Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22
Ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Rydym yn gwasanaethu’r Senedd i hwyluso ei llwyddiant hirdymor fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol a blaengar sy’n gweithredu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.
Yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon rydym yn rhoi manylion ynglŷn â sut rydym wedi datblygu gwaith ar flaenoriaethau Comisiwn y Senedd o dan ein nodau strategol.
Yn ogystal ag amlinellu ein perfformiad a’n cyflawniadau, mae’r Adroddiad yn rhoi trosolwg o’n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn. Mae’n disgrifio sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio. Mae ein cyfrifon yn rhan sylweddol o’r Adroddiad, ac fe’i lluniwyd yn unol â chanllawiau Trysorlys Ei Mawrhydi ac fe’i ardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
LLYWYDD A PHRIF WEITHREDWR A CHLERC Y SENEDD
![]()
“Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau Seneddol effeithiol er budd pobl Cymru.”
—
Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
Llywydd, Senedd Cymru

![]()
Drwy gydol y pandemig, daeth staff y Comisiwn o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wneud yn siŵr bod busnes y Senedd wedi parhau i fynd rhagddo gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl.
—
Manon Antoniazzi
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

UCHAFBWYNTIAU
Cymorth seneddol o'r radd flaenaf
Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethom barhau i gefnogi'r Senedd i'w helpu i gyflawni dros bobl Cymru a'u cynrychioli.
O gynlluniau cyflawni corfforaethol newydd i symleiddio fframweithiau rheoleiddio, rydym wedi rhagori o ran cefnogi Aelodau i weithio'n effeithiol dros bobl yng Nghymru.
Rhoi chi wrth wraidd yr hyn a wnawn
Mae rhoi dinasyddion Cymru wrth wraidd yr hyn a wnawn bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i ni, ac mae’n parhau i fod felly.
Eleni, gwnaethom ymgysylltu â phobl ledled Cymru i glywed profiadau go iawn, addasu ein rhaglen ymgysylltu i gynnwys digwyddiadau ar-lein, a chynhyrchu ymgyrch genedlaethol i annog pobl i gymryd rhan yn Etholiad y Senedd yn 2021.
Adnoddau cynaliadwy
Un o'n nodau allweddol yw defnyddio adnoddau’n gynaliadwy.
O leihau ein hôl troed carbon i adolygu ein cynhyrchiant, rydym yn cymryd cynaliadwyedd o ddifrif.
Ym mis Rhagfyr 2021, gwnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Carbon Niwtral sy'n nodi ein cynllun i fod yn garbon niwtral net erbyn 2030.