Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23
Ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Rydym yn gwasanaethu’r Senedd i hwyluso ei llwyddiant hirdymor fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol a blaengar sy’n gweithredu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn manylu sut rydym wedi datblygu gwaith ar flaenoriaethau Comisiwn y Senedd o dan ein nodau strategol.
Yn ogystal ag amlinellu ein perfformiad a'n cyflawniadau, mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'n gweithgareddau dros y flwyddyn. Mae'n disgrifio sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut y mae adnoddau’n cael eu defnyddio. Mae ein cyfrifon yn rhan sylweddol o’r adroddiad, ac maent wedi’u llunio yn unol â chanllawiau Trysorlys EM a’u hardystio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
![]()
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi rheswm i ystyried yn ôl ar y gorffennol ac edrych tua’r dyfodol. Mae wedi bod yn galonogol gweld pobl Cymru yn mwynhau eu senedd drostyn nhw eu hunain unwaith eto.
—
Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
Llywydd, Senedd Cymru

![]()
Fel Senedd, rydym wedi parhau i roi sylw i’r anawsterau mae’r cyhoedd wedi’u hwynebu yn sgil sefyllfa economaidd anodd dros ben…[rydym] wedi sicrhau bod llais y cyhoedd yn ganolog i’n gwaith.
—
Manon Antoniazzi
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

UCHAFBWYNTIAU
Cymorth seneddol o'r radd flaenaf
Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethom barhau i gefnogi'r Senedd i'w helpu i gynrychioli pobl Cymru a chyflawni ar eu cyfer.
O weithio gyda seneddau eraill i rannu gwybodaeth ac arfer gorau, i greu rhaglen ar gyfer Diwygio’r Senedd, rydym wedi cefnogi’r Aelodau i weithio’n effeithiol dros bobl Cymru.
Rhoi chi wrth wraidd yr hyn a wnawn
Mae dinasyddion Cymru bob amser wedi bod, a byddant bob amser, wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Rydym wedi parhau i dynnu sylw at y materion sydd o’r pwys mwyaf i bobl, i wella dealltwriaeth o’r hyn y mae’r Senedd yn ei wneud, ac i gynyddu cyfranogiad pobl a’u cynnwys yng ngwaith y Senedd.
Adnoddau cynaliadwy
Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio adnoddau’n gynaliadwy.
O gefnogi llesiant a chynhyrchiant staff, i ddefnyddio cyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, rydym yn parhau i gymryd cynaliadwyedd o ddifrif.
Rydym wedi mabwysiadu mesurau effeithlonrwydd pellach i arbed ynni ac mae hyn wedi ein helpu i barhau i leihau ein hôl troed carbon.