Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25
Ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Mae Comisiwn y Senedd yn helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor Senedd Cymru fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol a blaengar—sy'n cyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn nodi sut rydym wedi datblygu blaenoriaethau Comisiwn y Senedd o dan ein nodau strategol.
Ochr yn ochr ag uchafbwyntiau perfformiad a chyflawniadau, mae'r adroddiad yn cynnig adolygiad o'r flwyddyn: sut y gwnaed penderfyniadau, sut y defnyddiwyd adnoddau, a sut y cawsom ein dwyn i gyfrif.
Mae'r cyfrifon—a gynhyrchwyd yn unol â chanllawiau Trysorlys EM ac a ardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru—yn rhan sylweddol o'r adroddiad.

![]()
Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, mae ein sefydliad wedi symud ar gyflymder digynsail at y cyfnod o osod ei raglenni newid trawsnewidiol ar waith – Ffyrdd o Weithio a Diwygio’r Senedd.
—
Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
Y Llywydd, Senedd Cymru

![]()
Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un o edrych yn ôl ar chwarter canrif o ddatganoli, o barhau i wneud y Senedd bresennol yn senedd i bawb, ac o baratoi’n ddiwyd ar gyfer y Seithfed Senedd.
—
Manon Antoniazzi
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd
Cynnydd gyda phwrpas
Dadansoddi perfformiad
Rydym yn ymdrechu i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf, cadw dinasyddion wrth wraidd popeth a wnawn a defnyddio adnoddau'n gynaliadwy.
Eleni, rydym wedi parhau i wneud cynnydd. Dyma gyfle ichi fwrw golwg agosach ar yr hyn rydym wedi'i gyflawni—a sut rydym yn adeiladu ar gyfer y dyfodol.
Darllenwch fwy am yr hyn rydym ni wedi bod yn ei wneud eleni


Llywodraethiant cryf, atebolrwydd clir
Llywodraethiant corfforaethol
Mae ein fframwaith llywodraethiant yn nodi sut mae Comisiwn y Senedd yn cael ei lywodraethu a'i reoli—a sut mae'n parhau i fod yn atebol am ei weithredoedd.
Mae'r adroddiad diweddaraf yn rhoi sicrwydd ynghylch sut mae'r fframwaith hwn yn cefnogi’r broses o gyflawni ein hamcanion strategol.
Archwiliwch yr adroddiad llawn i weld sut rydym yn gwneud i hyn weithio
Trosolwg ariannol
Datganiadau Comisiwn y Senedd 2023-24
Mae ein cyllideb yn cwmpasu costau rhedeg y Senedd, yn ogystal â chostau sy'n gysylltiedig ag Aelodau o’r Senedd—a bennir yn annibynnol gan y Bwrdd Taliadau.
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn amlinellu ein perfformiad ariannol a gweithredol dros y flwyddyn.


Senedd hygyrch i bawb
Amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i fod yn senedd hygyrch sy'n cynrychioli pawb yng Nghymru—ac yn croesawu pobl o bob cwr o'r byd.
Rydym yn anelu at fod yn sefydliad cynhwysol ac enghreifftiol i'n staff, Aelodau o’r Senedd, a'r cyhoedd a wasanaethwn.
Adlewyrchu'r Gymru rydyn ni'n ei gwasanaethu
Gweithlu, recriwtio, adrodd ar y bwlch cyflog ac adroddiad archwiliad cyflog cyfartal
Bob blwyddyn, rydym yn casglu, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi data amrywiaeth ar broffil ein gweithlu, gweithgarwch recriwtio a chyflog staff.
Mae'r fewnwelediad hwn yn llunio ein dull o recriwtio a chyflogaeth gynhwysol—gan ein helpu i ddiwallu anghenion amrywiol ein staff, ac adeiladu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cyhoedd a wasanaethwn.


Dwyieithog o’r cychwyn cyntaf
Y cynllun ieithoedd swyddogol
Mae ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o'r radd flaenaf yn parhau i fod yn gryf.
Rydym, hefyd, yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau iaith a hyder ar bob lefel o'r sefydliad.
At hynny, rydym yn agored o ran ein cynnydd—felly gallwch ei ddilyn, a bod yn rhan o'r daith.
Cynyddu nodau, lleihau ôl troed
Cynaliadwyedd
Rydym yn gweithio i wneud gweithrediadau'r Senedd yn garbon niwtral erbyn 2030—sy’n rhan o'n hymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd.
Mae ein hadroddiadau carbon Cwmpas 3 yn gwella ac rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu data cyflenwyr mwy cywir—gan dargedu'r meysydd sydd â'r potensial mwyaf i gael effaith.
Darllenwch fwy am sut rydym yn lleihau ein heffaith amgylcheddol

Lawrlwytho ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon diweddaraf
- Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Senedd 2024-2025
- Amrywiaeth a Chynhwysiant: Adroddiad Blynyddol 2024-2025
- Cynllun Ieithoedd Swyddogol: Adroddiad Blynyddol 2024-2025
- Cynaliadwyedd: Adroddiad Blynyddol 2024-2025
- Gweithlu, recriwtio, adrodd ar y bwlch cyflog ac adroddiad archwiliad cyflog cyfartal