Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft

Cyhoeddwyd 05/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Dim cynnydd yng nghyflogau Aelodau’r Senedd a mynd i’r afael â’r rhwystrau i sefyll etholiad 

– Ymgynghoriad ar Benderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyfer 2021-2026 

Mae’r Bwrdd Taliadau wedi cyhoeddi ei ymgynghoriad sy’n cynnig peidio â chynyddu cyflog Aelodau ar gyfer Senedd 2021-2026 asy’n cynnig cael gwared ar rwystrau a allai atal pobl rhag sefyll i ddod yn Aelodau o’r Senedd.  

Heddiw (ddydd Mercher 5 Chwefror 2020) mae’r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi lansio ymgynghoriad ar ei Benderfyniad drafft sy’n nodi’r tâl a’r lwfansau sydd ar gael i Aelodau ar ôl etholiad cyffredinol nesaf Cymru ym mis Mai 2021.  

Mae penderfyniad y Bwrdd ar gyflogau Aelodau ar gyfer y Chweched Senedd yn seiliedig ar bwysigrwydd a chymhlethdod rolau’r Aelodau a maint eu cyfrifoldebau.  

Mae’r Bwrdd yn cydnabod bod datblygiadau cyfansoddiadol ar droed a allai effeithio ar rolau a chyfrifoldebau Aelodau ac sy’n gofyn am ystyriaeth bellach o’r tâl a’r cymorth sydd ar gael iddynt. Mae’r rhain yn cynnwys sut mae pwerau’n cael eu dychwelyd i Gymru a’r DU ar ôl Brexit ynghyd ag unrhyw argymhellion yn y dyfodol ar newid nifer yr Aelodau a wneir gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol Cynulliad sydd newydd ei sefydlu.  

Dywedodd y Fonesig Dawn Primarolo, Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 

“Mae’n debygol y bydd y datblygiadau cyfansoddiadol presennol yn effeithio ar y Senedd maes o law. Fodd bynnag, nid yw eu heffaith ar rolau a chyfrifoldebau’r Aelodau yn glir ar hyn o bryd. Felly, mae’r Bwrdd wedi penderfynu y dylid parhau â’r trefniadau cyflog presennol ar gyfer y Chweched Senedd.”

Nod rhai o’r newidiadau i’r Penderfyniad a gynigiwyd gan y Bwrdd yw sicrhau nad yw’r cymorth a’r tâl a gynigir i Aelodau yn atal pobl rhag sefyll i’w hethol i’r Senedd. Mae’r cynigion yn cynnwys:  

  • Lwfans i’r Aelodau i helpu i dalu costau mewn perthynas ag anabledd neu anableddau. Mae hwn yn ehangu’r ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes. 
  • Adnoddau ychwanegol i helpu gyda llwyth gwaith Aelod yn ystod cyfnod o absenoldeb rhiant.  
  • Cyfraniad tuag at gostau gofal i blant a/neu ddibynyddion pan fydd yn ofynnol i Aelodau weithio y tu hwnt i oriau gwaith arferol. Byddai ad-dalu costau o’r fath yn ddarostyngedig i derfyn misol penodol, a dim ond yn daladwy drwy ddangos derbynebau gan ddarparwyr gofal sy’n cael eu rheoleiddio. 

Mae’r cynigion wedi cael eu llywio gan ymchwil a gomisiynwyd gan y Bwrdd i’r rhwystrau a’r cymhellion i sefyll etholiad i’r Senedd. 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd: 

“Mae Penderfyniad drafft y Bwrdd Taliadau ar gyfer y Chweched Senedd yn nodi cynigion newydd sydd â’r nod penodol o gael gwared ar rwystrau i aelodaeth o’r Senedd er mwyn helpu i gynyddu amrywiaeth o fewn yr aelodaeth.  

“Yn ogystal â chael gwared ar rwystrau, gallai cymorth o’r fath hefyd wella’r gynrychiolaeth yn aelodaeth y Senedd o ran y grwpiau penodol hynny y bydd cymorth o’r fath ar gael iddynt, er enghraifft, pobl ag anableddau a gofalwyr.    

“Nod y Bwrdd yw cyfrannu at sicrhau amrywiaeth o fewn aelodaeth y Senedd a fydd yn ei dro yn sicrhau gwell cynrychiolaeth i bobl Cymru. 

“Er ein bod yn teimlo’n hyderus y bydd ein cynigion yn cyfrannu at y nod hwn, byddem yn croesawu awgrymiadau, o fewn ein cylch gwaith, ar sut y gallai ein cynigion gael eu cryfhau neu ba fesurau eraill y gellid eu cymryd i chwalu’r rhwystrau rhag sefyll etholiad.”   

Mae’r Bwrdd yn awyddus i glywed barn yr Aelodau a’u staff cymorth, darpar ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn 2021, y cyhoedd a sefydliadau eraill ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y Senedd nesaf. Bydd y Bwrdd yn adolygu’r Penderfyniad drafft yng ngoleuni’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad, gyda’r nod o gyhoeddi Penderfyniad terfynol ym mis Mai eleni, flwyddyn cyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.  

Mae manylion llawn am gynigion y Bwrdd wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori.