Mae aelod newydd wedi cael ei benodi i Fwrdd Taliadau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyn-Brif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru yw Ronnie Alexander a chaiff ei gyflogi ar hyn o bryd gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr fel Eiriolwr Defnyddwyr a’r Asiantaeth Safonau Bwyd fel aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Dywedodd Ronnie Alexander:
“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gael fy mhenodi i’r Bwrdd Taliadau ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos ag aelodau eraill o’r Bwrdd, ac o dan arweiniad y Cadeirydd, ar benderfynu ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol.”
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol:
“Bydd profiad a gwybodaeth Ronnie o fywyd cyhoeddus Cymru yn cyfrannu elfen hanfodol at waith y Bwrdd o ran helpu Aelodau’r Cynulliad i wneud eu gwaith yn effeithiol.”
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad:
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu denu aelod newydd o’r Bwrdd sydd â chymaint o brofiad eang yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
“Mae gennym aelodau o’r radd uchaf ar y Bwrdd ac mae hyn yn helpu i sicrhau bod pobl yn hyderus bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn modd priodol, gydag atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.”
Bywgraffiad Ronnie Alexander:
Roedd Ronnie Alexander yn Brif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn Llywodraeth Cymru tan 2013, pan adawodd i fynd ar drywydd amrywiaeth o ddiddordebau eraill. Mae’n cael ei gyflogi ar hyn o bryd gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr fel Eiriolwr Defnyddwyr, a chan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru sy’n benodiad gan y Gweinidog.
Yn ogystal, mae wedi cael ei benodi’n Gadeirydd Annibynnol Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac mae’n aelod o Fwrdd Gofal Hafod sy’n rhan o Gymdeithas Tai Hendre.
Roedd gyrfa Ronnie yn y gwasanaeth sifil yn rhychwantu dros 20 mlynedd, ac roedd newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd yn ddiddordebau penodol ganddo. Cyn hynny bu’n gweithio i nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn meysydd fel gwasanaethau cymorth strategol a gorfodi. Mae ganddo hanes sylweddol o ymgysylltu â’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a gwleidyddion ar bob lefel i ddylanwadu ar bolisi.