Nodiadau’r cyfarfod – 15 Mawrth 2018

Cyhoeddwyd 06/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/08/2021   |   Amser darllen munudau

Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 15 Mawrth. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.

Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau

Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth yr oedd yr adolygiad wedi’i chael hyd yn hyn. Trafododd y Bwrdd pa faterion y gall fod angen eu hystyried ymhellach a pha faterion y gellid mynd i’r afael â hwy yn gynt ac, o ganlyniad, mae wedi penderfynu ymgynghori ar rai materion ar unwaith. Nodir manylion am yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad.

Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2018-19

Cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19

Cytunodd y Bwrdd i gynyddu cyflogau staff cymorth ar gyfer 2018-19 2.3 y cant yn unol â’r ffigurau dros dro ar gyfer newid mewn enillion canolrifol yng Nghymru, fel y’u mesurir gan yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Caiff y newid ei roi ar waith ar 1 Ebrill 2018.

Fel y nodir yn y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad, caiff cyflogau’r Aelodau a deiliaid swyddi eu haddasu’n awtomatig bob blwyddyn yn unol â’r newid mewn enillion canolrifol yng Nghymru, fel y’u mesurir gan yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Felly, bydd cyflogau’r Aelodau a deiliad swyddi yn cynyddu o fis Ebrill, yn yr un modd â chyflogau staff cymorth.

Nododd y Bwrdd yr ymateb a ddaeth i law a gododd bryderon ynghylch y gwahaniaeth yng nghyflogau staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd i drafod y mater hwn fel rhan o’r adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau, o ystyried swyddi cymaradwy mewn deddfwrfeydd eraill a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Lwfans costau swyddfa ar gyfer 2018-19

Cytunodd y Bwrdd i gynyddu’r Lwfans Costau Swyddfa ar gyfer 2018-19 5 y cant. Mae hyn yn unol â chyfradd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Medi 2017 (3 y cant) ac i dalu’r costau ychwanegol y disgwylir i’r Aelodau eu hariannu o’u cyllideb, megis y feddalwedd gweithiwr achos a gofynion estynedig y Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Caiff y newid ei roi ar waith ar 1 Ebrill 2018.

Nododd y Bwrdd y pryderon a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch y pwysau tymor hwy ar y Lwfans Costau Swyddfa, yn ogystal â marchnadoedd rhent uwch mewn rhai rhannau o’r wlad. O dan y cynnig i gynyddu’r gallu i drosglwyddo arian, byddai’r Aelodau hefyd yn gallu cynyddu’r lwfans hwn trwy drosglwyddo cronfeydd dros ben o’u lwfans staffio, ffigur sydd â therfyn uchaf o 25 y cant o’r Lwfans Costau Swyddfa. Cytunodd y Bwrdd i fyfyrio ar effaith y newidiadau hyn yn ei adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad

Cytunodd y Bwrdd hefyd i gynnig lwfans heb derfyn uchaf a fydd wedi’i gyfyngu i’r meini prawf a ddefnyddir ar hyn o bryd i ganiatáu i’r Aelodau roi argymhellion diogelwch ar waith.

Gwariant ar lety preswyl ar gyfer 2018-19

Cytunodd y Bwrdd y byddai’r Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer 2018-19 yn aros ar y cyfraddau presennol y darperir ar eu cyfer yn y Penderfyniad.

Nododd y Bwrdd y materion a godwyd mewn perthynas â’r mynegai a ddefnyddir ar gyfer uwchraddio’r lwfans, yn ogystal â’r modd y diffinnir ffiniau’r lwfans. Bydd y Bwrdd yn trafod y materion hyn ymhellach fel rhan o’i waith ar gyfer creu Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.

Cyhoeddir Penderfyniad diwygiedig ar gyfer 2018-19 maes o law.

Y cymhellion i sefyll ar gyfer etholiad i’r Cynulliad a’r rhwystrau rhag gwneud hynny

Cafwyd rhagor o drafodaethau gan y Bwrdd am yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a gynhaliodd yr adolygiad ar ran y Bwrdd. Fodd bynnag, yn sgîl camau diwydiannol parhaus sy’n effeithio ar y Ganolfan, gohiriwyd y trafodaethau ynghylch trefniadau cyhoeddi’r adroddiad. Cytunodd y Bwrdd i wahodd cynrychiolwyr o’r Ganolfan i’w gyfarfod ym mis Mai i drafod camau nesaf yr adolygiad.

Materion eraill

Nododd y Bwrdd y datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2018. Bydd y Bwrdd yn trafod goblygiadau’r gwaith hwn ar y polisïau y mae’n gyfrifol amdanynt ynglŷn â staff cymorth pan fydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau.

Trafododd y Bwrdd sut y byddai’n ymgysylltu â Grwpiau Cynrychiolwyr Aelodau a staff cymorth yn y dyfodol a bydd yn ysgrifennu at aelodau’r grwpiau hynny ar wahân i amlinellu ei gynigion.

Trafododd y Bwrdd ei gynnydd hyd yn hyn yn erbyn y blaenoriaethau strategol a nodir yn ei strategaeth ar gyfer 2016-2021. Cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi crynodeb o’i gynnydd yn erbyn y blaenoriaethau strategol hyn yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2017-18.

Hefyd, trafododd y Bwrdd ei raglen waith ar gyfer gweddill ei gyfnod yn y swydd. Cytunodd i lunio cynllun manylach ar gyfer y gwaith hwn a rhannu manylion am y gwaith hwn maes o law er mwyn hysbysu’r Aelodau a’r staff cymorth.