Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (adran 20) yn galluogi’r Bwrdd Taliadau i wneud darpariaeth ar gyfer Cynllun Pensiwn i Aelodau o’r Senedd. Yn unol ag adran 20 o’r Ddeddf, creodd y Bwrdd Gynllun newydd, a ddaeth i rym ar ddiwrnod cyntaf y Bumed Senedd, sef 6 Mai 2016.
Mae'r Cynllun yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 ac yn cael ei weinyddu yn unol â gofynion Rheolau’r Cynllun.
Y Bwrdd Taliadau, fel yr awdurdod cyfrifol, sy’n gwneud Rheolau’r Cynllun, ac mae ganddo dri maes cyfrifoldeb allweddol:
- Penodiadau i’r Bwrdd Pensiwn: rhaid i’r Bwrdd Taliadau enwebu cadeirydd annibynnol y Bwrdd Pensiwn. Rhaid iddynt hefyd benodi unrhyw Ymddiriedolwr a gallant ddiswyddo unrhyw Ymddiriedolwr. Mae’r Ymddiriedolwyr yn gweithredu gyda’i gilydd i ffurfio’r Bwrdd Pensiwn;
- Goruchwylio cyfradd cyfraniad yr Aelodau
- Cytuno ac ymgynghori â’r Ymddiriedolwyr ar unrhyw newidiadau arfaethedig i Reolau’r Cynllun.
Mae'r Bwrdd Pensiwn yn cynnwys Ymddiriedolwr Annibynnol proffesiynol i weithredu fel Cadeirydd;
dau gynrychiolydd sydd wedi’u henwebu gan Aelodau presennol a blaenorol o’r Senedd, a dau gynrychiolydd sydd wedi’u eu penodi gan Gomisiwn y Senedd.
Mae'r Bwrdd Taliadau wedi cymeradwyo aelodaeth y Bwrdd Pensiwn ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd yn ffurfiol, sef:
- Gregor Law (Cadeirydd Annibynnol)
- Hefin David (Aelod Llafur Cymru presennol o’r Senedd ac ymddiriedolwr a enwebwyd gan Gomisiwn y Senedd)
- Mike Hedges (Aelod Llafur Cymru presennol o’r Senedd)
- Bob Evans (Ymddiriedolwr a enwebwyd gan Gomisiwn y Senedd)
- Nick Ramsay (cyn Aelod o’r Senedd dros y Ceidwadwyr Cymreig ac Ymddiriedolwr a enwebwyd gan yr Aelodau)
Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd ar gael yma