Cyfarfu’r Bwrdd Taliadau ar 11 Hydref. Mae’r canlynol yn grynodeb o’i drafodaethau a’i benderfyniadau.
Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad
Trafododd y Bwrdd ei flaenraglen waith ar gyfer adolygu ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd ar raglen waith a fydd yn sicrhau y bydd yn cyflawni ei amcan cychwynnol, sef pennu Penderfyniad ar gyfer mis Mai 2020, flwyddyn cyn yr etholiad nesaf. Nododd y Bwrdd y gallai rhaglen ddiwygio’r Cynulliad effeithio ar amserlen yr adolygiad hwn. Bydd y Bwrdd yn ysgrifennu atoch eto gyda manylion am sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â’r rhaglen waith hon a’r cyfleoedd sydd ar gael i chi rannu eich barn am y materion dan sylw.
Adolygiad o’r cymorth staffio i’r Aelodau
Trafododd y Bwrdd y materion a oedd yn weddill yn sgil ei adolygiad. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar rai o’r materion fel rhan o’r adolygiad hwn ac y byddai rhai’n cael eu trafod fel rhan o’i adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ymgynghoriad terfynol ei adolygiad yn fuan.
Hefyd, trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd yn dilyn yr ail ymgynghoriad sy’n deillio o’r adolygiad hwn ar hyblygrwydd y lwfansau sy’n ymwneud â’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol. Mae penderfyniadau’r Bwrdd ar bob cynnig wedi’u hamlinellu isod.
Cyllidebu costau staffio Pleidiau Gwleidyddol ar y gost wirioneddol
Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a gafodd ar ei gynnig i gyfrifo’r balans yn y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar y gost wirioneddol. Gan fod yr holl ymatebion a gafwyd o blaid y newid, cytunodd y Bwrdd i weithredu’r penderfyniad hwn, a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2019. Bydd y newid hwn yn digwydd yr un pryd â phenderfyniad blaenorol y Bwrdd i gyfrifo’r balans yn y Lwfans Staffio ar y gost wirioneddol.
Nododd y Bwrdd y pryderon a godwyd ynghylch y newid hwn, gan y gall annog y defnydd o staff dros dro, a hynny am y byddai grŵp plaid o bosibl yn dewis penodi’r unigolion hyn ar fandiau cyflog is. Byddai hyn, yn ei dro, yn golygu y byddai mwy o gyllid ar gael i’r blaid honno. Cytunodd y Bwrdd i adolygu’r newid hwn chwe mis a 12 mis ar ôl ei weithredu.
Trosglwyddo rhwng cyllidebau
Cafodd y Bwrdd ddau ymateb i’r cynnig hwn: yr oedd y naill yn cytuno â chynnig y Bwrdd a’r llall yn ei wrthwynebu. Ar ôl trafod y ddau ymateb, penderfynodd y Bwrdd ddileu’r ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy’n caniatáu trosglwyddo arian o Lwfans Staffio Aelod i’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol, gyda’r newid hwn yn dod i rym ar ddyddiad y llythyr hwn. Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn cynnal diben gwreiddiol y ddau lwfans. Cytunodd y Bwrdd i ganiatáu i’r trefniadau trosglwyddo sydd eisoes ar waith barhau nes i’r Pumed Cynulliad gael ei ddiddymu.
Cyhoeddi gwariant a wneir yn erbyn y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
Roedd yr holl ymatebion a gafwyd ar y mater hwn o blaid cyhoeddi gwariant pob plaid yn erbyn y lwfans. Nododd y Bwrdd y pryderon a godwyd gan ymatebwyr a oedd yn gofyn am sicrwydd na fyddai’n bosibl adnabod data personol y staff cymorth o ddata a gyhoeddir. Cytunodd y Bwrdd i roi camau diogelu ar waith i sicrhau na ellid adnabod staff cymorth o’r wybodaeth a gyhoeddir.
Mae’r Bwrdd wedi penderfynu gweithredu’r penderfyniad hwn ar unwaith a bydd y data cyntaf yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, sef ym mis Ebrill 2019. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cynulliad, fel sy’n digwydd ar gyfer lwfansau eraill ar hyn o bryd.
Sylwer y caiff Penderfyniad diwygiedig ei gyhoeddi’n fuan i adlewyrchu’r newidiadau hyn.
Llywodraethu Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dilyn y penderfyniad yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf i sefydlu corff dynodedig a fyddai’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar gynllun pensiwn y staff cymorth, cytunodd y Bwrdd ar gylch gorchwyl y grŵp llywodraethu newydd. Cytunodd y Bwrdd y byddai Mike Redhouse yn cynrychioli’r Bwrdd ar y grŵp ochr yn ochr â Phennaeth Pensiynau’r Comisiwn a Nia Morgan, ei Gyfarwyddwr Cyllid, sef enwebai Comisiwn y Cynulliad.
Polisi Urddas a Pharch
Yn dilyn cyhoeddi’r Polisi Urddas a Pharch newydd, cytunodd y Bwrdd i wneud rhagor o waith ar y polisïau y mae’n gyfrifol amdanynt, sef Gweithdrefn Ddisgyblu a Gweithdrefn Gwyno staff cymorth. Trafododd y Bwrdd yr adborth cychwynnol a gafwyd ar y gweithdrefnau a chytunodd i ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig i’r ddwy weithdrefn hyn, a bydd yn cyhoeddi manylion am hyn maes o law.
Trafododd y Bwrdd yr argymhellion sy’n codi o adroddiad diweddar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad ar fynd i’r afael â’r materion a godwyd mewn perthynas â swyddfeydd yr Aelodau Annibynnol. Cytunodd y Bwrdd hefyd i aros nes i’r adolygiad o God Ymddygiad yr Aelodau gael ei gwblhau cyn trafod newidiadau i’r Cod Ymddygiad ar gyfer staff cymorth, a hynny er mwyn sicrhau ymagwedd gyson lle y bo angen.
Materion eraill
Nododd y Bwrdd y newidiadau i arweinyddiaeth tair o’r pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad a llongyfarch yr arweinwyr newydd ar eu rolau newydd. Mae’r Bwrdd am ddiolch i’r arweinwyr blaenorol am eu gwaith ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r arweinwyr newydd am weddill y Cynulliad hwn.
Nododd y Bwrdd y canfyddiadau sy’n codi o ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru. Cytunodd y Bwrdd i drafod y canfyddiadau perthnasol fel rhan o’i adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.