Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24
Ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Rydym yn gwasanaethu’r Senedd i hwyluso ei llwyddiant hirdymor fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol a blaengar sy’n gweithredu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn manylu sut rydym wedi datblygu gwaith ar flaenoriaethau Comisiwn y Senedd o dan ein nodau strategol.
Yn ogystal ag amlinellu ein perfformiad a'n cyflawniadau, mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'n gweithgareddau dros y flwyddyn. Mae'n disgrifio sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut y mae adnoddau’n cael eu defnyddio. Mae ein cyfrifon yn rhan sylweddol o’r adroddiad, ac maent wedi’u llunio yn unol â chanllawiau Trysorlys EM a’u hardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

![]()
Mae newid wedi bod yn nodwedd o'r flwyddyn ddiwethaf mewn ystyr wleidyddol a seneddol.
—
Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
Y Llywydd, Senedd Cymru

![]()
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o newid mawr, o arloesi, ac yn flwyddyn lle rydym wedi gweld y Senedd yn dod yn fwy a mwy o ganolbwynt i fywyd cyhoeddus Cymru.
—
Manon Antoniazzi
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Mesur cynnydd
Dadansoddi perfformiad
Rydym yn ymdrechu i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf, sicrhau bod dinasyddion wrth wraidd popeth a wnawn a defnyddio adnoddau'n gynaliadwy.
Edrychwch ar y cynnydd rydym wedi'i wneud eleni tuag at ein nodau.


Bod yn atebol
Llywodraethu corfforaethol
Mae ein fframwaith llywodraethu yn nodi'r ffordd y mae Comisiwn y Senedd yn cael ei lywodraethu a'i reoli. Ynghyd â sut mae'n atebol am yr hyn y mae'n ei wneud.
Darllenwch fwy am y sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd fframwaith llywodraethu'r Comisiwn o ran cyflawni ein nodau strategol.
Datganiadau ariannol
Datganiadau Comisiwn y Senedd 2023-24
Defnyddir ein cyllideb i dalu costau rhedeg y Senedd, yn ogystal â chostau sy’n gysylltiedig ag Aelodau o’r Senedd, fel y’u pennir gan y Bwrdd Taliadau Annibynnol.
Mae'r adroddiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am ein perfformiad ariannol a gweithredol.


Cynnwys pawb
Amrywiaeth a chynhwysiant
Mae creu gweithle parchus, amrywiol a chynhwysol nid yn unig o fudd i’n gweithwyr ond hefyd yn gwella ein gallu i gynrychioli ac ymgysylltu’n well â phobl Cymru wrth gefnogi gwaith Senedd gynhwysol.
Gweithlu sy’n gynrychioliadol
Gweithlu, recriwtio, adrodd ar y bwlch cyflog ac adroddiad archwiliad cyflog cyfartal
Bob blwyddyn, rydym yn casglu, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi data amrywiaeth ar broffil ein gweithlu, gweithgarwch recriwtio a chyflog staff.
Mae'r wybodaeth hon yn llywio ein hymagwedd at fod yn recriwtiwr a chyflogwr cynhwysol, er mwyn diwallu anghenion amrywiol staff, ac i geisio sicrhau bod ein gweithlu yn cynrychioli amrywiaeth y cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.


Croeso and welcome
Y cynllun ieithoedd swyddogol
Nid yw ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf wedi newid. Nac ychwaith ein hymrwymiad i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn technoleg iaith, a gweithio’n ddwyieithog.
Rydym yn rhannu ein cynnydd, fel y gallwch chi ymuno â ni ar y daith hon.
Cynyddu nodau, lleihau ôl troed
Cynaliadwyedd
Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer dyfodol carbon isel, drwy weithio i wneud ôl troed gweithrediadau’r Senedd yn garbon niwtral erbyn 2030.
Gan ganolbwyntio ar wneud dewisiadau cynaliadwy – ynghyd â chynlluniau i gyflenwi gwres carbon isel i'n hadeiladau – rydym yn parhau i wneud cynnydd ar ein nodau.

Lawrlwytho ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon diweddaraf
- Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Senedd 2023-24
- Amrywiaeth a Chynhwysiant: Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
- Cynllun Ieithoedd Swyddogol: Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
- Cynaliadwyedd: Adroddiad Blynyddol 2023 - 2024
- Gweithlu, recriwtio, adrodd ar y bwlch cyflog ac adroddiad archwiliad cyflog cyfartal