Rhaglen Waith Strategol
Mae ein rhaglen waith strategol, y cytunwyd arni yn 2022, yn pennu ein dull gweithredu ar gyfer gweddill tymor y Senedd. Bydd y rhaglen yn llywio'r adolygiadau blynyddol o'r Penderfyniad yn ogystal â llunio Penderfyniad newydd ar gyfer y Seithfed Senedd, yng nghyd-destun y cynigion Diwygio’r Senedd.
Mae’r rhaglen waith strategol yn cynnwys pum adolygiad thematig, a phob un yn cael ei gydlynu gan aelod arweiniol o’r Bwrdd:
- Ffyrdd o Weithio – Syr David Hanson
- Symleiddio – Hugh Widdis
- Cymorth staffio – Mike Redhouse
- Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol – Jane Roberts
- Taliadau a chymorth personol i’r Aelodau – Elizabeth Haywood
Ffyrdd o weithio
Mae'r adolygiad hwn, sy'n cael ei arwain ar ran y Bwrdd gan Syr David Hanson, yn canolbwyntio ar y modd y dylid addasu lwfansau’r Aelodau i gynnwys newidiadau yn y ffordd y mae’r Aelodau’n gweithio, yn enwedig lwfans y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr
Lwfansau i roi cymorth ar gyfer Gweithio Gartref a Gweithio Hybrid
Symleiddio
Mae'r adolygiad hwn, sy'n cael ei arwain ar ran y Bwrdd gan Hugh Widdis, yn canolbwyntio ar symleiddio'r Penderfyniad i ddarparu hyblygrwydd i Aelodau i bennu eu blaenoriaethau eu hunain, gyda mesurau diogelwch cymesur, mewn cydweithrediad â Chomisiwn y Senedd.
Cymorth Staffio
Mae’r adolygiad hwn, a arweinir gan Mike Redhouse ar ran y Bwrdd, yn ystyried gofynion cymorth staffio Aelodau o’r Seithfed Senedd.
Roedd Cam Un o’r adolygiad yn cynnwys gwerthusiad annibynnol o’r fframwaith tâl a graddio presennol ar gyfer Staff Cymorth y Senedd. Yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol, comisiynwyd un o brif ymgyngoriaethau gwerthuso swyddi a hyfforddi’r DU, Beamans, i gasglu tystiolaeth ar y fframwaith tâl a graddio presennol a gwneud argymhellion ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen.
Cynhaliodd Beamans yr adolygiad yn ystod mis Hydref 2023-Mawrth 2024 gan gynnwys ymgysylltu â nifer sylweddol o Aelodau a Staff Cymorth, a chyflwynodd ei adroddiad terfynol ddiwedd mis Mawrth. Mae’r adroddiad ac ymateb y Bwrdd i’r adroddiad i’w gweld isod.
Mae’r Bwrdd wedi ymgynghori â’r Aelodau, Staff Cymorth, undebau llafur a Chomisiwn y Senedd ar y model a ffefrir gan y Bwrdd ar gyfer fframwaith tâl a graddio newydd. Bydd y Bwrdd yn ceisio arbenigedd allanol i helpu i ddylunio a datblygu’r fframwaith tâl a graddio newydd ar gyfer y Seithfed Senedd.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, bydd y Bwrdd hefyd yn dechrau ystyried Lwfans Staffio’r Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd, yn seiliedig ar ofynion cymorth staffio’r Aelodau.
Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad
Taliadau a chymorth personol i’r Aelodau
Cylch Gorchwyl Taliadau a Chymorth Personol i’r Aelodau
Papurau Tystiolaeth yr Adolygiadau Thematig
Mae sylfaen dystiolaeth gadarn yn sail i adolygiadau thematig y Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys ymchwil i edrych yn fanwl ar sut mae deddfwrfeydd eraill ar draws y DU ac yn fyd-eang yn cefnogi Aelodau i gyflawni eu rolau, a dadansoddiad o ddata meintiol ac ansoddol i ddeall sut mae darpariaethau yn y Penderfyniad cyfredol yn gweithio, a sut y gall fod angen ei newid ar gyfer Seithfed Senedd ddiwygiedig.
Isod mae lincs i bapurau tystiolaeth allweddol sydd wedi llywio meddylfryd y Bwrdd.
Ffyrdd o weithio
Cyllid ar gyfer Swyddfeydd a Chyfathrebu: Cymhariaeth Ryngwladol Ionawr 2024
Mae’r papur hwn yn ystyried sut mae deddfwrfeydd ledled y DU ac yn rhyngwladol yn darparu cefnogaeth i seneddwyr ar gyfer swyddfeydd etholaeth a gweithgareddau ymgysylltu ag etholwyr.
Mewn llawer o systemau gwleidyddol ledled y byd, mae gwaith etholaethol yn rhan gydnabyddedig o waith y seneddwr. Mae cefnogaeth ariannol i dalu costau rhedeg swyddfa etholaeth ac i ymgysylltu ag etholwyr yn nodwedd gyffredin yn yr enghreifftiau a ystyriwyd ar gyfer y papur hwn felly. Fodd bynnag, mae cwmpas, graddfa a’r math o gefnogaeth yn amrywio.
Gwariant y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr yn y Chweched Senedd Gorffennaf 2024
Mae’r papur hwn yn rhoi crynodeb o wariant y Gronfa Costau Swyddfa a Chysylltu ag Etholwyr yn ystod y Chweched Senedd. Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar ddata ar wariant yr Aelodau, a ddarparwyd gan y Comisiwn, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi’n rheolaidd ar wefan y Senedd. Mae data wedi’u darparu ar gyfer tair blynedd ariannol lawn y Chweched Senedd sef, 2021-22, 2022-23 a 2023-24.
Adolygiad o’r Lwfans Cymorth ar gyfer Pleidiau Gwleidyddol (PPSA)
Cefnogaeth ar gyfer Pleidiau Seneddol: Cymariaethau o ran y DU ac yn Rhyngwladol Hydref 2023
Roedd y papur hwn yn ystyried gwahanol ddulliau o gefnogi Aelodau, gan ddefnyddio tystiolaeth o bob rhan o’r DU ac yn rhyngwladol. Mae grwpiau pleidiau seneddol yn bodoli mewn nifer o ddeddfwrfeydd. Fodd bynnag, ymddengys nad oes diffiniad y cytunir arno ynghylch pwrpas y grwpiau hyn, nac i ba raddau y dylent gael eu cefnogi gan y Senedd y maent yn gweithredu ynddi. Mae gwahaniaethau hefyd rhwng y darpariaethau statudol ar gyfer ariannu grwpiau, pleidiau gwleidyddol neu i ddatblygu polisi.
Felly, er nad oes modd i’r gymhariaeth hon fynegi barn gyffredin, mae’n rhoi syniad o’r materion allweddol y dylai adolygiad o’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol eu hystyried, ynghyd â’r pwyntiau allweddol o gydgyfeiriad neu wahaniaeth rhwng seneddau.
Adolygiad o Gyflogau’r Aelodau a chymorth personol: Gwariant ar Lety Preswyl a Theithio
Cefnogaeth Llety a Theithio i seneddwyr Rhagfyr 2023
Mae’r papur hwn yn ystyried sut mae deddfwrfeydd ledled y DU ac yn rhyngwladol yn darparu llety a chymorth teithio i Aelodau. Mae rôl seneddwr yn unigryw gan ei bod yn ofynnol yn aml i aelodau dreulio rhan o'u hwythnos i ffwrdd o'u prif gartref. O’r herwydd, mae llawer o ddeddfwrfeydd yn gwneud darpariaeth i Aelodau hawlio costau llety sy’n agos at y senedd ei hun. Mae costau teithio ar gyfer Aelodau hefyd yn cael eu talu’n gyffredin, ar gyfer teithiau i’r Senedd ac o fewn etholaethau.
Mae'r papur hwn yn rhoi cipolwg ar sut mae'r darpariaethau hyn yn cael eu cynllunio a'u gweithredu. Mae cymharu gwerth ariannol cymorth o'r fath yn uniongyrchol yn heriol, gan y bydd pob senedd yn gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â'r cyd-destun economaidd y maent yn gweithredu ynddo. Gall y gymhariaeth hon, fodd bynnag, fod o gymorth i drafodaethau am y math o gymorth y gallai fod ei angen ar Aelodau o’r Senedd yn y Seithfed Senedd a’r egwyddorion y gellid eu defnyddio i gynllunio ac adolygu cymorth o’r fath.