Adolygiad diwedd tymor - Mis Rhagfyr 2025
Mae'r Bwrdd yn falch o gyhoeddi ei Adroddiad Diwedd Tymor.
Cynhaliwyd yr adolygiad annibynnol gan FinWell Coaching & Consulting Ltd ac ystyriodd ffyrdd y Bwrdd o weithio, y cynnydd yn erbyn ei amcanion, a cheisiodd nodi unrhyw wersi ar gyfer y Bwrdd newydd. Mae FinWell wedi cynnal adolygiadau tebyg o'r blaen ar gyfer Byrddau eraill, megis Bwrdd yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA).
Mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi ymateb yn croesawu'r adroddiad, ac wedi derbyn yr adroddiad a'i argymhellion yn llawn. Mae'r adolygiad wedi rhoi sicrwydd i'r Bwrdd bod ei ymagwedd at fusnes a llywodraethu yn effeithiol ac mae hefyd wedi nodi sawl thema ac argymhelliad i gryfhau trefniadau a chynllunio strategol y Bwrdd ymhellach ar gyfer ei dymor newydd.
Adolygiad Effeithiolrwydd - Mis Mawrth 2023
Ym mis Mawrth 2023, cafodd y Bwrdd adolygiad o'i effeithiolrwydd. Cynhaliwyd yr adolygiad gan Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu Comisiwn y Senedd. Roedd 12 o argymhellion yn ymwneud â’r berthynas rhwng y Bwrdd, y Comisiwn ac Aelodau o’r Senedd; cynyddu tryloywder a darparu adnoddau effeithiol ar gyfer gwaith y Bwrdd.
Mewn ymateb, cytunodd y Bwrdd ar gynllun gweithredu, a rhoddwyd y cynllun ar waith o fis Mai 2023.