Aelodau'r Bwrdd

Cyhoeddwyd 21/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/07/2024   |   Amser darllen munud

Mae aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi gan Comisiwn y Senedd ac yn aros yn y swydd am gyfnod penodol o bum mlynedd. Nodir isod aelodaeth bresennol y Bwrdd.

Yn unol ag arfer da ac wrth gydymffurfio â darpariaethau adran 2 o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (y Mesur), mae aelodau'r Bwrdd Taliadau wedi datgan buddiannau perthnasol er mwyn i’r Bwrdd weithredu gydag annibyniaeth, ac i fod yn agored ac yn gynhwysol. Mae'r wybodaeth hon yn gyfredol ar 5 Ebrill 2023, a chaiff ei diweddaru os gwneir unrhyw newidiadau.

Datganiadau o Fuddiannau gan Aelodau Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (Saesneg yn unig).

 

Dr. Elizabeth Haywood (Cadeirydd)

Mae Elizabeth yn Gyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd profiadol. Yn flaenorol mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn gadeirydd ei Bwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd, yn aelod o Fwrdd Scottish Power Energy Networks, Grŵp Hendre, Leonard Cheshire, yn aelod annibynnol o Fwrdd Taliadau Swyddfa Archwilio Cymru, ac yn Gadeirydd cyntaf CGGC Services Ltd. Cadeiriodd Dasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Ddinas-ranbarthau.

Treuliodd ei gyrfa gynnar yn Senedd Ewrop ac Awdurdod Datblygu Cymru, cyn iddi gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr CBI Cymru, yna’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Cymdeithas y Cwmnïau Trenau ac yna fe redodd gwmni chwilio am uwch-swyddogion yng Nghaerdydd a Llundain.

Mae ganddi radd economeg o Brifysgol Caerdydd, PhD a doethuriaeth er anrhydedd gan Abertawe, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Cymraes y Flwyddyn, ac mae’n Gymrawd Mygedol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cafodd Elizabeth ei phenodi’n Gadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ym mis Mehefin 2020.

Michael Redhouse

Michael Redhouse

 Ar hyn o bryd, Michael Redhouse yw Pennaeth EMES Consulting, sef cwmni a sefydlwyd ganddo yn 2002 i helpu llawer o sefydliadau mawr gyda materion taliadau a buddion. Graddiodd Michael mewn mathemateg o’r Brifysgol Agored, ac mae ei yrfa wedi cynnwys cyfnodau fel Partner yn Ernst and Young a Chyfarwyddwr Polisi Cyflogaeth yn Diageo. Mae Michael wedi bod yn Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth APEX, sy’n cefnogi troseddwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith, ac mae wedi bod yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr i Hosbis St Luke yn Harrow.

Roedd Michael arfer yn Aelod o’r Corff Adolygu Athrawon Ysgol (STRB), sy’n edrych ar gyflogau, dyletswyddau proffesiynol ac amser gweithio athrawon ysgol yng Nghymru a Lloegr, ac sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Mae Michael wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ers 2015.

 

Y Fonesig Jane Roberts

Mae Jane yn Gymrawd Gwadd mewn Arweinyddiaeth Gyhoeddus yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored.

Rhwng 2000 a 2005, Jane oedd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Camden yn Llundain, ac ers hynny mae wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau anweithredol gan gynnwys Cadeirydd Comisiwn Cynghorwyr yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, Cadeirydd Parenting UK, aelod o fwrdd Ofsted, Cadeirydd Rhwydwaith Llywodraeth Leol Newydd ac, ar hyn o bryd, Cadeirydd yr elusennau Living Streets a Stammering Chidren.

Mae hi hefyd yn aelod o Grŵp Cynghori Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Urddwyd Jane yn DBE yn 2004. Yn broffesiynol, mae hi’n feddyg ac mae’n Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc Er Anrhydedd â phrofiad o uwch-reoli ym maes gofal iechyd yn y GIG.

Mae Jane wedi cyhoeddi nifer o erthyglau academaidd am bediatreg, seiciatreg a gwleidyddiaeth. Golygodd ‘The Politics of Attachment’ (1996) ar y cyd â Sebastian Kraemer, a hi yw awdur ‘Losing Political Office’ (2017). Dyfarnwyd PhD iddi yn y Brifysgol Agored (2021).

Mae Jane wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol er 2015.

Hugh Widdis

Hugh Widdis yw Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Gyfiawnder, a dechreuodd yn y rôl hon ym mis Ebrill 2024. Mae ganddo 24 mlynedd o brofiad o weithio mewn gwasanaethau cyfreithiol, seneddol a llywodraethol.

Rhwng 2015 a 2024, Hugh oedd Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth ar gyfer Gogledd Iwerddon a’r Cyfreithiwr Adrannol ar gyfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Yn ystod 2017-18, ef oedd Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Gyllid.

Cyn ymuno â Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon, Hugh oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu Cynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae Hugh wedi gweithio ym maes ymchwil yn y gorffennol, ac fel bargyfreithiwr mewn practis preifat. Mae hefyd wedi gweithio yn swyddfa gyfreithiol Senedd yr Alban, ac wedi gwneud gwaith ar gyfraith gwahaniaethu yn Swyddfa’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog. Roedd yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn Senedd Cymru rhwng 2012 a 2019.

Mae Hugh yn fargyfreithiwr ac yn aelod o Far Iwerddon a Bar Gogledd Iwerddon. Mae Hugh yn Llywodraethwr yn Academi Banbridge, yn aelod o Fwrdd Taliadau Annibynnol Senedd Cymru ac yn aelod o fwrdd Fforwm y Prif Weithredwyr.