Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn cyhoeddi Penderfyniadau ar Gyflogau a Chyllidebau ar gyfer y Seithfed Senedd

Cyhoeddwyd 31/03/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2026

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi cyhoeddi ei Benderfyniad terfynol ar gyfer y Seithfed Senedd. Mae hyn yn cwblhau adolygiad aml-flwyddyn o’r cymorth ariannol a’r adnoddau sydd ar gael i’r Aelodau a’u staff ar gyfer y tymor seneddol nesaf.

Nod y Penderfyniad terfynol yw bod yn gliriach, yn fwy hygyrch ac yn fwy tryloyw, gan gefnogi Aelodau i gyflawni eu rolau yn effeithiol tra’n sicrhau gwerth am arian.

Mae’r Penderfyniad yn adlewyrchu’r gwaith helaeth a wnaed drwy gydol y Chweched Senedd o ran casglu tystiolaeth ac ymgysylltu. Roedd hyn yn cynnwys tri ymgynghoriad cyhoeddus, mewnbwn gan randdeiliaid, a gwaith dadansoddi manwl i geisio diwallu anghenion Senedd â 96 o Aelodau, ffiniau etholiadol newydd a ffyrdd newydd o weithio.

Dywedodd Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol:

“Rydym yn falch o gyhoeddi’r Penderfyniad terfynol ar gyfer y Seithfed Senedd.

“Ein nod drwy’r broses gyfan oedd sicrhau bod gan yr Aelodau a’u staff y tâl a’r cymorth priodol i fodloni gofynion Senedd sy’n newid. Mae’r Aelodau’n chwarae rhan hanfodol yn ein democratiaeth, ac rydym yn darparu costau staffio a busnes er mwyn iddynt allu cyflawni eu gwaith o ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, deddfu i Gymru, cytuno ar drethi yng Nghymru, ac ymgysylltu â’u hetholwyr a’u cynrychioli.”

“Mae’r Penderfyniad yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen i ymateb i anghenion y Senedd yn y dyfodol, ynghyd â mesurau diogelwch cymesur a strwythurau clir i sicrhau bod y system yn parhau i fod yn dryloyw, yn gadarn ac yn gynaliadwy.”

“Nod ein penderfyniadau yw cynnal atebolrwydd a sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr, o fewn cyd-destun amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.”

Mae’r Penderfyniad ar Gyflogau, Staffio a Chymorth Busnes yr Aelodau 2026-27 bellach ar gael ar wefan y Bwrdd.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Gall Tîm Newyddion Comisiwn y Senedd hwyluso ceisiadau am ragor o wybodaeth. Cysylltwch ar 0300 200 7487 neu newyddion@senedd.cymru

Cadarnhaodd y Bwrdd ei benderfyniadau ar gyflogau Aelodau a staff ar gyfer y Seithfed Senedd ym mis Gorffennaf 2025.

Mae’r Bwrdd yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y tâl a'r adnoddau cywir ar gael i Aelodau o’r Senedd fel y gallant gyflawni eu rôl. Mae hyn yn cynnwys pennu cyflogau’r Aelodau yn ogystal â'u cymorth ariannol arall, megis costau staffio a swyddfa.

Mae cyfres o egwyddorion a ddiffiniwyd yn glir yn sail i waith y Bwrdd:

  • dylai cymorth ariannol a thâl yr Aelodau gefnogi diben strategol y Senedd a hwyluso gwaith ei Haelodau;
  • rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru;
  • rhaid i’r system o gymorth ariannol i’r Aelodau fod yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy ac yn gynhwysol, a rhaid iddi gynnig gwerth am arian i’r trethdalwr.

Rhagor o wybodaeth