Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol y Bwrdd Taliadau ar gyfer 2017-18 ym mis Gorffennaf 2018. Mae’r adroddiad blynyddol yn amlinellu’r gwaith a’r penderfyniadau y mae wedi’u gwneud yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae’r penderfyniadau hyn yn cynnwys:
- cynyddu’r hyblygrwydd yn y ffordd y gall Aelodau ddefnyddio’r lwfansau sydd ar gael iddynt yn y Penderfyniad er mwyn diwallu eu hanghenion unigol;
- cynyddu cyflog staff cymorth o 2.3 y cant yn unol â ffigurau 2017 ar gyfer Cymru yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion;
- cynyddu’r lwfans costau swyddfa o 5 y cant yn unol â’r mynegai prisiau defnyddwyr ac i fynd i’r afael â’r gofynion cynyddol ar y lwfans o ran costau.
Gwnaed y penderfyniadau hyn yn unol ag ymrwymiad y Bwrdd i sicrhau bod yr Aelodau yn cael adnoddau a fydd yn caniatáu iddynt ymgymryd â’u dyletswyddau Seneddol gan ddangos gwerth da am arian i’r pwrs cyhoeddus ar yr un pryd.
Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o flaenraglen waith y Bwrdd, yn cynnwys:
- adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad;
- adolygiad o gymorth staffio i Aelodau.
Darllenwch adroddiad blynyddol 2017-18.