Yn ei gyfarfod ar 11 Hydref bu’r Bwrdd Taliadau yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law fel rhan o’i adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau a’r adborth cychwynnol a gafwyd ar y Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno. Ar ôl ystyried y materion hyn, cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion yn sgil yr adolygiad o gymorth staffio a’r newidiadau arfaethedig i’r ddwy Weithdrefn. Mae manylion y cynigion wedi’u hamlinellu yn y ddogfen ymgynghori.
Adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau
Fel y byddwch o bosibl yn gwybod, mae’r Bwrdd wedi cynnal dau ymgynghoriad fel rhan o’i adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau. Roedd y cyntaf o’r rhain yn canolbwyntio ar gyflwyno rhagor o hyblygrwydd i Aelodau, tra roedd yr ail yn trafod rhoi hyblygrwydd i Bleidiau Gwleidyddol o ran defnyddio eu lwfansau.
Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ei adolygiad, yng nghyd-destun y materion hynny sy’n weddill yn ei gylch gorchwyl, yn ei gyfarfod ar 11 Hydref, a chytunodd i ymgynghori ar ddiwygio nifer o ddarpariaethau yn ei Benderfyniad. Mae manylion llawn yr ymgynghoriad wedi’u cyhoeddi ar wefan y Bwrdd, ac maent i’w gweld yn yr atodiad i’r llythyr hwn. Nodir crynodeb o’r cynigion ymgynghori isod:
- diwygio sut y caiff cyflogaeth aelodau o deulu’r Aelod a phartneriaid ei hariannu;
- cyflwyno diwrnodau braint i staff cymorth;
- cyflwyno polisi ffurfiol ynghylch absenoldeb tosturiol i staff cymorth;
- addasu cyflog staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.
Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn rhoi trosolwg o’r materion y mae’r Bwrdd wedi’u trafod fel rhan o’r adolygiad ond y mae wedi penderfynu, yn sgil y dystiolaeth a ddaeth i law, i beidio â chynnig unrhyw ddiwygiadau i’r darpariaethau ar hyn o bryd. Er gwybodaeth, bydd rhai o’r materion hyn yn cael eu trafod fel rhan o adolygiad y Bwrdd o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Y Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno
Mae’r Bwrdd wedi cytuno i adolygu’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno yn sgil cyhoeddi’r Polisi Urddas a Pharch newydd. Yn ei gyfarfod ym mis Hydref, trafododd y Bwrdd yr adborth cychwynnol a gafodd ar y ddwy weithdrefn, ac mae wedi cytuno i ymgynghori ar nifer o gynigion i ddiwygio’r ddwy weithdrefn. Mae manylion y cynigion ymgynghori hyn wedi’u nodi yn y ddogfen ymgynghori.
Ymateb i’r ymgynghoriad
Byddai’r Bwrdd yn croesawu’ch sylwadau ar unrhyw un o’i gynigion i ddiwygio’r darpariaethau fel yr amlinellir uchod. Gofynnir ichi gyflwyno unrhyw ymatebion i’r cynigion hyn erbyn 13 Rhagfyr 2018 i lywio trafodaethau’r Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol. Os oes gennych gwestiynau sy’n gysylltiedig â’r adolygiad neu’r ymgynghoriad, cysylltwch â’r ysgrifenyddiaeth. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio’r wybodaeth a roddir gennych, sydd wedi’i nodi yn y ddogfen ymgynghori, cyn cyflwyno eich ymateb.