Cwestiynau cyffredin – cymorth ariannol i Staff Cymorth y Senedd

Cyhoeddwyd 12/12/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/12/2023   |   Amser darllen munudau

Rhagfyr 2023


Yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd, cytunodd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ar becyn o fesurau cymorth ariannol ar gyfer Staff Cymorth y Senedd i helpu i fynd i’r afael â chostau byw uchel, yn awr ac yn y dyfodol. Mae gwybodaeth isod am y mesurau y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd, gan gynnwys gwybodaeth fanwl i Staff Cymorth ar sut y bydd y mesurau hyn yn cael eu cyflwyno.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â remuneration@senedd.cymru.

Cymorth gyda chostau byw

Cytunodd y Bwrdd i roi taliad o £600 i Staff Cymorth ym mis Ionawr 2024 – pro rata, yn unol ag oriau gwaith contract – i helpu i dalu costau byw uwch. Mae hyn yn cynrychioli taliad untro o 2.7% i Staff Cymorth ar Fand 3, Pwynt Tâl 1 – yn ogystal â dau daliad pro rata blaenorol o £600 i Staff Cymorth ym mis Ionawr a mis Ebrill 2023 – gyda’r ail o’r taliadau hynny wedi’i gydgrynhoi i gyflogau Staff Cymorth o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Bydd y taliad, sydd i’w wneud ym mis Ionawr 2024, yn cael ei gynnwys yn y gyflogres, yn cael ei dalu ar ddiwrnod gwaith olaf y mis (neu wedi’i wasgaru ar draws taliad mis Ionawr, Chwefror a/neu Fawrth os gofynnir amdano), ac ni fydd yn cael ei gydgrynhoi i gyflogau. Os yw aelod o Staff Cymorth yn dymuno gwasgaru’r taliad, dylai anfon e-bost at MBS-HR@senedd.cymru heb fod yn hwyrach na 17:00 ar 12 Ionawr 2024.

Mae penderfyniad y Bwrdd i ddarparu’r taliad hwn o £600 ym mis Ionawr 2024 yn adlewyrchu’r pwysau ariannol sylweddol a wynebir gan Staff Cymorth oherwydd costau byw uchel.

Codiadau Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer 2023-24

Mae'r Bwrdd wedi ymrwymo i sicrhau y dylai'r holl staff gael o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol. Am y tro cyntaf – yn dilyn yr adolygiad blynyddol diweddar – mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi bod yn uwch na Band 3, Pwynt Tâl 1 ar gyfer staff cymorth.

Yn sgil hynny, cytunodd y Bwrdd i gymryd y camau a ganlyn:

Darparu ar gyfer codiad dros dro ym Mand 3, Pwynt Tâl 1 i lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Rhagfyr 2023 i 31 Mawrth 2024. Mae hyn yn codi Band 3, Pwynt Tâl 1 i £23,088. Bydd y newid hwn yn cael ei adlewyrchu yn nhaliadau cyflog mis Rhagfyr i'r rheini yr effeithir arnynt.

  • Darparu ar gyfer taliad untro i Staff Cymorth wnaeth gael cyflog Band 3, Pwynt Tâl 1 ym mis Tachwedd 2023, wedi’i gyfrifo’n unigol ar gyfer pob aelod o staff, sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng y cyflog a gafwyd ar gyfer Tachwedd 2023, a’r cyflog a fyddai wedi dod i law pe bai’r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi’i gymhwyso o 1 Tachwedd 2023 ymlaen. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn nhaliadau cyflog mis Rhagfyr. Effaith hyn yw y bydd taliadau staff yn cyfateb i’r Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Tachwedd ymlaen.
  • Byddai hwn yn drefniant dros dro tan 1 Ebrill 2024, pan fyddai Band 3, Pwynt Tâl 1 yn symud i’r lefelau cyflog newydd arfaethedig ar gyfer 2024-25 (ble bydd yr holl bwyntiau cyflog uwchlaw’r Cyflog Byw gwirioneddol, yn ddibynnol ar ymgynghori).
  • Ymgynghori ar newid i'r Penderfyniad ar gyfer 2024-25 i sicrhau pe bai adolygiad blynyddol o’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn y dyfodol yn gweld y Cyflog byw Gwirioneddol yn cynyddu uwchlaw'r pwynt tâl isaf, y byddai'r pwynt tâl yn addasu'n awtomatig i'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Diben y penderfyniadau hyn yw galluogi’r Aelodau i dalu’r holl staff ar lefel sydd o leiaf yn unol â’r Cyflog Byw Gwirioneddol, heb achub y blaen ar unrhyw newidiadau ehangach i’r strwythur cyflogau a graddau y gellid eu hargymell unwaith y bydd yr adolygiad o Gyflogau Staff yr Aelodau a Graddio wedi dod i ben.

Codiadau cyflog ar gyfer 2024-25

Cytunodd y Bwrdd i ddileu’r cap cyflog o 3% a chynyddu cyflogau’r holl Staff Cymorth 5.7 y cant ar gyfer 2024-25, yn unol â’r cynnydd cyflog cyfartalog yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf (yn seiliedig ar yr arolwg blynyddol canolrif o enillion – neu ASHE – data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2023). Gan gynnwys y cyfuniad a gytunwyd yn flaenorol o £600 costau byw mewn pwyntiau tâl o 1 Ebrill ymlaen, byddai hyn yn gynnydd cyflog o rhwng 6.9%-8.6% yn dibynnu ar bwyntiau cyflog.

Mae'r penderfyniad hwn yn amodol ar ymgynghori ag Aelodau, Staff Cymorth a rhanddeiliaid eraill fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar y Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau ar gyfer 2024-25. Bydd penderfyniad terfynol ar y cynnydd i gyflogau Staff Cymorth yn cael ei wneud gan y Bwrdd ym mis Chwefror 2024, yng ngoleuni’r ymatebion i’r ymgynghoriad, ac yn cael ei adlewyrchu yn y Penderfyniad ar gyfer 2024-25 sydd i’w gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

Cwestiynau Cyffredin ar daliad costau byw

Pam bod Staff Cymorth yn cael y taliad ychwanegol hwn?

  • Dros y blynyddoedd diwethaf, mae costau byw wedi cynyddu'n aruthrol o ganlyniad i chwyddiant uchel a ffactorau eraill, er enghraifft costau ynni, costau bwyd a chostau teithio. Mae'r Bwrdd, fel arfer, yn cynyddu cyflogau Staff Cymorth unwaith y flwyddyn yn unig. Bwriad taliad cyfradd unffurf yw helpu Staff Cymorth i dalu costau byw uchel yn y tymor byr, ac yn ystod misoedd y gaeaf, hyd nes y daw codiadau cyflog i rym ar 1 Ebrill 2024.
  • Mae'r Bwrdd o’r farn mai’r taliad hwn yw’r cydbwysedd cywir rhwng galluogi Staff Cymorth i dalu costau byw cynyddol a hefyd bodloni rhwymedigaethau gwerth am arian y Bwrdd.

A fydd yr holl Staff Cymorth yn cael y taliad?

  • Bydd pob aelod o staff cymorth sydd mewn cyflogaeth ar 30 Tachwedd 2023 yn cael y taliad, gan gynnwys y rheini sy'n gadael eu swydd rhwng y dyddiad hwn a'r dyddiad pan wneir y taliad (diwedd Ionawr). Ni fydd Staff Cymorth sy'n dechrau eu cyflogaeth ar ôl 30 Tachwedd yn cael y taliad hwn.
  • Dim ond un taliad fydd y Staff Cymorth hynny sy'n gweithio i fwy nag un Aelod o'r Senedd yn ei gael. Bydd y taliad yn adlewyrchu cyfanswm oriau contract Staff Cymorth rhwng swyddi gwahanol, i'r rhai sydd â mwy nag un swydd.

A fydd yr holl staff cymorth yn cael yr un faint?

  • Na. Bydd y taliad yn cael ei roi ar sail pro rata yn ôl oriau gwaith dan gontract pob aelod unigol o Staff Cymorth. Mae hyn yn golygu y bydd staff amser llawn yn cael y £600 cyfan tra bydd staff rhan-amser yn cael cyfran o’r swm hwn sy’n gymesur â’u horiau gwaith contract (ar 30 Tachwedd 2023).

A fydd y taliad hwn yn cael ei ychwanegu at gyflogau’r staff cymorth ar ôl y flwyddyn ariannol hon?

  • Na – taliad untro fydd hwn, a fydd yn cael ei wneud ym mis Ionawr 2024, ac ni fydd yn cael ei ychwanegu at gyflogau’r staff cymorth mewn blynyddoedd ariannol yn y dyfodol.
  • Bydd taliad blaenorol o £600 a ddarparwyd i Staff Cymorth ar 1 Ebrill 2023 yn cael ei gyfuno â chyflogau Staff Cymorth o 1 Ebrill 2024 ymlaen, sy’n golygu y bydd pwyntiau cyflog yr holl Staff Cymorth yn cynyddu £600 yn ychwanegol ar 1 Ebrill 2024.

A fydd didyniadau’n cael eu gwneud i’r taliad?

  • Bydd – fe fydd didyniadau sy’n cael eu gwneud i gyflogau staff cymorth fel arfer (megis cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Threth Incwm) hefyd yn gymwys i’r taliad cyfradd safonol hwn. Ni fydd y taliad yn destun cyfraniadau pensiwn.

A fyddaf yn cael y taliad mewn un cyfandaliad neu a allaf gael fy nhalu mewn rhandaliadau?

  • Gallwch ddewis gwasgaru’r taliadau, os ydych chi eisiau. Bydd y taliad yn cael ei wneud yn awtomatig mewn un rhandaliad ar 31 Ionawr 2024, drwy’r gyflogres, oni bai eich bod yn anfon e-bost at MBS-HR@senedd.cymru erbyn 17:00 ar 12 Ionawr yn dweud eich bod eisiau gwrthod y taliad, ei ohirio neu wasgaru’r taliad mewn rhandaliadau dros sawl mis, rhwng misoedd Ionawr, Chwefror neu Fawrth.

Pryd fydd y taliad yn cael ei wneud?

  • Ar 31 Ionawr 2024, drwy’r gyflogres. Gall y taliad gael ei wrthod, ei ohirio neu ei dalu mewn rhandaliadau ar draws sawl mis, rhwng misoedd Ionawr, Chwefror neu Fawrth, os byddwch chi wedi e-bostio MBS-HR@senedd.cymru erbyn 17:00 ar 12 Ionawr 2024.

Os yw Staff Cymorth ar absenoldeb mamolaeth/rhieni/mabwysiadu/salwch, a fydd hyn yn effeithio ar eu taliad?

  • Bydd yr holl staff cymorth sy’n gyflogedig ar 30 Tachwedd 2022 yn cael y taliad.
  • Mae unrhyw aelod o Staff Cymorth sydd ar hyn o bryd ar unrhyw fath o absenoldeb mamolaeth/rhannu absenoldeb rhieni/mabwysiadu yn cael ei drin at ddibenion y taliad fel un sydd wedi bod mewn gwaith ar 30 Tachwedd 2023, a bydd eu horiau contract yn cael eu hadlewyrchu yn eu taliad
  • Yn yr un modd, bydd unrhyw aelod o Staff Cymorth a oedd yn absennol ar 30 Tachwedd 2023 oherwydd salwch yn cael eu horiau contract wedi'u hadlewyrchu yn y taliad.

A fydd y taliad yn effeithio ar gymhwysedd i gael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau eraill?

  • Mae’n bosibl y gallai’r taliad effeithio ar gymhwysedd ar gyfer budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm a throthwyon ar gyfer ad-daliadau benthyciad (e.e. Benthyciadau Myfyrwyr). Mae'n debygol y bydd y rhan fwyaf o unigolion yn well eu byd o dderbyn y taliad hwn yn gyffredinol ond mae'n bwysig bod Staff Cymorth yn sicrhau eu bod yn deall eu hamgylchiadau ariannol personol eu hunain i sicrhau na fyddant o dan anfantais drwy gael y taliad ychwanegol hwn. Cyfrifoldeb yr unigolyn yw ceisio cyngor annibynnol ar sut y gall y taliad effeithio ar ei amgylchiadau ariannol personol.
  • Bydd y taliad yn cael ei wneud i'r holl Staff Cymorth drwy'r gyflogres. Os bydd unrhyw aelod o staff cymorth yn dymuno gwrthod y taliad, neu ofyn iddo gael ei dalu mewn rhandaliadau yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol yn hytrach nag un taliad sengl, bydd angen anfon e-bost at MBS-HR@senedd.cymru erbyn 17:00 ar 12 Ionawr 2024. Bydd angen i unrhyw hysbysiad eich bod am wrthod y taliad neu ei gael mewn rhandaliadau fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddod i law erbyn 12 Ionawr 2024.

Pa gymorth arall sydd ar gael?

  • Mae Comisiwn y Senedd wedi rhoi mesurau eraill ar waith fel mynediad at gyngor ariannol annibynnol a gweithdai llesiant ariannol, yn ogystal â chysylltiadau â sefydliadau eraill a all ddarparu cymorth ac arweiniad.
  • Mae rhagor o fanylion ar gael ar fewnrwyd yr Aelodau.

Cwestiynau cyffredin ynghylch codiadau Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer 2023-24

Beth yw'r Cyflog Byw Gwirioneddol?

  • Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn seiliedig ar gostau byw ac yn cael ei dalu’n wirfoddol gan dros 14,000 o gyflogwyr yn y DU. Mae'n cael ei gyfrifo'n annibynnol gan y Resolution Foundation a'i gyhoeddi'n flynyddol gan y Living Wage Foundation. Ar 24 Hydref 2023, cyhoeddwyd mai’r gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol newydd ar gyfer 2023-24 oedd £12 yr awr. Mae gan gyflogwyr achrededig hyd at 6 mis i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i gysoni graddfeydd cyflog â'r gyfradd newydd.
  • Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn wahanol i’r Cyflog Byw Cenedlaethol, a bennir gan Lywodraeth y DU, ac sy’n isafswm cyflog sy’n ofynnol yn gyfreithiol. Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd Canghellor y DU y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu i £11.44 yr awr o fis Ebrill 2024.

Pam fod y Bwrdd yn gweithredu mewn perthynas â'r Cyflog Byw Gwirioneddol?

  • Mae'r Bwrdd o'r farn y dylai'r fframwaith cyflog a graddfeydd staff a nodir yn y Penderfyniad alluogi Aelodau i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'r holl Staff Cymorth. Yn seiliedig ar y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol ddiweddaraf – sef £12 yr awr – mae Band 3, Pwynt Tâl 1 yn disgyn yn is na chyfradd y Cyflog Byw Gwirioneddol am y tro cyntaf.
  • Yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cyfateb i gyflog blynyddol o £23,088. Ym Mhenderfyniad 2023-24, Band 3, Pwynt Tâl 1 yw £21,862.

Pam mae Band 3, Pwynt Tâl 1 yn cael ei godi dros dro?

  • Mae'r Bwrdd wedi penderfynu cymhwyso codiad dros dro i Fand 3, Pwynt Tâl 1, er mwyn sicrhau bod y cyflog hwn yn unol â'r gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol sydd newydd ei chyhoeddi. Bydd hynny'n sicrhau bod yr holl Staff Cymorth yn cael eu talu ar o leiaf y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol, ac yn galluogi Aelodau i hysbysebu graddfeydd cyflog sy’n unol â’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • Yn amodol ar ymgynghoriad, mae’r Bwrdd wedi cynnig, o 1 Ebrill 2024 ymlaen, y dylid codi pwyntiau cyflog Staff Cymorth yn unol â ffigurau’r arolwg blynyddol o oriau ac enillion (neu ASHE) ar gyfer Cymru, a fydd yn golygu cynnydd o 5.7%. Mae hyn ar ben taliad costau byw cyfunol o £600, sydd i ddod i rym ar 1 Ebrill 2024.
  • Byddai’r cam gweithredu hwn yn dwyn yr holl bwyntiau cyflog uwchlaw’r gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Band 3, Pwynt Tâl 1 fydd £23,742.

Pam mai dim ond Band 3, Pwynt Tâl 1 sy'n cael ei godi?

  • Bydd y codiad dros dro hwn i gyflog Band 3, Pwynt Tâl 1 yn sicrhau bod yr holl Staff Cymorth yn cael eu talu ar o leiaf y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol. Band 3, Pwynt Tâl 1 yw’r unig bwynt tâl sy’n disgyn islaw’r gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol a gyhoeddwyd ar 24 Hydref 2023.

Onid yw hyn yn debygol o ddigwydd eto y flwyddyn nesaf ar gyfer y pwynt tâl isaf?

  • Bydd y Bwrdd yn ymgynghori ar newidiadau i’r Penderfyniad ar gyfer 2024-25 i sicrhau pe bai adolygiad blynyddol o’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn y dyfodol yn gweld y Cyflog Byw Gwirioneddol yn cynyddu uwchlaw'r pwynt tâl isaf, y byddai'r pwynt tâl yn addasu'n awtomatig i'r Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • At hynny, mae adolygiad cynhwysfawr o strwythur tâl a graddio Staff Cymorth eisoes ar y gweill, gyda cham un yn cael ei arwain gan Beamans, sy’n arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd y Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad hwn ac yn llywio unrhyw argymhellion ar gyfer strwythur tâl a graddfeydd diwygiedig, a sut mae mynegeio blynyddol yn gweithredu.

Pa effaith y mae’r cam gweithredu hwn yn ei chael ar y gwahaniaethau rhwng y cyflogau pwyntiau tâl ym Mand 3?

  • Mae newid Band 3, Pwynt Tâl 1 yn effeithio ar y gwahaniaeth cyflog rhwng Pwyntiau Tâl 1 a 2. Rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Mawrth 2024 (yn gynwysedig), mae’r gwahaniaeth rhwng Band 3, Pwyntiau Tâl 1 a 2 yn gostwng o £1693 i £467.
  • O 1 Ebrill 2024 ymlaen, bydd y gwahaniaeth cyflog presennol rhwng Band 3, Pwyntiau Tâl 1 a 2 yn cael ei ailsefydlu gan fod codiadau cyflog ar gyfer 2024-25 yn seiliedig ar y graddfeydd cyflog a nodir ym Mhenderfyniad 2023-24, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2023. .
  • Mae'r Bwrdd wedi penderfynu mai mesur dros dro yw'r cam gweithredu mwyaf priodol er mwyn peidio ag achub y blaen ar ganlyniad yr adolygiad parhaus o'r strwythur tâl a graddfeydd.

O ba bwynt y telir y Cyflog Byw Gwirioneddol i staff?

  • Gwnaed y penderfyniad i godi Band 3, Pwynt Tâl 1 dros dro am weddill y flwyddyn ariannol yng nghyfarfod y Bwrdd Taliadau ar 30 Tachwedd.
  • Cytunodd y Bwrdd y dylai’r codiad dros dro hwn fod yn berthnasol o ddechrau’r mis calendr llawn cyntaf ar ôl cyhoeddi’r gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol ddiwygiedig, h.y. mis Tachwedd 2023.
  • Cytunodd y Bwrdd, felly, y byddai’r codiad yn berthnasol o ddechrau’r mis calendr agosaf, sef 1 Rhagfyr, a chytunwyd ar swm untro ychwanegol cyfwerth â’r gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw Gwirioneddol a Band 3, Pwynt Tâl 1 yn ystod mis Tachwedd. Bydd hwn yn cael ei dalu yng nghyflog mis Rhagfyr. Effaith hyn yw y bydd tâl staff cymwys yn cyfateb i’r Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Tachwedd ymlaen.