Gwerthuso swydd yr Uwch-gynghorydd

Cyhoeddwyd 12/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/11/2022   |   Amser darllen munudau

Fel yr amlinellwyd yn ei ddogfen ymgynghori ddiweddar, mae’r Bwrdd o’r farn ei bod yn amserol gwerthuso sut mae swydd Uwch-gynghorydd wedi gweithredu ers ei chreu. Fel y gwyddoch, crëwyd y swydd ar ddechrau’r Pumed Cynulliad yn dilyn ymgynghoriad gan y Bwrdd Taliadau blaenorol. Amcan y swydd oedd gwella gallu strategol swyddfeydd yr Aelodau ar faterion polisi, y cyfryngau a/neu faterion etholaeth lefel uchel.

Wrth iddo gasglu data ar gyfer yr adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau, cafodd y Bwrdd adborth cymysg am y swydd gan yr Aelodau a’u staff cymorth. Fel y gwyddoch, yn ddiweddar, fe gynyddodd y Bwrdd yr hyblygrwydd cydrhwng y lwfansau yn y Penderfyniad er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon a godwyd ynghylch chyllido’r swydd.

Gan ei bod bellach dros ddwy flynedd a hanner ers i’r swydd gael ei chreu, mae’r Bwrdd o’r farn ei bod yn amserol adolygu ym mha ffordd y mae’r rôl wedi datblygu yn erbyn yr amcanion gwreiddiol ar gyfer ei chreu. Dyma’r materion allweddol y bydd y gwerthusiad yn eu hystyried:

  • set sgiliau’r unigolion a gyflogir yn Uwch-gynghorwyr;
  • manteision ac anfanteision y rôl i Aelodau’r Cynulliad;
  • y materion a wynebwyd ers i’r rôl gael ei chreu;
  • y rhesymau y mae hanner yr holl Aelodau heb gyflogi Uwch-gynghorydd.

Yn dilyn proses dendro agored, mae’r Bwrdd wedi comisiynu Capital People, cwmni Adnoddau Dynol ymgynghorol yng Nghaerdydd, i gynnal yr adolygiad a gwneud argymhellion i’r Bwrdd. Bydd Capital People yn cynnal cyfweliadau â sampl o Aelodau a staff cymorth dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf gyda’r bwriad o gwblhau’r gwaith hwn ddechrau 2019. Caiff y manylion ynghylch sut y gwahoddir unigolion i gymryd rhan yn yr adolygiad eu cadarnhau maes o law.