Penodiadau Newydd i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Cyhoeddwyd 02/05/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/05/2025

Penodi Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd 

Mae aelodau newydd wedi'u penodi i eistedd ar Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, y corff sy’n pennu cyflogau Aelodau o’r Senedd yn ogystal â’u costau busnes, gan gynnwys staffio, llety a theithio.

Mae’r Arglwydd Nicholas Bourne a Jennifer Long wedi’u penodi, gan ddechrau o 6 Mai 2025, i lenwi’r swyddi gwag presennol, a bydd Gareth Llewellyn yn dechrau o 21 Medi 2025, pan ddaw ail dymor y Fonesig Jane Roberts i ben.

Mae Dr Elizabeth Haywood wedi’i hailbenodi’n Gadeirydd ac mae Hugh Widdis wedi’i ailbenodi’n aelod o’r Bwrdd a byddant yn dechrau ar eu hail dymor o bum mlynedd ym mis Medi 2020.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

“Dwi wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i benodi Bwrdd newydd gydag ystod mor eang o arbenigedd a phrofiad ym maes taliadau o sectorau gwahanol. Dwi’n falch iawn bod Elizabeth a Hugh wedi cytuno i barhau i eistedd ar y Bwrdd, bydd eu profiad nhw’n sicrhau cysondeb strategol yn ystod cyfnod hanfodol bwysig o drawsnewid i’r Senedd a bydd Jennifer, Nick a Gareth yn ymuno â nhw gyda syniadau a safbwyntiau newydd.

“Bydd hygrededd ac ansawdd aelodau’r Bwrdd yn parhau i helpu i roi sicrwydd bod cyllid cyhoeddus Cymru yn cael ei wario gyda chywirdeb, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder.”

Dywedodd Dr Elizabeth Haywood:

“Mae’n bleser gen i barhau’n Gadeirydd y Bwrdd yn ystod cyfnod o newid sylweddol i’r Senedd a dwi’n edrych ymlaen at weithio gydag aelodau newydd y Bwrdd.

“Hoffwn i hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch a thalu teyrnged i’r Fonesig Jane Roberts a’r diweddar Mike Redhouse, a wnaeth ddau dymor, a’r Arglwydd Hanson o’r Fflint, sydd i gyd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i waith y Bwrdd ac i’r Senedd.”

Mae’r Bwrdd wrthi’n ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r Penderfyniad ar gyfer y Senedd nesaf. Mae’n rhan o ymarfer mawr gan y Bwrdd i adolygu ei Benderfyniad wrth i’r Senedd baratoi i ddod yn senedd â 96 o Aelodau.

Nodiadau i olygyddion

Gall tîm newyddion Comisiwn y Senedd hwyluso ceisiadau am ragor o wybodaeth. Cysylltwch ar 0300 200 7487 neu newyddion@senedd.cymru 

  • Sefydlodd Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 y Bwrdd Taliadau Annibynnol i wneud penderfyniadau ynghylch pob agwedd ar gymorth ariannol ar gyfer Aelodau. Gwneir penodiadau i'r Bwrdd gan Gomisiwn y Senedd, ar y sail a nodir yn y Mesur. Mae’r cadeirydd ac aelodau’r bwrdd yn gwasanaethu am dymor o bum mlynedd a gellir eu penodi am ail dymor. Y Comisiwn sy’n penodi i’r Bwrdd, yn unol â’r darpariaethau yn y Mesur. Rhaid i’r Comisiwn benodi’r unigolion a ddewisir yn unol â’r trefniadau a wnaed gan y Prif Weithredwr a Chlerc.

Mae Dr Elizabeth Haywood, y Cadeirydd, a Hugh Widdis wedi gwasanaethu am un tymor ac fe’u gwahoddwyd i nodi a fyddent yn dymuno cael eu hystyried am dymor arall; cytunodd y ddau, a chadarnhaodd y Comisiwn eu bod wedi’u hailbenodi’n Gadeirydd ac yn aelod yn y drefn honno am ail dymor o bum mlynedd, o fis Medi 2025. Cynhaliodd Clerc y Senedd broses recriwtio gyhoeddus ar gyfer y tair swydd wag a oedd yn weddill. 

  • Mae’r Bwrdd wrthi’n ceisio barn am newidiadau arfaethedig i’r darpariaethau a’r cymorth a fydd ar gael i’r Aelodau yn y Senedd nesaf, ar ôl yr etholiad ym mis Mai 2026. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar sut y caiff cyflogau’r Aelodau a’u staff eu pennu ar ddechrau’r Senedd nesaf, ynghyd â chymorth ychwanegol i leihau rhwystrau i Aelodau sy’n anabl neu sydd â chyfrifoldebau gofalu. Bydd y Bwrdd yn cyhoeddi ei benderfyniad terfynol ar ôl cwblhau’r ddau ymgynghoriad yn haf 2025. Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Bwrdd Taliadau.