Cymorth Staffio 2025 Cwestiynau Cyffredin

Cyhoeddwyd 31/03/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2025

Cyffredinol 

Fframwaith cyflogau a graddio newydd ar gyfer staff cymorth 

C1. Beth yw’r fframwaith cyflogau a graddio newydd?

A: Mae'r fframwaith cyflogau a graddio newydd ar gyfer staff cymorth, a gyflwynir ar ddechrau'r Seithfed Senedd, yn darparu fframwaith cadarn i alluogi'r Aelodau, fel cyflogwyr staff cymorth, i bennu band cyflog a chyflog priodol ar gyfer pob swydd a gyflogir ganddynt. 

Mae'r fframwaith yn darparu ar gyfer pedwar teulu swyddi sy'n adlewyrchu’r gwahanol fathau o waith a wneir gan staff cymorth, fel y nodwyd yng ngwaith ymchwil ac ymgysylltu Beamans ag Aelodau a staff. Y pedwar teulu swyddi hyn yw:  

  • polisi ac ymchwil; 
  • cyfathrebu;  
  • gwaith achos; a  
  • gweinyddu busnes.  

 

Mae hefyd yn darparu ar gyfer pedwar band cyflog:  

  • Uwch-gynghorydd;   
  • Band 1; 
  • Band 2 a   
  • Band 3.  

Mae’r rhain yn efelychu’r bandiau cyflog sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith presennol; mae band cyflog presennol y Pennaeth Staff yn parhau ond nid yw wedi'i gynnwys yn y fframwaith, ar y sail mai rôl benodol sy’n unigryw i Grwpiau Gwleidyddol y Senedd yw hon.  

Ac eithrio Band 3, rhennir pob band cyflog yn bedwar pwynt cyflog cynyddrannol gyda staff i symud ymlaen trwy'r pwyntiau cyflog yn flynyddol (h.y. ar ben-blwydd dyddiad cychwyn cyflogaeth) yn amodol ar berfformiad boddhaol. Mae Band 3 wedi’i rannu’n dri phwynt cyflog. Mae nifer y pwyntiau cyflog fesul band cyflog yn adlewyrchu nifer y blynyddoedd y gellir disgwyl yn rhesymol i staff cymorth gyrraedd cymhwysedd llawn o fewn eu rolau. Mae’r pedwar pwynt cyflog ar gyfer y rhan fwyaf o fandiau cyflog hefyd yn adlewyrchu, o 2026, y bydd tymhorau’r Senedd yn para pedair blynedd.   

Mae’r model teuluoedd swyddi hwn yn adlewyrchu'r fframweithiau cyflogau a graddio sydd ar waith yn Senedd y DU a Senedd yr Alban, er bod rhai gwahaniaethau e.e. nifer wahanol o fandiau cyflog.

C2. Pam bod y Bwrdd yn cyflwyno fframwaith cyflogau a graddio newydd ar gyfer staff cymorth?  

A: Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Aelodau, Grwpiau Gwleidyddol a Staff Cymorth, mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd (y Bwrdd) wedi cynnal adolygiad o’r fframwaith cyflogau a graddio ar gyfer staff cymorth y Senedd fel rhan o raglen waith strategol i ddatblygu Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd.  

Ymysg nodau’r adolygiad mae sicrhau bod y fframwaith yn galluogi Aelodau a Grwpiau i ddarparu cyflog teg i Staff Cymorth a Staff Grŵp Aelodau o’r Senedd a'i fod yn galluogi Aelodau i recriwtio a chadw staff sydd â’r profiad, gwybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol.  

Mae cyflwyno fframwaith cyflogau a graddio newydd yn darparu gwell tryloywder o ran graddio rolau ac, o ganlyniad, bydd cyflogau’n cael eu cymhwyso i rolau swydd sy'n adlewyrchu'n fwy cywir lefel y cyfrifoldeb a chymhlethdod pob rôl a sicrhau bod rolau tebyg yn cael cyflog cyfartal.  

C3. Sut cafodd y fframwaith cyflogau a graddio newydd ei ddatblygu?

A: Cynhaliodd y Bwrdd adolygiad o'r fframwaith mewn dau Gam. Comisiynodd ymgynghorwyr cyflogau a graddio allanol, Beamans, i adolygu'r fframwaith cyflogau a graddio presennol. Yn ystod Cam Un o’r adolygiad, gofynnodd Beamans am farn nifer sylweddol o Aelodau a staff cymorth ar y fframwaith presennol. Fel y nodir yn yr adroddiad hwn, daeth Beamans i'r casgliad bod y fframwaith presennol yn gofyn am newid sylfaenol a’i fod yn cynnwys nifer o gyfyngiadau ac anghysondebau.

Ymgynghorodd y Bwrdd ag Aelodau, grwpiau gwleidyddol, staff cymorth ac undebau llafur ar yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio ar gyfer fframwaith newydd yn seiliedig ar fodel teuluoedd swyddi. Mae hwn yn fodel tebyg i’r un sydd wedi’i fabwysiadu yn Senedd yr Alban a Senedd y DU. Roedd cefnogaeth eang i’r ymagwedd Teuluoedd Swyddi.  

Yna, comisiynodd y Bwrdd Beamans i ddatblygu fframwaith cyflogau a graddio newydd ar gyfer staff cymorth yn y Seithfed Senedd, yn seiliedig ar y model teuluoedd swyddi (Cam Dau o’r adolygiad). Mae Beamans wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr staff cymorth a nifer o Aelodau i brofi’r canllaw categoreiddio sy’n nodi’r teuluoedd swyddi newydd arfaethedig a nodweddion swyddi ar wahanol fandiau cyflog (ond nid cyflogau). 

Mae’r Bwrdd bellach yn gofyn am farn ei randdeiliaid ar fframwaith cyflogau a graddio newydd drafft ar gyfer staff cymorth gan gynnwys cyflogau diwygiedig yn seiliedig ar ganfyddiadau'r dadansoddiad meincnodi gan Beamans. Ymgynghoriad yw hwn, a byddai'r Bwrdd yn croesawu sylwadau gan Aelodau, staff ac undebau, cyn cwblhau ei benderfyniadau yn yr haf. 

C4. Pwy sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r fframwaith teuluoedd swyddi newydd arfaethedig?

A: Mae Aelodau, staff cymorth ac undebau llafur sy'n cynrychioli staff cymorth yn y Senedd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith teuluoedd swyddi newydd. Ymgysylltodd Beamans â nifer sylweddol o Aelodau a staff cymorth fel rhan o’u hadolygiad o’r fframwaith presennol. Ymgynghorodd y Bwrdd â’r holl Aelodau, grwpiau gwleidyddol, staff cymorth ac undebau llafur ar yr argymhellion a wnaed gan Beamans yn dilyn eu hadolygiad a'r model sy’n cael ei ffafrio gan y Bwrdd ar gyfer fframwaith newydd. 

Rhoddodd nifer o Aelodau a staff cymorth a chynrychiolwyr undebau llafur (gan gynnwys Grwpiau Cynrychiolwyr Aelodau a Staff Cymorth y Bwrdd) farn ar ganllaw categoreiddio drafft (sy’n nodi’r teuluoedd swyddi newydd a nodweddion swyddi ar wahanol fandiau cyflog, ond nid cyflogau) wrth i Beamans ei ddatblygu. Cytunodd chwe Aelod i gyfarfod â Beamans i ‘brofi’ y canllaw yn erbyn swyddi a gyflogir ganddynt ar hyn o bryd, gyda'r fframwaith yn cael ei fireinio ar sail y profion hyn.    

Gwnaeth Beamans hefyd feincnodi cyflogau swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n debyg i’r rhai a wneir gan staff cymorth, a datblygodd fandiau cyflog newydd i’w cynnwys yn y fframwaith newydd ar sail y gwaith meincnodi hwn.   

Ymgynghorir yn awr â’r holl Aelodau, staff cymorth, cynrychiolwyr undebau llafur a grwpiau gwleidyddol ar fframwaith newydd drafft. Bydd y Bwrdd yn ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad cyn cytuno yn yr haf ynghylch a ddylid cyflwyno fframwaith newydd a fersiwn derfynol o’r fframwaith.   

C5. Beth yw'r llinell amser ar gyfer symud i'r fframwaith cyflogau a graddio newydd?

Haf 2025: Disgwylir i'r Bwrdd wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cyflwyno fframwaith cyflogau a graddio newydd ar gyfer y Seithfed Senedd gan gynnwys cyflogau newydd.     

Hydref 2025/dechrau 2026: Byddai disgwyl i Aelodau sy’n sefyll i’w hail-ethol raddio rolau swyddi y maent yn bwriadu eu cyflogi yn y Seithfed Senedd, yn unol â’r fframwaith cyflogau a graddio newydd. Bydd canllawiau a chyngor ar gael i Aelodau i'w cefnogi drwy'r broses hon.  

Byddai angen cwblhau’r broses hon cyn diddymu’r Chweched Senedd fan bellaf er mwyn i staff cymorth gael eu cyflogi yn unol â’r fframwaith newydd arfaethedig a’r cyflogau newydd o ddechrau’r Seithfed Senedd. Dim ond pan fydd staff yn cael eu cyflogi yn unol â’r fframwaith cyflogau a graddio newydd arfaethedig y byddai Aelodau’r Seithfed Senedd yn gallu talu cyflogau staff o’r gyllideb staffio sydd ar gael iddynt drwy’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau..      

C6. A yw'r Bwrdd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol fel rhan o'r gwaith o baratoi'r fframwaith newydd?
A: Ydy, mae'r Bwrdd wedi gofyn am gyngor cyfreithiol allanol arbenigol ar sawl agwedd ar y fframwaith newydd ac mae'r cyngor wedi helpu i lunio datblygiad y fframwaith newydd. Nid yw'r cyngor hwn wedi'i gyhoeddi gan iddo gael ei ddarparu i'r Bwrdd yn gyfrinachol.
C7. Pam nad yw rôl y Pennaeth Staff wedi'i chynnwys yn y canllaw categoreiddio?

A: Mae Pennaeth Staff yn rôl benodol a gyflogir o fewn grwpiau gwleidyddol. Gan mai dim ond un band cyflog sy'n cael ei ddarparu ar gyfer swydd Pennaeth Staff, nid oes angen defnyddio'r canllaw i nodi'r cyflog priodol ar gyfer Pennaeth Staff.  

Mae natur rôl y Pennaeth Staff yn wahanol iawn i natur rolau eraill a nodir yn y fframwaith a’r canllaw categoreiddio ac felly nid yw'n cael ei adlewyrchu yn y canllaw.   

C8. Pam nad yw’r teulu swyddi ar gyfer gwaith achos a gweinyddu busnes yn gymwys i'r band cyflog Uwch-gynghorydd o fewn y fframwaith cyflogau a graddio newydd arfaethedig?

A: Cyflwynwyd y rôl Uwch-gynghorydd yn ystod y Bumed Senedd i ddarparu adnodd arbenigol i’r Aelodau i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r cylch gorchwyl penodol hwn yn golygu bod rôl yr Uwch-gynghorydd fel arfer yn canolbwyntio ar feysydd polisi, ymchwil neu gyfathrebu. Cadarnhawyd hyn gan ymchwil Beamans i'r gwaith a wneir gan staff cymorth.  

Nid yw’r teulu swyddi ar gyfer gwaith achos a gweinyddu busnes yn gymwys i'r rôl Uwch-gynghorydd o fewn y fframwaith newydd. Mae natur rôl yr Uwch-gynghorydd, yn enwedig pan fydd yn gweithio yn y swyddfa etholaethol, yn golygu y gallai fod rhywfaint o oruchwyliaeth dros waith achos neu reoli a chydlynu staff, ond nid y meysydd hyn fydd prif ffocws eu rôl.   

Cyflogau staff cymorth 

C9. Sut cafodd cyflogau staff cymorth eu meincnodi?
  1. Cynhaliodd Beamans ddadansoddiad meincnodi o gyflogau staff cymorth presennol gan ddefnyddio cronfa ddata cyflog Brightmine, sef un o gronfeydd data cyflog mwyaf helaeth y DU. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar gyflog rolau tebyg neu swyddi sydd â chyfrifoldebau tebyg yn sector cyhoeddus Cymru er bod cyflogau o fewn sectorau eraill ac ardaloedd daearyddol hefyd yn cael eu hadolygu.

Roedd Beamans hefyd yn ystyried cyflogau a dalwyd am swyddi tebyg o fewn deddfwrfeydd eraill ac o fewn Comisiwn y Senedd. Roedd hyn yn cynnwys ystyried y cyflogau sy’n cael eu talu am swyddi sy’n cael hysbysebu sy’n debyg i'r rhai a gyflogir gan Aelodau gan gynnwys swyddi a gyflogir gan Aelodau Seneddol. 

Ar sail yr adolygiad hwn o ddata helaeth ar gyflogau, nododd Beamans gyflogau canolrifol sy’n cael eu talu yn y farchnad swyddi ar gyfer swyddi o'r mathau a gyflogir gan Aelodau.  

Cafodd y symiau canolrifol hyn eu hystyried gan y Bwrdd ochr yn ochr â ffactorau eraill gan gynnwys egwyddorion arweiniol y Bwrdd ei hun a fforddiadwyedd i greu ystodau cyflog newydd ar gyfer staff cymorth ym mhob band cyflog. 

C10. A yw’r cyflogau wedi’u meincnodi â deddfwrfeydd eraill?

A: Ydyn. Roedd gwaith meincnodi Beamans yn ystyried y cyflogau sydd ar gael i staff cymorth Aelodau o Senedd y DU a Senedd yr Alban yn ogystal â'r cyflogau sy’n cael eu talu i staff Comisiwn y Senedd. 

Yn 2024-25, roedd cyflogau staff cymorth yr Aelodau yn y Senedd yn amrywio o leiafswm o £24,243 (pwynt cyflog 1 ym Mand 3) i uchafswm o £49,752. Roedd cyflogau staff cymorth yn Senedd y DU sydd wedi’u lleoli y tu allan i Lundain yn amrywio o leiafswm o £22,318 i uchafswm o £52,793. Yn Senedd yr Alban, roedd cyflogau’n amrywio o isafswm o £23,303 i uchafswm o £52,556.  

Mae staff cymorth y Senedd yn cael dilyniant cyflog cynyddol fesul cam hyd at bwynt cyflog uchaf yn eu band cyflog, tra bod staff cymorth Senedd yr Alban a Senedd y DU yn aml yn cael cyfradd cyflog ar hap unigol (“spot salaries”) sy’n golygu bod eu cyflogau’n cael eu gosod ar lefel benodol o fewn y band cyflog perthnasol ac efallai na fydd eu cyflogau’n cyrraedd uchafswm y band cyflog.   

At hynny, mae dadansoddiad o hysbysebion swyddi diweddar yn awgrymu bod cyflog am rolau tebyg fel arfer o fewn bandiau cyflog cymorth y Senedd ac yn aml yn cael ei hysbysebu ar ben isaf bandiau cyflog staff cymorth y Senedd (mae rhagor o fanylion yn y ddogfen ymgynghori). 

Roedd dadansoddiad meincnodi yn dangos bod y lefelau cyflog cyfredol ar gyfer staff cymorth yn debyg yn fras i swyddi tebyg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, Comisiwn y Senedd a staff cymorth yn Senedd y DU.  

C11. Sut mae'r bandiau cyflog newydd wedi'u creu?
  1. Roedd y gwaith meincnodi a wnaed gan yr ymgynghorwyr allanol Beamans yn nodi cyflogau canolrifol o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer swyddi tebyg i'r rhai a gyflawnir gan staff cymorth. Mae’r bandiau cyflog newydd arfaethedig yn seiliedig ar y cyflogau canolrifol hynny gydag uchafswm pob band cyflog yn 112.5% o’r canolrif, ac isafswm pob band cyflog yn 87.5% o’r canolrif. Mae hyn yn darparu ar gyfer lled band cyflog cyson o 25% ar gyfer pob band cyflog newydd arfaethedig. Mae lled y bandiau cyflog presennol yn amrywio rhwng 20% a 36%.

Mae ystyriaethau gwahanol yn berthnasol i Fand 3. Byddai cyfrifo'r bandiau cyflog newydd arfaethedig yn y modd hwn (87.5% - 112.5% o'r canolrif) yn arwain at isafswm Band 3 newydd o £23,783. Fel y nodir yn y Penderfyniad, mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i'r egwyddor na ddylai cyflogau staff cymorth ddisgyn yn is na'r Cyflog Byw Gwirioneddol, sy’n £24,243 ar hyn o bryd. O’r herwydd, yr isafswm Band 3 newydd arfaethedig yw £24,243 (a fydd yn cynyddu’n flynyddol yn unol â ffigurau’r Arolwg Blynyddol o Enillion Aelwydydd (ASHE) ar gyfer Cymru) a bydd yn destun unrhyw addasiad i sicrhau nad yw pwyntiau cyflog yn disgyn yn is na’r Cyflog Byw Gwirioneddol.  

Dylid nodi y datblygwyd y cyflogau newydd arfaethedig (sydd wedi’u nodi yn y ddogfen ymgynghori) ar sail meincnodi yn erbyn data cyflogau sector cyhoeddus Cymru ar gyfer 2024-25. Bydd y cyflogau hynny felly yn destun yr un cynnydd ASHE Cymru ag a fydd yn berthnasol i gyflogau cyfredol ar 1 Ebrill 2025, a rhagwelir y byddent hefyd yn destun cynnydd pellach yn unol â ffigur ASHE a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2026, cyn i’r cyflogau newydd ddod i rym ym mis Mai 2026.  

C12. Pam bod llai o bwyntiau cyflog ar gyfer pob band cyflog yn y fframwaith newydd arfaethedig a pham mai dim ond 3 phwynt cyflog sydd ym Mand 3?

Cynigir y bydd nifer y pwyntiau cyflog fesul band cyflog yn y strwythur cyflog newydd yn gostwng o’r pump presennol i bedwar ar gyfer yr holl fandiau cyflog heblaw am Fand 3, gan mai dim ond tri phwynt cyflog fydd ar gyfer y band hwnnw.   

Mae hyn yn adlewyrchu barn y Bwrdd ar y cyfnod amser y gellir disgwyl yn rhesymol i staff cymorth ar wahanol fandiau cyflog gyrraedd ‘cymhwysedd llawn’ yn eu rolau ac felly uchafswm cyflog h.y. pedair neu dair blynedd, yn dibynnu ar y band. Bydd tymhorau’r Senedd hefyd yn lleihau o bum mlynedd i bedair blynedd o’r Seithfed Senedd ymlaen sy’n golygu y bydd staff cymorth a benodir ar ddechrau’r Senedd yn cyrraedd cymhwysedd llawn yn eu rôl (ac uchafswm eu hystod cyflog, yn amodol ar berfformiad boddhaol, fel ar hyn o bryd) erbyn diwedd tymor y Senedd hwnnw.   

Mae’r Bwrdd o’r farn y dylai dilyniant cyflog drwy’r pwyntiau cyflog cynyddrannol yn flynyddol barhau. Mae'r Bwrdd wedi gosod y cyflogau newydd arfaethedig yng nghyfartaledd cyflogau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a barn yr Aelodau a’r staff y dylai dilyniant cyflog cynyddrannol barhau. Mae dilyniant cyflog blynyddol drwy fandiau cyflog yn arferol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (ond nid mewn mannau eraill), a barn y Bwrdd yw y dylid cadw’r dull hwn ar gyfer y Seithfed Senedd. Mae’r Bwrdd hefyd yn nodi y bydd gan Aelodau ddisgresiwn o hyd, lle bo modd cyfiawnhau hynny, i benodi staff cymorth ar bwynt cyflog cychwyn uwch. 

C13. A yw pwyntiau cyflog y fframwaith cyflog newydd yn cyfateb i'r pwyntiau a'r bandiau cyflog presennol.
  1. Er bod yr un 5 band cyflog staff cymorth yn cael eu cadw (Pennaeth Staff, Uwch-gynghorydd, Band 1, Band 2 a Band 3), nid yw'r pwyntiau cyflog yn y fframwaith newydd arfaethedig yn cyfateb i'r pwyntiau cyflog yn y fframwaith presennol. Bydd nifer y pwyntiau cyflog fesul band yn y fframwaith cyflog newydd yn gostwng o’r pump presennol i bedwar ar gyfer yr holl fandiau cyflog heblaw am Fand 3, gan mai dim ond tri phwynt cyflog fydd ar gyfer y band hwnnw. Bydd yr ystodau cyflog, oherwydd meincnodi cyflogau, hefyd yn newid. Mae hyn yn golygu na fydd cyflogau'r pwyntiau cyflog presennol yn ‘mapio’ yn union ar draws y pwyntiau cyflog newydd ar y fframwaith newydd.

Dylid felly ystyried y fframwaith arfaethedig fel fframwaith newydd sbon yn hytrach na fersiwn ddiwygiedig o'r fframwaith presennol. O’r herwydd, dylai’r pwyntiau cyflog ar gyfer cyflogi staff gael eu pennu gan yr Aelodau gan ystyried ffactorau megis lefel y profiad a’r cymhwysedd sydd gan staff, yn hytrach na’r pwynt cyflog y’u cyflogwyd ynddo ar ddiwedd y Chweched Senedd.  

C14. Pam bod gorgyffwrdd rhwng bandiau cyflog a pham bod y gorgyffwrdd rhwng bandiau cyflog yr Uwch-gynghorydd a Band 1 yn fwy helaeth na’r rhai eraill sy’n gorgyffwrdd?
  1. Mae'r bandiau cyflog o fewn y fframwaith newydd arfaethedig yn seiliedig ar gyflogau canolrifol a nodwyd ar gyfer swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n debyg i'r rhai a gyflawnir gan staff cymorth. Mae canran uchafswm ac isafswm pob band cyflog yn gyson yn uwch ac yn is na’r canolrifau hynny (cyfeirir atynt fel lled bandiau cyflog). 

Byddai angen lled bandiau cyflog cul iawn i osgoi unrhyw orgyffwrdd rhwng bandiau cyflog. Ni fyddai bandiau cyflog cul iawn yn darparu ar gyfer llawer o ddilyniant cyflog i unigolion o'r isafswm (sef y cyflog cychwynnol fel arfer ar gyfer rolau swydd) i uchafswm eu band cyflog. Lled y bandiau cyflog presennol yw rhwng 20% a 36%. Mae'r Bwrdd wedi pennu lled bandiau cyflog o 87.5% a 112.5% o'r canolrifau a nodwyd (h.y. lled bandiau cyflog o 25%) gyda phedwar pwynt cyflog yn y mwyafrif o fandiau cyflog. Mae lled bandiau cyflog o'r fath yn darparu ar gyfer dilyniant cyflog gweddol o'r isafswm band cyflog i'r uchafswm i adlewyrchu datblygiad cymhwysedd aelod o staff mewn rôl dros amser tra hefyd yn osgoi gorgyffwrdd helaeth rhwng y rhan fwyaf o fandiau cyflog.   

Nid yw gorgyffwrdd cyfyngedig rhwng bandiau cyflog yn nodwedd anarferol mewn fframweithiau cyflog a graddio sefydliadau. Yn gyffredinol, mae’r gorgyffwrdd rhwng bandiau cyflog o fewn y fframwaith cyflogau a graddio newydd wedi’u cyfyngu i bwynt cyflog uchaf un band cyflog a phwynt cyflog isaf y band cyflog nesaf yn unig.  

Mae gorgyffwrdd mwy helaeth rhwng yr Uwch-gynghorydd a bandiau cyflog Band 1. Mae hyn oherwydd nad yw'r cymwyseddau a ddisgwylir gan staff a gyflogir yn y ddau fand cyflog hyn yn sylweddol wahanol, gan fod cymhlethdod a lefel cyfrifoldeb rôl yr Uwch-gynghorydd ond ychydig yn uwch na rhai rolau Band 1.  

C15. Mae'r bandiau cyflog sydd wedi’u nodi yn y fframwaith cyflogau a graddio newydd yn uwch na'r bandiau cyflog presennol yn y rhan fwyaf o fandiau heblaw am Fand 3 ac isafswm band cyflog yr Uwch-gynghorydd. Beth yw'r rheswm dros hyn?
  1. Mae'r bandiau cyflog yn nodi’r fframwaith cyflogau a graddio newydd yn seiliedig ar gyflogau canolrifol a nodwyd drwy feincnodi ar gyfer swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n debyg i'r rhai a gyflawnir gan staff cymorth. Mae’r bandiau cyflog newydd arfaethedig wedi’u gosod ar 87.5% – 112.5% o’r canolrifau hynny a nodwyd.  

Mae cyflogau canolrifol y sector cyhoeddus yng Nghymru a nodir ar gyfer rolau swyddi tebyg i'r rhai ar gyfer Pennaeth Staff, Band 1 a Band 2 yn uwch na phwyntiau canol presennol y bandiau cyflog hynny. O ganlyniad, mae'r pwyntiau cyflog uchaf ac isaf ar gyfer y bandiau cyflog hynny yn uwch yn y fframwaith cyflogau a graddio newydd nag yn y fframwaith blaenorol. 

Mae’r cyflogau canolrifol a nodir yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer rolau swyddi sy’n debyg i’r rhai a gyflawnir gan staff cymorth ar raddfeydd swyddi’r Uwch-gynghorydd a Band 3 yn is na’r pwyntiau canol presennol ar gyfer y bandiau cyflog hynny (2.3% a 3.1% yn is yn y drefn honno). Mae'n werth nodi:

  • mae lled band cyflog newydd arfaethedig o 87.5%-112.5% yn ehangach na lled band cyflog presennol yr Uwch-gynghorydd o 90%-110% – byddai’r ‘cyflog cychwynnol’ felly yn is nag ydyw ar hyn o bryd ond bydd yr uchafswm cyflog ychydig yn uwch yn y fframwaith newydd.
  • mae lled y band cyflog newydd arfaethedig o 87.5%-112.5% yn gulach na lled Band 3 presennol o 85.5%-114.5% – byddai’r ‘cyflog cychwynnol’ felly yn uwch nag ydyw ar hyn o bryd (a bob amser yn adlewyrchu’r Cyflog Byw Gwirioneddol fel isafswm( ond byddai’r uchafswm cyflog yn is yn y fframwaith newydd nag ydyw ar hyn o bryd. 
C16. A fyddai staff sy’n wynebu gostyngiad mewn cyflog o ganlyniad i gyflwyno’r fframwaith cyflogau a graddio newydd yn cael cynnig diogelwch cyflog?
  1. Rhagwelir y byddai staff ar bwynt cyflog 5 o Fand 3 ar ddiwedd y Chweched Senedd sy’n dychwelyd i’r Seithfed Senedd ar Fand 3 o dan gyflogaeth yr un Aelod yn wynebu gostyngiad cyflog yn uniongyrchol o ganlyniad i gyflwyno’r cyflogau newydd arfaethedig. Byddai'r unigolion hyn yn cael cynnig diogelwch cyflog (neu ‘gylch coch’) am uchafswm o 2 flynedd yn unol â chynigion y Bwrdd. 

Ni fyddai unrhyw staff cymorth sy’n wynebu gostyngiad mewn cyflog am unrhyw reswm arall yn cael cynnig diogelwch cyflog, er enghraifft oherwydd bod yr Aelod sy’n eu cyflogi yn aseinio band cyflog is i’w swydd yn y Seithfed Senedd neu bwynt cyflog is o fewn yr un band cyflog. Byddai unrhyw ostyngiadau o’r fath mewn cyflog yn deillio o benderfyniadau a wneir gan yr Aelodau sy’n cyflogi ar gymhwyso’r fframwaith cyflogau a graddio newydd, ac ni fyddai’n deillio’n uniongyrchol ac yn anochel yn sgil cyflwyno’r fframwaith a’r bandiau cyflog newydd.  

C17. Pryd fyddai'r cyflogau newydd arfaethedig yn cychwyn?
  1. Mae'r fframwaith cyflogau newydd arfaethedig, gan gynnwys y bandiau cyflog a'r pwyntiau cyflog newydd, yn destun ymgynghoriad. Mae’r Bwrdd yn bwriadu cwblhau cynigion yn haf 2025, a byddai disgwyl i Aelodau sy’n sefyll i’w hailethol ym mis Mai 2026 gynnal adolygiad o’r holl rolau swyddi presennol cyn diwedd tymor y Senedd hwn. Byddai cyflogau newydd yn cychwyn o ddechrau Seithfed tymor y Senedd.

 

Ar gyfer Aelodau 

Gweithredu’r fframwaith cyflogau a graddio teuluoedd swyddi newydd ar gyfer staff cymorth 

C18. Sut byddai cyflwyno’r fframwaith newydd hwn yn effeithio arnaf i (fel cyflogwr staff cymorth)

A: Byddai Aelodau sydd newydd eu hethol o’r Seithfed Senedd yn cyflogi eu staff yn unol â'r fframwaith cyflogau a graddio newydd o gychwyn y Seithfed Senedd. 

Os ydych yn Aelod ar hyn o bryd ac yn gobeithio cael eich ailethol ym mis Mai 2026, byddai angen i chi adolygu'r rolau a newid telerau cyflogaeth cytundebol unrhyw staff presennol a fyddai’n parhau i gael eu cyflogi yn y Seithfed Senedd i adlewyrchu'r fframwaith cyflogau a graddio newydd arfaethedig. Fel cyflogwr staff, eich cyfrifoldeb chi fyddai ymgymryd â’r newid cytundebol gyda’ch gweithwyr. 

Os na fyddech yn newid y telerau ac amodau cyflogaeth i adlewyrchu’r fframwaith cyflogau a graddio newydd, byddai’ch cyflogeion yn parhau i gael eu cyflogi o dan eu telerau presennol ond ni fyddech yn gymwys i hawlio ad-daliad o gyflogau staff o'r gyllideb staffio sydd ar gael i chi drwy’r Penderfyniad ar Gyflog a Lwfansau Aelodau. Byddai’n rhaid i chi ddod o hyd i ffyrdd eraill o dalu cyflogau eich staff. 

C19. Rwy'n bwriadu sefyll i gael fy ailethol. Pryd fyddai angen i mi gwblhau’r broses o symud staff presennol i raddfeydd a chyflogau y fframwaith newydd?

A: Pe bai’r Bwrdd yn penderfynu cyflwyno’r fframwaith newydd ar gyfer y Seithfed Senedd, byddai angen ichi fod wedi nodi’r teulu swydd, y band cyflog a’r pwynt cyflog priodol ar gyfer yr holl swyddi rydych yn bwriadu parhau i’w cyflogi yn y Seithfed Senedd, cyn yr etholiad. Bydd angen i chi hefyd fod wedi ymgynghori â staff a newid eu telerau cytundebol erbyn diwrnod cyntaf y Seithfed Senedd (h.y. y diwrnod cyntaf ar ôl diwrnod pleidleisio ar gyfer yr etholiad).  

 

Rhagwelir y byddai’r Aelodau sy’n ceisio cael eu hailethol yn dymuno dechrau'r broses raddio swyddi hon erbyn hydref 2025 fan bellaf i sicrhau bod y broses yn dod i ben cyn diwrnod cyntaf y Seithfed Senedd.  

C20. Rwy’n bwriadu sefyll i lawr yn yr etholiad nesaf yn 2026. Oes rhaid i mi fynd drwy'r broses hon o raddio rolau swyddi?

A: Nac oes, ni fyddai angen i chi wneud y gwaith hwn. 

C21. Pa gymorth fyddai ar gael i mi, fel cyflogwr staff cymorth, er mwyn symud staff i'r fframwaith cyflogau a graddio newydd?

A: Mae Beamans wedi llunio canllaw categoreiddio sy'n amlinellu nodweddion a chyfrifoldebau rolau ym mhob teulu swyddi ac ar bob band cyflog. Gofynnir am farn ar y canllaw categoreiddio drafft fel rhan o ymgynghoriad Rhan Dau. Os bydd y Bwrdd yn penderfynu cyflwyno'r fframwaith a'r canllaw newydd arfaethedig yn dilyn ymgynghoriad, bydd Penderfyniad y Bwrdd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau ddilyn y canllaw wrth raddio rolau swyddi.  

Yn ogystal, byddai disgrifiadau swydd templed ar gael i helpu i nodi'r rolau swydd sydd eu hangen i gefnogi eich gwaith a band cyflog priodol pob swydd Byddai’r canllaw categoreiddio a'r disgrifiadau swydd yn cael eu hategu gan ddogfen ganllaw gam wrth gam sy'n cael ei baratoi ar hyn o bryd ar y broses i'w dilyn er mwyn graddio rolau swydd.  

Byddai Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau Comisiwn y Senedd yn darparu cyngor ac arweiniad Adnoddau Dynol cyffredinol i chi i gefnogi'r broses o symud i’r fframwaith newydd arfaethedig. 

Lle bo angen, byddai cyllid ychwanegol i helpu i dalu costau unrhyw gymorth allanol arbenigol sydd ei angen arnoch ar gael drwy Benderfyniad y Bwrdd, os bydd y Bwrdd yn penderfynu cyflwyno’r fframwaith newydd.  

Graddio rolau swyddi 

C22. Mae rhai o'r rolau swyddi rwy'n eu cyflogi yn rolau hybrid nad ydynt yn dod o dan unrhyw un o'r pedwar teulu swyddi sydd wedi’u nodi yn y fframwaith newydd. Sut byddwn i’n gallu graddio eu rolau swydd?
  1. Mae'r Bwrdd yn cydnabod na fyddai rhai swyddi yn ffitio'n daclus i un Teulu Swyddi penodol ac efallai y bydd rolau ‘hybrid’ sy'n ymgymryd â gweithgareddau neu gyfrifoldebau o ddau deulu neu fwy. Cafodd hyn ei nodi mewn adborth gan Aelodau yn ystod y broses o brofi'r fframwaith drafft gan Beamans. Mae'r adborth hwn wedi llywio’r gwaith o ddatblygu’r canllawiau i Aelodau. 

Bydd canllawiau ar sut i raddio rolau swydd hybrid yn cael eu nodi yn y canllaw categoreiddio a'r canllawiau cam wrth gam ar y broses raddio swyddi. Dylid graddio rolau o'r fath ar sail prif ffocws neu ffocws sylweddol y rôl a'r teulu swyddi priodol ar gyfer y math hwnnw o waith.   

C23. A allaf i ddirprwyo'r gwaith o raddio swyddi i aelod o staff?

A: Chi, fel cyflogwr, sy’n gyfrifol am y penderfyniad ar raddio rolau swyddi. Byddai angen adolygu'r holl rolau swydd a gyflogir yn y Seithfed Senedd, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud gennych chi ar y teulu swyddi priodol, y band cyflog a’r pwynt cyflog ar gyfer pob swydd.  

Byddai Tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau Comisiwn y Senedd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad adnoddau dynol cyffredinol yn ôl yr angen. 

C24. Rwy’n Arweinydd Grŵp. Rwy’n cyflogi staff grŵp yn ogystal â fy staff fy hun. A fyddai’n rhaid i mi raddio'r holl swyddi presennol rwy’n eu cyflogi?

A: Byddai, fel Arweinydd Grŵp, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl swyddi a gyflogir gennych yn cael eu graddio yn unol â'r fframwaith newydd cyn dechrau'r Seithfed Senedd.  

Cyllideb staffio yr Aelodau 

C25. Sut byddai’r newid i gyflogau staff cymorth yn effeithio ar fy nghyllideb staffio yn y Seithfed Senedd?

A. Mae’r Bwrdd wedi ystyried effaith y newidiadau yn uchafswm pwyntiau cyflog y Band ac wedi adlewyrchu hyn yn ei gynigion ar gyfer y gyllideb staffio ar gyfer y Seithfed Senedd (gweler y ddogfen ymgynghori am ragor o wybodaeth). 

 

Ar gyfer staff cymorth 

C26. Sut byddai hyn yn effeithio ar fy nghyflog?

A: Bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno’r fframwaith cyflogau a graddio newydd hwn a chyflogau staff cynorthwyol ar gyfer y Seithfed Senedd yn yr haf.   

Bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniad terfynol ar gyflwyno’r fframwaith cyflogau a graddio newydd hwn a chyflogau staff cynorthwyol ar gyfer y Seithfed Senedd yn yr haf.  

Os bydd y fframwaith yn cael ei weithredu, byddai’r Aelod sy'n eich cyflogi yn adolygu eich rôl swydd yn unol â'r fframwaith newydd cyn y Seithfed Senedd i nodi'r teulu swyddi, y band cyflog a'r pwynt cyflog priodol ar gyfer eich swydd. Byddech yn cael eich cynnwys, a dylai’r Aelod sy'n eich cyflogi yn ymgynghori'n ffurfiol â chi fel rhan o'r broses. Rhoddir arweiniad a chyngor llawn i'r Aelodau yn dilyn penderfyniad y Bwrdd yn yr haf.  

Byddai gofyn i’r Aelod sy’n eich cyflogi newid eich telerau cyflogaeth i adlewyrchu'r disgrifiad swydd newydd ac unrhyw newidiadau i'r band cyflog a'r cyflog ar gyfer eich rôl, a gwneud hynny cyn dechrau'r Seithfed Senedd er mwyn gallu parhau i dalu'ch cyflog o'u cyllideb staffio.   

Byddai’ch cyflog yn y Seithfed Senedd yn dibynnu ar benderfyniad yr Aelod sy'n cyflogi ar y band cyflog a’r pwynt cyflog priodol ar gyfer eich swydd.  

Os ydych wedi’ch cyflogi ar yr uchafswm cyflog Band 3 ar ddiwedd y Chweched Senedd ac yn parhau i gael eich cyflogi ar Fand 3 yn y Seithfed Senedd, byddech yn cael cynnig diogelwch cyflog gan fod uchafswm cyflog y Band hwnnw yn cael ei leihau yn y fframwaith cyflogau a graddio newydd arfaethedig. Byddai diogelwch cyflog yn cael ei gynnig am uchafswm o ddwy flynedd.   

Byddai diogelwch cyflog yn golygu y byddai eich cyflog yn cael ei ddiogelu ar lefel 2025-26 sy’n golygu y byddech yn parhau i dderbyn y cyflog a dalwyd yn 2025-26 (blwyddyn olaf y Chweched Senedd) am y cyfnod byrraf o ddau gyfnod posibl – dwy flynedd neu’r dyddiad y mae’r cyflog newydd ar gyfer eu swydd yn fwy na’r cyflog a dalwyd yn 2025-26 (o ganlyniad i gynnydd blynyddol mewn costau byw yn unol â’r Arolwg Blynyddol o Enillion Aelwydydd). Ar y cynharaf o’r ddau ddyddiad hynny, byddai eich cyflog ar gyfer 2025-26 yn newid i’r cyflog newydd a osodwyd yn unol â’r fframwaith cyflogau a graddio newydd.   

C27. Mae fy rôl yn un hybrid ac nid yw’n dod o dan unrhyw un o'r pedwar teulu swyddi sydd wedi’u nodi yn y fframwaith newydd. Sut byddai fy swydd yn cael ei graddio?
  1. Mae'r Bwrdd yn cydnabod na fydd rolau swyddi rhai staff cymorth yn ffitio'n daclus i unrhyw un o'r Teuluoedd Swyddi unigol a nodir yn y fframwaith cyflog a graddio newydd. Mae rhai staff yn gwneud swyddi ‘hybrid’ sy'n cynnwys gweithgareddau neu gyfrifoldebau sy'n perthyn i ddau neu fwy o Deuluoedd Swyddi.

Byddai canllawiau ar sut i raddio swyddi hybrid yn cael eu nodi yn y canllawiau ar y broses ar gyfer graddio rolau swyddi a fyddai ar gael i Aelodau. Dylid graddio rolau o'r fath ar sail prif ffocws neu ffocws sylweddol y rôl a'r teulu swyddi priodol ar gyfer y prif fath o waith.   

C28. A fyddai hyn yn effeithio arnaf i os yw fy Aelod sy’n fy nghyflogi yn sefyll i lawr?
  1. Na fyddai, ni fyddai angen i unrhyw Aelodau sy'n camu i lawr yn yr etholiad nesaf wneud y gwaith hwn gan fydd eich rôl yn cael ei dileu yn yr etholiad. Os cewch eich recriwtio i rôl gydag Aelod newydd sy’n eich cyflogi yn dilyn yr etholiad, byddech yn cael eich penodi ar y fframwaith cyflog a graddio newydd.