yn glir o’r drafft presennol. O’r herwydd, mae’r Bwrdd yn cynnig egluro’r geiriad i nodi’n benodol o dan pa sail y gellir gwneud apêl. 

Mae’r cymal presennol sy’n galluogi aelod o staff cymorth i wneud apêl yn erbyn canlyniad gwrandawiad disgyblu wedi’i eirio fel a ganlyn: 

Os bydd aelod o staff cymorth yn teimlo bod cosb disgyblu yn ei erbyn yn anghywir neu’n annheg, caiff apelio yn erbyn y penderfyniad.  

Mae’r cymal presennol sy’n galluogi aelod o staff cymorth i wneud apêl yn erbyn canlyniad cwyn wedi’i eirio fel a ganlyn: 

Os nad yw aelod o staff cymorth yn teimlo bod ei gŵyn wedi’i ddatrys yn foddhaol, dylai apelio. Dylai roi gwybod i’w Swyddog Cwynion am y rhesymau dros ei apêl yn ysgrifenedig.   

Mae’r Bwrdd yn cynnig mewnosod y testun a ganlyn yn y gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno: 

Gellir cyflwyno apêl yn erbyn cosb ddisgyblu/canlyniad cwyn pan fydd gan yr aelod o Staff Cymorth achos i gredu bod un o’r seiliau a ganlyn wedi’u bodloni: – 

a)osbu methiant i ddilyn proses; 

b)os daethtystiolaeth newydd i’r amlwg na allai fod yn rhesymol hysbys adeg y gwrandawiad cwyn; 

c)os oestystiolaeth o ragfarn ormodol. 

Dylai roi gwybod i’w Aelod Cynulliad/Swyddog Cwynion am y rhesymau dros eapêl yn ysgrifenedig. 

Byddai cynnig y Bwrdd yn berthnasol i bob apêl gan gynnwys y rhai a wneir gan ymchwilydd annibynnol. Fel y nodwyd uchod, mae’r Bwrdd o’r farn y bydd yn sicrhau’r eglurder angenrheidiol drwy nodi ei fwriad yn benodol yn y ffordd hon. 

Cynnig: Bod y Bwrdd yn diwygio adrannau apeliadau Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno staff cymorth fel yr amlinellwyd. 

Cofiwch anfon ymatebion i’r cynigion uchod atom erbyn 24 Mawrth 2020 er mwyn llywio trafodaethau’r Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf.  

Sylwch y bydd cyfle i’r Aelod a grwpiau cynrychioliadol y staff cymorth drafod y mater hwn ac unrhyw faterion eraill gydag aelodau’r Bwrdd ym mis Chwefror. 

Materion eraill  

Adolygu’r llawlyfr staff cymorth 

Fel y gwyddoch, mae’r Bwrdd wedi cyflwyno amryw o bolisïau ar gyfer staff cymorth ers ei sefydlu yn 2010, a’r enghraifft ddiweddaraf yw polisi Absenoldeb Tosturiol newydd yn 2019. Trafododd y Bwrdd esblygiad polisïau staff cymorth dros y blynyddoedd diwethaf a chytunodd y byddai bellach yn ddoeth ystyried sut i wneud Aelodau (fel cyflogwyr) a staff cymorth (fel cyflogeion) yn ymwybodol o’r amrywiaeth o bolisïau sydd ar waith. Fel y cyfryw, cytunodd y Bwrdd i drafod ymhellach sut i wella rôl y Llawlyfr staff cymorth yn ei gyfarfod nesaf. 

Mesurau diogelwch 

Trafododd y Bwrdd a oes angen rhagor o fesurau diogelwch ar gyfer Aelodau a’u swyddfeydd. Mae’r Bwrdd yn fodlon bod y darpariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigonol. Hoffai’r Bwrdd achub ar y cyfle hwn i atgoffa’r Aelodau bod ganddynt ddyletswydd gofal, fel cyflogwr, dros eu staff cymorth drwy sicrhau eu bod yn ddiogel bob amser wrth ymgymryd â’u swyddi.  Pe bai angen rhagor o adolygiadau diogelwch, byddai’r Bwrdd yn annog Aelodau i siarad â Thîm Diogelwch Comisiwn y Cynulliad a all roi cyngor ar gadw’n ddiogel bob amser.